Asesiadau personol
-
- Rhan o:
- Canolfan Cymorth
Cynulleidfa a awgrymir:
- consortia addysg rhanbarthol a staff yr awdurdodau lleol sydd â chyfrifoldeb dros lythrennydd, rhifedd neu asesu
- llywodraethwyr ysgolion
- gweithwyr addysg proffesiynol eraill nad ydynt yn staff ysgol ac felly nad oes ganddynt fynediad i’r wefan Asesiadau Personol.
Mae’r holl wybodaeth ac adnoddau ar y tudalennau hyn i’w cael ar y wefan asesiadau, y gall staff ysgolion gael mynediad iddi.
I gael cymorth gyda’r asesiadau personol, cysylltwch â'r Ddesg Gymorth Asesiadau (ar gyfer ysgolion yn unig) ar 029 2026 5099 neu cymorth@asesiadaupersonol.cymru.
I gael cymorth ar reoli cyfrifon defnyddwyr Hwb yr ysgol, cysylltwch â hwb@llyw.cymru neu 0300 0252525.
Diben ffurfiannol sydd i’r asesiadau personol, sef helpu dysgwyr i wneud cynnydd, drwy ddeall beth maent yn gallu ei wneud, y pethau y mae angen iddynt weithio arnynt, a’u camau nesaf.
Caiff yr asesiadau eu gwneud ar-lein ac maent yn addasol h.y. caiff y cwestiynau eu dewis yn seiliedig ar ymateb y dysgwr i’r cwestiwn blaenorol. Os bydd dysgwr yn ateb cwestiwn yn anghywir, gofynnir cwestiwn haws iddo; os bydd dysgwr yn ateb cwestiwn yn gywir, gofynnir cwestiwn mwy heriol iddo. Mae hyn yn darparu profiad asesu unigol ac yn teilwra lefel y her i bob dysgwr.
Bydd yr wybodaeth o’r asesiadau personol (gan gynnwys adborth ar gynnydd dysgwyr unigol, ac adroddiadau grwp) yn ychwanegu at yr hyn y mae athrawon yn ei wybod am ddarllen a rhifedd eu dysgwyr o’u gwaith bob dydd yn y dosbarth ac eu helpu i gynllunio camau nesaf eu dysgwyr.
Mynediad i asesiadau personol
Gall penaethiaid, athrawon a dysgwyr (mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru) gael mynediad i’r wefan Asesiadau Personol drwy ddefnyddio eu manylion mewngofnodi i Hwb.
Penaethiaid sy’n penderfynu pa rai o’u staff sy’n cael mynediad i’r asesiadau ac adroddiadau; nid yw’r wefan ar gael i unigolion nad ydynt ar system MIS yr ysgol.
Llawlyfr Gweinyddu
Mae’r Llawlyfr Gweinyddu’n nodi’r trefniadau ar gyfer yr Asesiadau Personol Cenedlaethol ar gyfer Darllen a Rhifedd sydd i’w gwneud gan ddysgwr ym Mlynyddoedd 2 i 9 mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru.
Cyfeiriwch at y llawlyfr hwn am wybodaeth ynghylch:
- amseru’r asesiadau personol
- mynediad i’r asesiadau personol
- rheoli defnyddwyr
- trefnu a gwneud asesiadau
- adborth ac adroddiadau ar asesiadau
- addasiadau a datgymhwyso.
Newidiadau allweddol ar gyfer Medi 2023
Ar gyfer asesiadau o fis Medi 2023, bydd sgoriau cynnydd a sgoriau safonedig ar sail oedran yn ystyried 'amser dysgu’. Mae amser dysgu yn cyfeirio at yr adeg yn y flwyddyn ysgol pan fydd dysgwr yn cwblhau asesiad. Darllenwch ‘Newidiadau allweddol ar gyfer Medi 2023’ i ddarganfod mwy.
Canllaw i ddefnyddwyr
Mae’r canllaw i ddefnyddwyr yn nodi’r prosesau ar gyfer gweinyddu’r asesiadau personol y bydd pob dysgwr ym Mlynyddoedd 2 i 9 yn eu sefyll mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru.
Cyfeiriwch at y canllaw hwn am wybodaeth ynghylch sut mae’r asesiadau personol yn gweithio, y gofynion a’r gosodiadau TG, amodau gweinyddu’r asesiadau, y personél sydd i weinyddu’r asesiadau, cael mynediad at adroddiadau a’u dehongli, a sut i gael mynediad at fersiynau wedi’u haddasu o’r asesiadau.
Mae’r canllaw yn cynnwys atodiad ar reoli asesiadau dysgwyr sydd wedi’u cofrestru mewn ysgol yn ogystal ag mewn uned cyfeirio disgyblion.
Canllawiau i ymarferwyr ar adborth dysgwyr unigol ac adroddiadau cynnydd
Mae'r canllawiau hyn yn tynnu sylw at rai pwyntiau allweddol a allai fod o gymorth i gefnogi dysgu, addysgu a chynllunio cynnydd. Maent hefyd yn nodi pa adroddiadau y dylid eu rhannu â rhieni/gofalwyr, ac yn ateb cwestiynau a allai fod gan rieni/gofalwyr.
Fideos ‘Sut i’
Mae’r fideos hyfforddi canlynol yn rhoi canllawiau cam-wrth-gam i staff yr ysgol ar gyfer pob cam o’r broses o drefnu a chynnal yr asesiadau a chael mynediad i’r adroddiadau.
Gweld yr adroddiadau a rhedeg ymholiad
Bydd adroddiadau adborth a chynnydd ar gael y diwrnod ar ôl yr asesiad. Bydd adroddiadau grwp ar gael ar gais. Mae rhaid i athro ryddhau adborth dysgwr unigol cyn i’r dysgwr allu ei weld.
Mwy o wybodaeth
Yn ogystal â’r Llawlyfr Gweinyddu, y Canllaw i Ddefnyddwyr a’r Canllawiau i Ymarferwyr uchod, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dogfennau a fideos eraill sydd ar gael o'n tudalen asesiadau personol:
Clipiau fideo: barn a phrofiadau dysgwyr, athrawon ac arbenigwyr
Animeiddiadau: Cyflwyniad i’r Asesiadau Personol ac esboniad o’r adborth i ddysgwyr
Asesiadau ymgyfarwyddo enghreifftiol
Cyn i ddysgwyr wneud asesiad personol, dylai athrawon sicrhau eu bod nhw eisoes wedi gwneud asesiad ymgyfarwyddo, naill ai yn unigol, fel dosbarth neu mewn grwpiau llai – er mwyn gweld y mathau o gwestiynau a rhoi cynnig arnynt.
Mae’r asesiadau ymgyfarwyddo isod ar gael er mwyn i gydweithwyr sydd heb fanylion mewngofnodi ysgol i Hwb (e.e. staff rhanbarthol â chyfrifoldeb am lythrennedd, rhifedd neu asesu, ac sydd â rôl i gefnogi ysgolion) gael blas ar y gwahanol fathau o gwestiynau y bydd dysgwyr yn dod ar eu traws yn eu hasesiadau byw. Rhestrir y rhain isod fesul grwp oedran ar gyfer Rhifedd (Gweithdrefnol), a Darllen yn Gymraeg a Saesneg.