English
Gwybodaeth

Ymwadiad

Yn flaenorol, roedd Wink yn cael ei farchnata fel ap cyfrwng cymdeithasol. Mae bellach yn marchnata ei hun fel ap detio neu ffrindiau sy’n addas ar gyfer defnyddwyr 18+. Argymhellir nad yw defnyddwyr o dan 18 yn defnyddio’r ap hwn.

Ap rhwydweithio cymdeithasol rhad ac am ddim a ddatblygwyd gan 9 Count Inc yn 2019 yw Wink, gyda'r nod o fod yn ffordd o wneud ffrindiau ar-lein. Cyflwynir proffiliau gyda rhestr o hobïau a disgrifiad bach wedi'i ysgrifennu gan y defnyddiwr. Yna mae defnyddwyr yn penderfynu a ddylid derbyn neu wrthod cais y ffrind, gan sweipio i'r chwith neu i’r dde. Mae Wink yn annog defnyddwyr i gysylltu'r ap â'u tudalennau cyfryngau cymdeithasol eraill, fel Snapchat. Unwaith y bydd defnyddwyr wedi cyfnewid gwybodaeth proffil trwy'r ap Wink, gall eu sgyrsiau barhau trwy Snapchat, neu apiau sgwrsio trydydd parti eraill. Mae'r ap ar gael ar Apple App Store a Google Play, lle nad oes costau ymlaen llaw. Fodd bynnag, mae defnyddwyr yn cael eu hannog i brynu 'Wink Plus' fel y gallan nhw sweipio’n ddiderfyn neu weld proffiliau wedi'u dilysu yn unig. Gall defnyddwyr chwilio am ddefnyddwyr eraill i wneud ffrindiau a chysylltu yn seiliedig ar ddiddordebau cyffredin, fel chwaeth gerddorol neu hoff hobïau.

Y cyfyngiad oedran ieuengaf ar gyfer defnyddwyr Wink yw 13, ond dydy hi ddim yn ymddangos bod unrhyw ddulliau gwirio oedran penodol.

Gall defnyddwyr 18+ oed sgwrsio â'r holl broffiliau eraill dros 18 oed. Fodd bynnag, gall defnyddwyr 17 oed ac iau ddim ond sgwrsio gyda defnyddwyr eraill rhwng 13 a 17 oed.

Mae Wink yn cael sgôr o 17+ ar Apple App Store a Google Play yn argymell ‘Mature 17+’.

Dysgwch fwy am sgoriau oedran yn ein 'Canllaw i rieni a gofalwyr ar sgoriau oedran mewn apiau a gemau’.

Ap rhwydweithio cymdeithasol ar ffurf sweipio, a ddefnyddir yn gyffredinol i wneud ffrindiau. Un ffordd boblogaidd o ddefnyddio'r ap yw er mwyn cwrdd â 'penpals' rhyngwladol. Yn gyffredinol, mae defnyddwyr yn dweud nad yw Wink wedi'i ddatblygu'n ddigonol gan fod mân broblemau yn gyffredin - gyda newidiadau'n cael eu gwneud yn aml heb reoli ansawdd, a sgyrsiau rhwng defnyddwyr ddim yn diweddaru'n gywir bob amser. Nodwyd bod y sail defnyddwyr yn cynnwys llawer o gyfrifon amheus sy'n cymryd rhan mewn ymddygiad rheibus, 'bachu' rhywiol a sgamio. Mae Wink wedi'i baru orau gyda Snapchat ac mae'r ap yn annog pobl i gysylltu'r cyfrifon hyn. Mae llawer o ddefnyddwyr yn dweud mai’r elfen hon sydd o ddiddordeb mwyaf iddyn nhw, gan ei fod yn caniatáu iddyn nhw ddod o hyd i bobl newydd i sgwrsio gyda nhw.

  • Nodwedd 'amdanaf i' lle gall y defnyddiwr ysgrifennu unrhyw fanylion amdanyn nhw eu hunain, hyd at 255 o nodau.

