English

Ar ddechrau’r argyfwng Coronafeirws (Covid-19), pan gaewyd ysgolion Cymru yn y lle cyntaf, galwyd ar blant a phobl ifanc Cymru i fod yn Arwyr Hwb drwy greu negeseuon i’w rhannu gyda phobl hŷn ac agored i niwed ar draws Cymru.

Roeddem wrth ein bodd o dderbyn dros 1,000 o gynigion gan blant a phobl ifanc Cymru, yn darparu negeseuon meddylgar a chefnogol i’r rhai mwyaf anghenus. Derbyniwyd darluniau, cerddi, straeon, caneuon a dawnsfeydd, ac mae’r cyfan wedi cael eu rhannu gyda chartrefi gofal ym mhob cwr o Gymru, ac ar gael i unrhyw un eu gweld ar y dudalen hon.

 

Diolch i bawb a roddodd eu hamser i gynhyrchu’r negeseuon calonogol tu hwnt yma. Gallwch ymfalchïo yn y ffaith eich bod wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl ar yr adeg pan oedd angen hynny fwyaf!

 

Bydd y dudalen hon yn cael ei chadw ac yn parhau i gael ei rhannu gyda’r cartrefi gofal drwy gydol y pandemig.


Mae’r dyddiad cau ar gyfer Arwyr Hwb bellach wedi pasio.

Hoffem ddiolch o galon i bawb a roddodd eu hamser i greu negeseuon fel rhan o’r ymgyrch hon. Rydych wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol i fywydau pobl hŷn ac agored i niwed yng Nghymru nad oedd yn medru gweld eu ffrindiau na’u teuluoedd yn ystod y cyfnod anodd hwn.

 


Cliciwch ar y botwm ehangu yn y ffenestr isod i weld y negeseuon yn eu maint llawn.