English

Ymunwch â ni am gyfres gyffrous newydd o sesiynau ar-lein lle rydyn ni’n gwahodd arbenigwyr ym maes addysgu a dysgu digidol i'ch helpu i fanteisio i’r eithaf ar Hwb.

Adobe

Mae Adobe Express yn parhau i esblygu gyda mwy o integreiddiadau, nodweddion Deallusrwydd Artiffisial, animeiddiadau ac opsiynau sain nag erioed. Cadwch un cam ar y blaen trwy ddysgu'r holl awgrymiadau a thriciau diweddaraf gan Dîm Adobe Education.

Ymunwch â ni ac Adobe am 3:30pm ar 10 Mehefin 2024, i archwilio sut y gallwch ddefnyddio Adobe Express ar draws y cwricwlwm a datblygu sgiliau digidol dysgwyr.

Mae'r sesiwn hon yn addas ar gyfer ymarferwyr sy’n gweithio gyda dysgwyr rhwng 5 a 16 oed.

Trwy Hwb, mae Adobe Express ar gael yn rhad ac am ddim i'w ddefnyddio gan bob athro a disgybl mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru.

Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad hwn

Just2Easy

Meddwl cyfrifiannol yw dadansoddi problemau er mwyn helpu i’w datrys yn effeithiol. Mae’n annog dysgwyr i feddwl yn feirniadol, dadansoddi sefyllfaoedd, nodi patrymau a gwneud penderfyniadau er mwyn datrys problem.

Mae cyflwyno meddwl cyfrifiannol yn yr ystafell ddosbarth yn gallu bod yn heriol, felly dewch i’n sesiwn ni a’n partneriaid am 3:30pm ar 24 Mehefin 2024, i archwilio sut y gallwch chi ddefnyddio adnoddau Just2easy i ddatblygu meddwl cyfrifiannol. 

Mae'r sesiwn hon yn addas ar gyfer ymarferwyr sy’n gweithio gyda dysgwyr rhwng 5 a 11 oed.

Bydd yn cynnwys:

  • archwilio j2code gan gynnwys:
  • JIT turtle
  • Visual
  • j2logo
  • Microbit

Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad hwn