  • Rhaglenni bach sy'n rhedeg o fewn yr ap yw'r rhain, ac sy'n cael eu creu gan ddatblygwyr trydydd parti. Rhaglenni cyfrifiadurol yw bots ('robot' yn fyr) sydd wedi'u cynllunio i efelychu gweithgaredd dynol a chwblhau tasgau ailadroddus. O fewn Wink, mae bots yn broffiliau awtomataidd sydd fel arfer yn cael eu defnyddio i hysbysebu proffiliau cyfryngau cymdeithasol ar blatfformau eraill.

  • Mae angen talu am yr elfen hon o'r ap, sy'n hybu proffil am 30 munud gan gynyddu'r siawns i ddefnyddwyr allu gweld eich proffil.

  • Dyma'r cysylltiadau rydych chi wedi'u derbyn i weld eich proffil. Gallan nhw fod yn rhywun mae defnyddwyr yn eu hadnabod mewn bywyd go iawn yn ogystal â'r rheini rydych chi wedi'u cyfarfod ar-lein yn unig.

  • Mae hyn yn cyfeirio at yr arian cyfred mewn ap a ddefnyddir i brynu eitemau, fel themâu proffil neu gardiau sweipio.

  • Mae hyn yn cyfeirio at dagiau parod am y defnyddiwr sy'n nodi ei ddiddordebau, er enghraifft genres cerddorol neu'r mathau o ffilmiau sydd o ddiddordeb iddo.

  • Pan fydd y defnyddiwr yn sweipio i'r dde ar broffil, mae hynny'n anfon cais ffrind at ddefnyddiwr arall. Gall y defnyddiwr arall naill ai dderbyn y cais hwn, a dod yn ffrindiau, neu ei wrthod.

  • Nodwedd sy'n caniatáu i'r defnyddiwr ymweld â phroffil a wrthodwyd ganddyn nhw’n flaenorol.

  • Defnyddiwr sy'n hyrwyddo gwerthu cynhyrchion neu wasanaethau ffug am arian.

  • Siop mewn ap Wink lle gall y defnyddiwr brynu themâu proffil neu gardiau sweipio.

  • Hwb 3 awr i'r proffil (am dâl) sy'n para'n hwy na'r 'Boost' cyffredinol. Mae hyn yn caniatáu mwy o amlygrwydd i broffil rhywun ar y platfform.

  • Mae hyn yn cyfeirio at sut mae defnyddwyr yn dod o hyd i ddefnyddwyr eraill yn yr ap. Er enghraifft, sweipio i'r chwith (gwrthod) neu sweipio i'r dde (anfon cais). Mae sweipio i'r dde yn costio 10 gem oni bai bod y defnyddiwr yn defnyddio Wink Plus, sy'n uwchraddiad am dâl.

  • Mae hyn yn cyfeirio at gyfrifon lle mae'r llun proffil wedi'i asesu fel un deiliad y cyfrif ac nid rhywun arall. I wirio cyfrif, mae defnyddwyr yn cael eu hysgogi i dynnu hunlun. Os yw'r llun yn cyfateb i'r proffil, bydd y cyfrif yn cael ei ddilysu.

  • Sain 'amdana i' lle mae'r defnyddiwr yn ateb cwestiwn o ddiddordeb sylfaenol, sy'n caniatáu i ddefnyddwyr eraill glywed ei lais.

  • Cod ID Wink-benodol y defnyddiwr y gallai ddewis ei rannu â defnyddwyr eraill.

  • Nodwedd premiwm Wink sy'n caniatáu mynediad i chwilio heb hysbysebion, sweipio diderfyn, ailddirwyn (rewinds) a chwilio am broffiliau sydd wedi'u dilysu'n unig.

