English

Adnoddau

Cadw'n ddiogel ar-lein

Dysgwch sut i fynd i'r afael â bwlio ar-lein a dod o hyd i gymorth gyda'r adnoddau bwlio ar-lein hyn ar Hwb.

Archwiliwch y tudalennau sy’n rhoi cyngor Cadw’n Ddiogel ar-lein ar Hwb, sydd wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae'r casgliad hwn yn cynnig cyngor ac arweiniad ymarferol i'ch helpu i lywio eich ffordd drwy faterion a phryderon ar-lein ac ymateb yn hyderus iddynt. I gael canllawiau a gwybodaeth am fwlio ar-lein, ewch i'n tudalen pwnc am fwlio ar-lein.

Cymorth a chefnogaeth

Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn cael trafferth ymdopi, mae cymorth ar gael.

Meic

Meic yw'r gwasanaeth llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. Ffoniwch 080 880 23456, anfon neges destun at 07943 114 449, neu defnyddiwch y gwasanaeth sgwrsio ar-lein.

Childline

Gallwch gysylltu â Childline i drafod unrhyw beth, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Gallwch ffonio 0800 1111 yn rhad ac am ddim neu gallwch gael sgwrs un-i-un gyda chwnselydd ar-lein.

Samariaid

I siarad am unrhyw beth sy'n peri gofid i chi, gallwch gysylltu â’r Samariaid 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Gallwch ffonio 116 123 yn rhad ac am ddim, defnyddio'r gwasanaeth sgwrsio ar-lein, e-bostio jo@samaritans.org, neu ddod o hyd i'ch cangen agosaf i gael cymorth wyneb yn wyneb. Gallwch hefyd ffonio'r Llinell Gymraeg ar 0808 164 0123 (bob dydd rhwng 7pm ac 11pm).

Mind

Os yw pethau’n anodd i chi, gall Mind roi cyngor a chefnogaeth i'ch helpu chi. Gallwch ffonio 0300 102 1234 (9am i 6pm, dydd Llun i ddydd Gwener).