English

Mae gan ddysgwyr yr hawl i gael yr iechyd gorau posibl a’r amddiffyniad gorau posibl rhag niwed. Mae lles da yn hanfodol i gynnydd a chyflawniad dysgwyr. Mae angen i ddysgwyr brofi lles corfforol, seicolegol, emosiynol a chymdeithasol er mwyn ffynnu ac ymgysylltu’n llwyddiannus â’u haddysg, cymdeithas a’r cyfleoedd a ddaw mewn bywyd.

Mae lefelau lles da yn grymuso dysgwyr i gymryd cyfrifoldeb am eu bywydau eu hunain a chael dylanwad cadarnhaol ar fywydau pobl eraill. Mae ysgol deg a chynhwysol yn ystyried ac yn ymateb i’r heriau unigryw sy’n wynebu dysgwyr unigol, gan alluogi iddynt wneud cynnydd da.

Mae’r ysgol yn gwerthfawrogi pob aelod o’i chymuned yn gyfartal, ac yn eu cynorthwyo i gyflawni lefelau uchel o les corfforol, seicolegol, cymdeithasol ac emosiynol. Mae’n darparu cymorth o ansawdd uchel ar gyfer dysgwyr ag anghenion ychwanegol, ac yn lliniaru effaith anfantais gymdeithasol yn llwyddiannus.

Mae’r ysgol yn hyrwyddo ac yn dathlu amrywiaeth yn gadarnhaol yn y gymuned, a thu hwnt. Mae lles dysgwyr yn ganolog i addysgu a phrofiadau dysgu bob amser. Mae pob un o’r staff yn dangos ymrwymiad i les dysgwyr trwy fodelu ymddygiad a pherthnasoedd cadarnhaol.

Mae’r ysgol yn sicrhau bod dysgwyr yn datblygu dealltwriaeth gadarn o ffactorau sy’n effeithio ar eu lles nhw, a lles pobl eraill. Mae’n cynorthwyo dysgwyr i wneud dewisiadau a phenderfyniadau gwybodus am faterion sy’n effeithio arnyn nhw a phobl eraill.

Caiff partneriaethau â rhieni ac asiantaethau eraill effaith gadarnhaol ar brofiad dysgwyr yn yr ysgol, a’u lles. Mae’r ysgol yn galluogi pob un o’r dysgwyr i ddatblygu agweddau cadarnhaol at ddysgu, a gwneud y cynnydd gorau posibl.

Sbardunau myfyrio a deialog

Pa mor dda y mae’r ysgol yn cynorthwyo dysgwyr i ddatblygu fel:

  • Dysgwyr uchelgeisiol, medrus
  • Dinasyddion moesegol, gwybodus
  • Cyfranwyr mentrus, creadigol
  • Unigolion iach, hyderus?

Pa mor dda y mae’r ysgol yn cefnogi cynnydd dysgwyr o ran ‘beth sy’n bwysig’ yn y maes dysgu a phrofiad iechyd a lles?


Pa mor dda y mae’r ysgol yn hyrwyddo iechyd a lles dysgwyr?

    • A oes dull ysgol gyfan o hyrwyddo iechyd a lles yr holl ddysgwyr?
    • A yw pob aelod o gymuned yr ysgol yn deall, a thrwy eu gweithredoedd, yn cefnogi’r dull hwn? Sut ydym ni’n gwybod?
    • Pa mor dda y caiff datblygu lles dysgwyr ei gorffori yn ein haddysgu, ein cwricwlwm a’n profiadau dysgu eraill?
    • Pa mor dda ydym ni’n cefnogi dilyniant yn lles dysgwyr i sicrhau eu bod yn dod yn gynyddol annibynnol a chymwys o ran rheoleiddio eu hemosiynau a’u hymddygiadau?
    • Pa mor dda ydym ni’n cefnogi dilyniant yn lles dysgwyr i sicrhau bod dysgwyr yn tyfu o ran hunanymwybyddiaeth, ac yn y ffordd y maent yn meddwl am effaith eu gweithredoedd ar bobl eraill?
    • Pa mor dda ydym ni’n cefnogi dilyniant yn lles dysgwyr i sicrhau eu bod yn deall y gellir ailedrych ar y materion yr aed i’r afael â nhw, a’u harchwilio’n fanylach, wrth i ddealltwriaeth ohonynt fod yn fwy soffistigedig?
    • Pa mor dda ydym ni’n cefnogi dilyniant yn lles dysgwyr i sicrhau bod hyn yn gydnaws â cherrig milltir datblygiad y plentyn?
    • A yw’r ysgol yn adolygu effeithiolrwydd ei strategaeth yn rheolaidd i lywio gwelliannau pellach? Beth sydd wedi digwydd o ganlyniad, a sut ydym ni’n gwybod?