Gan fod y negeseuon ar Wink yn cael eu cynhyrchu gan ddefnyddwyr, dydy cynnwys y negeseuon ddim yn cael ei gymedroli bob amser. Mae hyn yn golygu y gallai'ch plentyn fod yn agored i iaith anweddus neu gynnwys aeddfed. Mae pob math o ddeunyddiau amhriodol i'w weld ar y platfform, gan gynnwys delweddau a thestun. Drwy gyfyngu ar bwy all eich plentyn ei gyrchu ar y platfform, bydd yn llai tebygol o brofi iaith neu ymddygiad anaddas i'w oed.  Gwiriwch fod eich plentyn wedi sefydlu ei gyfrif i adlewyrchu ei oedran go iawn, er mwyn elwa ar gyfyngiadau cysylltiedig ag oedran sydd wedi'u rhoi ar waith gan y platfform. Os dylai'ch plentyn gael mynediad i'r ap, anogwch ef i siarad â chi os yw'n dod ar draws unrhyw gynnwys mae'n ei ganfod yn ofidus neu'n peri pryder.  Siaradwch â'ch plentyn am beryglon rhannu lluniau noeth neu hanner noeth ar-lein a'i atgoffa bod unrhyw ddelweddau rhywiol sy'n cynnwys plant dan 18 oed yn cael eu hystyried yn ddeunydd cam-drin plant yn rhywiol anghyfreithlon.

Gan fod llawer o ddefnyddwyr yn defnyddio Wink i ddod o hyd i ffrindiau newydd ond yna parhau â'u sgyrsiau ar Snapchat, dylai rhieni a gofalwyr neilltuo amser i ymgyfarwyddo â Snapchat. Am fwy o fanylion, darllenwch ganllawiau Snapchat i rieni a gofalwyr.

Er bod gan Wink segmentau oedran er mwyn helpu i ddiogelu defnyddwyr iau rhag cynnwys addas i oedolion yn unig, nid oes unrhyw ddulliau gwirio oedran trylwyr. Mae hyn yn golygu y gallai defnyddwyr dan 18 oed gael mynediad hawdd i'r sgyrsiau 18+, ac y gallai pobl dros 18 oed sydd â diddordeb mewn plant gael mynediad i'r proffiliau 13-17. Atgoffwch eich plentyn i wirio bod cyfrifon defnyddwyr newydd wedi'u dilysu. Dylai hyn helpu i sicrhau mai'r unigolyn y tu ôl i'r cyfrif yw'r hyn y mae'n honni bod. Fodd bynnag, nid yw hyn yn amddiffyniad cadarn ac ni ddylid dibynnu arno'n unig. Siaradwch â'ch plentyn am beryglon cysylltu â dieithriaid ac esboniwch bwysigrwydd peidio â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol neu adnabyddadwy mewn sgyrsiau. Atgoffwch eich plentyn i ddweud wrthych pan fydd rhywun yn gofyn cwestiynau mwy personol neu'n gofyn am sgwrs breifat mewn ap gwahanol.

Gan fod llawer o ddefnyddwyr yn defnyddio Wink i ddod o hyd i ffrindiau newydd ond yna parhau â'u sgyrsiau ar Snapchat, dylai rhieni a gofalwyr neilltuo amser i ymgyfarwyddo â Snapchat. Am fwy o fanylion, darllenwch ganllawiau Snapchat i rieni a gofalwyr.

Mae'r ffaith ei bod hi mor rhwydd gwneud ffrindiau ar Wink yn golygu ei fod yn hwyliog ac yn gwneud i ddefnyddwyr anghofio am y peryglon. Yn anffodus, mae yna rai sy'n ceisio manteisio ar bobl ifanc yn gallu manteisio ar natur agored apiau a safleoedd fel hyn i gysylltu'n uniongyrchol â nhw. Dylai defnyddwyr fod yn ofalus ynglyn â phwy maen nhw'n cwrdd ar-lein, a riportio unrhyw un sy'n gwneud iddyn nhw deimlo'n anghyfforddus. 

Mae'n bwysig egluro i'ch plentyn bod rhywun arall yn gallu tynnu sgrinlun o bob cynnwys sy'n cael ei rannu mewn sgyrsiau, ei gadw a'i rannu'n eang wedyn. Mae'n bwysig ystyried y cynnwys maen nhw'n ei greu a'i rannu bob amser, trwy feddwl yn ofalus a fydden nhw'n hapus i bawb maen nhw'n eu hadnabod ei weld. 

