Adrodd ar broblem ar-lein
Mae rhoi gwybod am gynnwys neu weithgaredd niweidiol yr ydych wedi'i brofi neu ei weld ar-lein yn un ffordd bwysig o sicrhau bod mwy o bobl yn cael eu hamddiffyn rhag niwed ar-lein.
- Rhan o
Adrodd ar broblem ar-lein a chael gwared ar gynnwys niweidiol
Mae’r mwyafrif o ddarparwyr gwasanaethau yn cynnig ffyrdd i ddeiliaid cyfrifon adrodd am broblemau, ac mae rhai yn cynnig dull adrodd cyhoeddus sy’n caniatáu i drydydd parti adrodd ar ran plentyn neu berson ifanc. Gall hysbysu llwyfannau neu wasanaethau arbenigol eraill helpu i sicrhau bod camau priodol yn cael eu cymryd a helpu i greu amgylchedd ar-lein mwy diogel i bawb.
Mae canllawiau ynghylch apiau i deuluoedd ar Hwb yn rhoi cyngor ar sut i adrodd ar broblem ar rai o’r rhwydweithiau cymdeithasol, apiau a gwefannau gemau mwyaf poblogaidd.
Cofiwch, os ydych chi'n meddwl bod rhywun mewn perygl uniongyrchol, yna dylech ffonio 999 i roi gwybod i'r heddlu.

Pethau i'w hystyried wrth adrodd ar broblemau ar-lein
Awgrymiadau i'ch helpu i adrodd cynnwys anghyfreithlon a chynnwys cyfreithiol ond niweidiol
Casglu tystiolaeth
Os ydych chi wedi bod yn dyst i neu wedi profi cynnwys niweidiol ar-lein ac eisiau rhoi gwybod am hyn, casglwch y dystiolaeth briodol a fydd yn helpu wrth adrodd. Os yn bosibl, cymerwch sgrinluniau, URLs a nodwch dyddiadau ac amser, gall y rhain i gyd helpu.
Dewis y sianel adrodd gywir
Wrth roi gwybod am gynnwys ar-lein mae'n hanfodol eich bod yn defnyddio'r gwasanaeth mwyaf priodol er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn y gefnogaeth gywir.
Siarad â rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo
Mae'n bwysig cael cefnogaeth os ydych wedi profi problem ar-lein. Os ydych chi'n chwilio am help neu wybodaeth, ond rydych chi'n poeni am ddechrau sgwrs gydag oedolyn, dyma rai awgrymiadau.
Gall y canllaw hwn hefyd helpu rhieni a gofalwyr i gael sgwrs gyda'u plentyn am fater sensitif.
Adnoddau adrodd arbenigol eraill a all eich cefnogi i adrodd cynnwys ar-lein

Riportio Cynnwys Niweidiol
Canolfan adrodd genedlaethol sy’n helpu i adrodd ar gynnwys niweidiol ar-lein. Mae’r gwasanaeth hwn yn rhoi cymorth penodol mewn perthynas â'r math canlynol o niwed ar-lein: camdriniaeth ar-lein; bwlio neu aflonyddu; bygythiadau; personoaduad; cynigion rhywiol di-groeso (nad ydynt yn ddelweddau); cynnwys treisgar; cynnwys yn ymwneud â hunan-niweidio neu hunanladdiad; cynnwys pornograffig.

Report Remove
Gall plant a phobl ifanc ddefnyddio adnodd Report Remove gan Childline i adrodd am luniau a fideos noeth y maent yn poeni sydd wedi cael eu rhannu’n gyhoeddus, neu y gallant fod wedi cael eu rhannu’n gyhoeddus (Saesneg yn unig).

Action Fraud
Dylech adrodd am unrhyw achos o dwyllo neu drosedd seiber yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon i Ganolfan Adrodd Twyll a Throseddau Seiber y Deyrnas Unedig. (Saesneg yn unig)

CEOP
Gallwch adrodd pryderon am gam-drin rhywiol yn ddiogel ar wefan y Ganolfan Camfanteisio ar Blant a’u Hamddiffyn Ar-lein. (Saesneg yn unig)

Internet Watch Foundation (IWF)
Adrodd ar gynnwys sy’n dangos cam-drin plant yn rhywiol a delweddau o gam-drin plant yn rhywiol nad ydynt yn luniau. (Saesneg yn unig)
Barn yr arbenigwyr

Riportio Cynnwys Niweidiol
Yn yr erthygl hon gan SWGfL, eglurir rôl ei ganolfan adrodd genedlaethol wrth ddarparu cyngor am bob math o niwed ar-lein a chyfeirio defnyddwyr at y gwasanaethau cywir.