Pa mor dda y mae’r ysgol yn hyrwyddo agweddau cadarnhaol at yr ysgol, a mwynhad o ddysgu i bawb?

    • Pa mor dda ydym ni’n galluogi dysgwyr i ddylanwadu ar beth rydym yn ei ddysgu, a sut?
    • Pa mor dda ydym ni’n datblygu medrau dysgu’n annibynnol?
    • Pa mor dda ydym ni’n datblygu gallu dysgwyr i ddefnyddio strategaethau asesu ar gyfer dysgu i’w cynorthwyo i ddysgu’n annibynnol, a datblygu gwydnwch mewn dysgu?
    • Pa mor dda ydym ni’n cynorthwyo dysgwyr i ffurfio amgylchedd eu hysgol, ei hethos a’i diwylliannau?
    • A oes gennym ni brosesau effeithiol ac a ddeellir yn dda ar gyfer sicrhau cyfraddau uchel o bresenoldeb dysgwyr?

Pa mor dda ydym ni’n cynorthwyo dysgwyr i ddatblygu perthnasoedd iach?


Pa mor dda ydym ni’n gweithredu strategaethau ar gyfer datrys achosion o wrthdaro sy’n cynnwys dysgwyr?


Pa mor dda ydym ni’n sicrhau bod dysgwyr yn ddiogel?

    • A oes gennym ni brosesau effeithiol ac a ddeellir yn dda sy’n cefnogi safonau uchel o ran ymddygiad dysgwyr?
    • A oes gennym ni ddull effeithiol ac a ddeellir yn dda ar gyfer addysg cydberthynas a rhywioldeb?
    • Faint o amser a phwysigrwydd ydym yn eu rhoi i ddatblygu dealltwriaeth dysgwyr o bwysigrwydd a buddion perthnasoedd cadarnhaol?
    • Pa mor dda y mae perthnasoedd yn cynorthwyo dysgwyr i ddatblygu hyder a hunan-barch?
    • Pa mor dda ydym ni’n datblygu dealltwriaeth dysgwyr o berthnasoedd digidol iach?
    • A ydym ni’n darparu digon o gyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu a chymhwyso eu gwybodaeth am berthnasoedd iach yn eu gwaith ar draws y cwricwlwm?
    • Pa mor dda ydym ni’n defnyddio’r amrywiaeth o fewn ein hysgol i ddatblygu dealltwriaeth dysgwyr o berthnasoedd o fewn, ac ar draws, gwahanol ddiwylliannau a ffydd?
    • Pa mor effeithiol yw trefniadau diogelu’r ysgol?

Pa mor lwyddiannus ydym ni o ran sefydlu amgylchedd dysgu cynhwysol?

    • Pa mor dda ydym ni’n sicrhau bod pob un o’r dysgwyr yn cael cyfle teg i elwa ar brofiadau ac adnoddau dysgu?
    • Pa mor dda ydym ni’n gwneud addasiadau i sicrhau cynnwys dysgwyr y mae angen cymorth ychwanegol arnynt i elwa ar gyfleoedd?
    • Pa mor dda ydym ni’n cydnabod, yn hyrwyddo, yn dathlu ac yn dysgu oddi wrth amrywiaeth o fewn cymuned yr ysgol, a thu hwnt?
    • A yw pob un o’r staff yn manteisio ar bob cyfle i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth?
    • A oes gennym ni brosesau effeithiol ac a ddeellir yn dda i hyrwyddo a pharchu pobl o ran nodweddion gwarchodedig?
    • Pa mor dda y mae’r ysgol yn asesu effaith debygol polisïau ac arferion ar grwpiau gwarchodedig, pan gaiff y rhain eu cynnig, eu hadolygu neu’u diwygio?
    • Pa mor dda y mae’r ysgol yn monitro effaith wirioneddol a pharhaus ei pholisïau a’i harferion ar grwpiau gwarchodedig?

Pa mor dda y mae’r ysgol yn diwallu anghenion yr holl ddysgwyr, gan gynnwys y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol a’r rhai y gallai fod angen cymorth ychwanegol arnynt?