Mae Wink yn annog defnyddwyr i brynu arian cyfred mewn ap o'r enw 'Gems', sy'n eu galluogi i sweipio'n i'r dde (derbyn cais ffrind) ac estyn allan at ddefnyddiwr arall. Mae pob sweip i'r dde yn costio 10 gem. Hefyd, mae angen i ddefnyddwyr y platfform uwchraddio i 'Wink Plus' er mwyn gallu chwilio am gyfrifon wedi'u dilysu yn unig. Siaradwch â'ch plentyn am brynu eitemau mewn ap a gwnewch yn siwr ei fod yn deall bod arian go iawn yn cael ei ddefnyddio i brynu'r eitemau hyn. Gallwch hefyd osod y gosodiadau prynu mewn ap perthnasol ar eich dyfais. Mae rhagor o wybodaeth ar hyn yn adran 'Rheoli amser a phrynu pethau' y canllaw hwn.

Dylai defnyddwyr Wink gofio sut mae'r platfform wedi'i gynllunio i ennyn diddordeb defnyddwyr a'u cadw i ddefnyddio'r ap. Mae'r ap yn anfon hysbysiadau cyson, fel ceisiadau ffrind newydd, sy'n annog defnyddwyr i fewngofnodi. Mae hefyd yn gwobrwyo defnyddwyr gyda gemau ('gems') am gynnal sgyrsiau dros sawl diwrnod. Er enghraifft, bydd defnyddwyr sy'n sgwrsio gyda ffrind am 7 diwrnod yn olynol yn cael 1000 gem i'w defnyddio ar y platfform. Atgoffwch eich plentyn i gymryd hoe fach o'r ap a defnyddio'r gosodiadau hysbysu a restrir yn adran 'Rheoli amser a phrynu pethau' y canllawiau hyn er mwyn helpu i reoli ei amser ar y platfform.

Dylai defnyddwyr Wink gofio bod rhai o'r proffiliau ar y platfform yn cael eu sefydlu gan sgamwyr, sy'n hyrwyddo hysbysebu cynhyrchion ffug am arian. Anogwch eich plentyn i feddwl yn ofalus am ddilysrwydd y pethau mae'n eu gweld ar-lein. Os yw'n ymddangos yn rhy dda i fod yn wir, yna mae'n debyg nad yw'n real ac y dylid ei osgoi ar bob cyfrif.

  • Nid oes gan Wink unrhyw opsiynau gosodiadau i wneud y cyfrif yn breifat. Yn hytrach, argymhellir bod rhieni a gofalwyr yn archwilio'r ddewislen gosodiadau ar ddyfeisiau unigol er mwyn helpu i reoli preifatrwydd.

    I osod i 'Private' (ar iOS):

    • ewch i'r 'Game Centre' yn newislen gosodiadau eich iPhone
    • sgroliwch i lawr i ‘Privacy and settings’ a newid eich ‘Profile privacy’ i ‘Only you’

    I osod i 'Private' (ar Android):

    • ewch i'r ap 'Play games', tapiwch yr eicon dewislen a mynd i 'Settings'
    • dewiswch ‘Game profile’ > ‘Play now’ > ‘Your game profile’
    • addaswch eich gosodiadau ‘Visibility and notifications’ i'r opsiynau mwyaf preifat
  • Mae'r gosodiadau diofyn ar gyfer defnyddwyr 13-17 oed yn golygu mai dim ond gyda phobl yn y grwp oedran hwnnw y gallan nhw sgwrsio. Dylai rhieni a gofalwyr sicrhau bod y cyfrif wedi ei greu gan ddefnyddio'r dyddiad geni cywir er mwyn elwa ar y gosodiad hwn.

    I reoli gosodiadau sgwrsio:

    • ewch i'ch proffil a dewis 'Settings’
    • dewiswch 'Search preferences' ac ewch drwy'r opsiynau rhestredig (dylai defnyddwyr ddewis ‘Verified profiles only’ er mwyn helpu i gyfyngu ar gyswllt â chyfrifon ffug)

    I ddileu eich cyfrif:

    • ewch i'ch proffil a dewis 'Settings’
    • sgroliwch i waelod y dudalen a dewis 'Delete my account'
    • dewiswch o blith y canlynol:
      • The age on my profile is wrong
      • Safety or privacy concerns
      • Too busy / too distracting
      • I can’t find friends
      • Created a second account
      • Something else
    • teipiwch ‘Delete’ yn y blwch testun a dewis ‘Delete’
  • Gall defnyddwyr riportio ddefnyddwyr eraill sy'n eu plagio neu'n ymddwyn yn amhriodol ar y platfform.

