English

Nod y ddogfen hon yw eich helpu i ymgymryd â’ch dyletswyddau diogelu fel bwrdd llywodraethu. Gellir ei hystyried yn ddogfen ategol i ganllawiau statudol Llywodraeth Cymru, ‘Cadw dysgwyr yn ddiogel’, sy'n nodi rolau a chyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu plant. Mae hyn yn cynnwys helpu ysgolion i ddarparu amgylchedd diogel, cyfrifol a chefnogol ar gyfer dysgu, ac atal mynediad at ddeunydd amhriodol neu niweidiol.

Holl lywodraethwyr a chyrff llywodraethu ysgolion a cholegau Cymru

Mae pobl ifanc yn dweud bod arweinwyr ysgolion ac athrawon yn tanamcangyfrif bob amser nifer yr achosion o aflonyddu rhywiol ar-lein rhwng plant a phobl ifanc. Mae ystadegau adroddiad Estyn (Rhagfyr 2021) yn cadarnhau bod hwn yn fater hynod bwysig sy'n effeithio ar blant – dywedodd 76% o ddisgyblion eu bod wedi gweld aflonyddu rhywiol yn digwydd i eraill, a dywedodd 86% o ferched eu bod wedi gweld neu brofi aflonyddu rhywiol gan gyfoedion. 'Yn fwy aml ar-lein' oedd yr ateb mwyaf poblogaidd i 'ble mae aflonyddu rhywiol rhwng disgyblion yn digwydd amlaf?'. Mae Estyn yn argymell bod ysgolion yn cydnabod bod aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn gyffredin iawn ym mywydau dysgwyr ac y dylid dilyn dull ataliol a rhagweithiol ar lefel ysgol gyfan i ddelio ag ef.  

Mae'r ddogfen fer hon yn esbonio beth yw aflonyddu rhywiol ar-lein, ac yn tynnu sylw at wybodaeth ychwanegol sydd ar gael. Mae hefyd yn cynnig cwestiynau allweddol y dylech fod yn eu gofyn yn eich rôl fel llywodraethwr/arweinydd ysgol, i gefnogi'r ysgol yn ei gwaith o ddeall, atal ac ymateb i aflonyddu rhywiol ar-lein rhwng plant a phobl ifanc.

Wrth sôn am aflonyddu rhywiol ar-lein, rydym yn golygu unrhyw ymddygiad rhywiol digroeso sy'n digwydd ar unrhyw blatfform digidol. Gall fod ar amrywiol ffurfiau, gan gynnwys bygythiadau rhywiol, bwlio rhywiol, cyswllt rhywiol digroeso a rhannu neu greu delweddau neu fideos personol heb gydsyniad yr unigolyn. Mae'n gallu codi ofn ar berson, creu ymdeimlad o fygythiad, cywilydd neu waradwydd, a gwneud i berson deimlo bod rhywun yn gwahaniaethu yn ei erbyn hyd yn oed.