    I riportio cyswllt:

    • ewch i'r eicon tri dot ar y brig ar y dde pan fyddwch mewn ffenest sgwrs gyda chyswllt
    • dewiswch 'Report X’
    • pan welwch chi gwestiwn ‘Are you sure you want to report?’ dewiswch ‘Okay’

    I riportio cyswllt heb ei ychwanegu:

    • ewch i'r eicon tri dot ar y brig ar y dde pan fyddwch mewn ffenest sgwrs gyda chyswllt
    • dewiswch un o'r rhesymau canlynol dros riportio a blocio'r defnyddiwr:
      • I’m not interested in this person
      • Inappropriate behaviour
      • Abusive or threatening
      • Spam or scam
      • Stolen photo
    • dewiswch 'Report and block'
    • pan welwch chi gwestiwn ‘Are you sure you want to report?’ dewiswch ‘Okay’

    I rwystro cyswllt:

    • ewch i'r eicon tri dot ar y brig ar y dde pan fyddwch mewn ffenest sgwrs gyda chyswllt
    • dewiswch 'Bloc X’
    • pan welwch chi gwestiwn ‘Are you sure you want to report?’ dewiswch ‘Okay’

    I ddileu ffrind:

    • ewch i'r eicon tri dot ar y brig ar y dde pan fyddwch mewn ffenest sgwrs gyda chyswllt
    • dewiswch 'Unfriend'
    • pan welwch chi gwestiwn ‘Are you sure you want to unfriend X? dewiswch ‘Okay’
  • Does dim gosodiadau yn Wink i reoli hysbysiadau na phrynu. Yn hytrach, dylai rhieni a gofalwyr archwilio'r ddewislen gosodiadau ar ddyfeisiau unigol.

    I reoli hysbysiadau (ar iOS):

    • ewch i'r ddewislen gosodiadau a sgrolio i 'Notifications'
    • chwiliwch am Wink yn y rhestr apiau a diffodd yr opsiwn 'Allow notifications'

    I reoli amser (ar Android):

    • ewch i'r ddewislen gosodiadau a sgrolio i 'Apps’
    • dewch o hyd i Wink yn y rhestr apiau a dewis 'Notifications’
    • diffoddwch yr opsiwn 'Show notifications'

    I analluogi prynu eitemau mewn ap (ar iOS):

    • ewch i ‘Settings’ > ‘Screen time’ a sgrolio i lawr i 'Content and privacy restrictions’
    • dewiswch ‘iTunes and App Store purchases’ a gosod yr opsiwn i ‘Don’t allow’

    I analluogi prynu eitemau mewn ap (ar Android):

    • ewch i'ch ap 'Google Play Store'
    • dewiswch 'Menu' > ‘Settings’ > ‘Require authentication for purchases’
    • mae hyn yn golygu y bydd angen gosod cyfrinair i brynu pethau drwy'r ap
  • Dylai defnyddwyr e-bostio support@getwinkapp.com yn gyntaf os oes ganddyn nhw danysgrifiad
    Wink+ er mwyn canslo hwnnw cyn dileu eu cyfrif. Does dim modd dadactifadu cyfrif Wink am gyfnod dros dro.

    I ddileu cyfrif Wink:

    • yn gyntaf, ewch i’ch ‘Profile’ trwy ddewis y llun fector o berson yn y gornel dde isaf
    • ar eich proffil, pwyswch yr eicon gêr ar y dde uchaf i agor ‘Settings’
    • sgroliwch i lawr, ac o dan y botwm mawr coch o’r enw ‘Log Out’ pwyswch ‘Delete my account’
    • dewiswch eich rheswm dros ddileu’ch cyfrif
    • teipiwch ‘Delete’ i gadarnhau eich bod am ddileu’ch cyfrif

Mae gan Wink dudalen About us gyda gwybodaeth gyswllt i ofyn cwestiynau neu adael adborth.