    • Pa mor dda y mae dysgwyr ag ADY yn cyflawni ac yn gwneud cynnydd?
    • Pa mor dda y mae’r ysgol yn nodi ADY dysgwyr ac yn rhoi ymyriadau effeithiol ar waith?
    • Pa mor dda y mae addysgu a phrofiadau dysgu yn diwallu ADY dysgwyr, ac anghenion y rhai y gallai fod angen cymorth ychwanegol arnynt?
    • Pa mor effeithiol y mae athrawon yn monitro ac yn adolygu cyrhaeddiad a chynnydd dysgwyr ag ADY?
    • Pa mor dda y mae’r ysgol yn ymgysylltu â rhieni, gofalwyr a theuluoedd dysgwyr ag ADY, a’r rhai y mae angen cymorth ychwanegol arnynt?
    • Pa mor dda y mae’r ysgol yn cydweithio ag asiantaethau allanol i ddiwallu anghenion dysgwyr, gan gynnwys y rhai ag ADY?
    • A yw arweinwyr yn darparu gweledigaeth gref sy’n hyrwyddo cyflawniad a chynhwysiant yr holl ddysgwyr, gan gynnwys y rhai ag ADY, a’r rhai y gallai fod angen cymorth ychwanegol arnynt?
    • Sut mae’r ysgol yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o’r holl staff o ran dysgwyr ag ADY, a’r rhai y mae angen cymorth ychwanegol arnynt?
    • Pa mor dda y mae’r ysgol yn gwerthuso cynnydd a chyrhaeddiad dysgwyr ag ADY, a’r rhai y gallai fod angen cymorth ychwanegol arnynt?

Pa mor dda y mae’r ysgol yn diwallu anghenion yr holl ddysgwyr, er enghraifft dysgwyr sy’n agored i niwed (gan gynnwys y rhai sydd dan anfantais oherwydd tlodi)?

    • Pa mor dda y mae dysgwyr sy’n agored i niwed yn cyflawni ac yn gwneud cynnydd?
    • Pa mor effeithiol y mae athrawon yn asesu, monitro ac olrhain cynnydd y dysgwyr hyn?
    • Pa mor dda y mae athrawon yn defnyddio strategaethau effeithiol i fynd i’r afael ag anghenion dysgwyr sy’n agored i niwed?
    • Pa mor effeithiol yw polisïau / arferion i wobrwyo a chanmol cyflawniad i wella hunan-barch a hunanhyder dysgwyr sy’n agored i niwed?
    • Pa mor effeithiol y mae’r ysgol yn darparu profiadau dysgu difyr a pherthnasol, gan gynnwys ymyriadau targedig sy’n diwallu anghenion y dysgwyr hyn?
    • Pa mor dda y mae’r ysgol yn rheoli cyfnodau pontio allweddol rhwng sectorau neu rhwng ysgolion ar gyfer dysgwyr sy’n agored i niwed?
    • Pa mor effeithiol yw rhaglenni y tu allan i’r ysgol neu wasanaethau estynedig o ran ymgysylltu â dysgwyr sy’n agored i niwed, a’u cynorthwyo?
    • Pa mor dda y mae’r ysgol yn ymgysylltu â rhieni, gofalwyr a theuluoedd dysgwyr sy’n agored i niwed?
    • Pa mor dda y mae’r ysgol yn cydweithio â’r gymuned ac asiantaethau allanol i ddiwallu anghenion yr holl ddysgwyr, gan gynnwys dysgwyr sy’n agored i niwed?
    • Pa mor dda y mae arweinwyr yn darparu gweledigaeth gref sy’n hyrwyddo diwylliant o degwch a diben moesol ar y cyd i sicrhau y bydd pob dysgwr yn cyflawni?
    • Pa mor dda y mae’r ysgol yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth yr holl staff o ran sut orau i sicrhau bod dysgwyr sy’n agored i niwed yn gwneud cynnydd effeithiol?
    • Pa mor dda y mae’r ysgol yn gwerthuso effaith ei strategaethau a’i dulliau i wella deilliannau dysgwyr sy’n agored i niwed, gan gynnwys defnyddio unrhyw adnodd targedig?

Pa mor lwyddiannus ydym ni wrth sicrhau bod dysgwyr yn cael digon o gyfleoedd i fod yn gorfforol weithgar ac iach?

    • Pa mor dda y mae ein darpariaeth cwricwlwm yn cynorthwyo dysgwyr i fod yn gorfforol weithgar ac iach?
    • Pa mor dda y mae ethos, amgylchedd a disgwyliadau ein hysgol yn cynorthwyo dysgwyr i fod yn gorfforol weithgar ac iach?

Pa mor dda ydym ni’n gwrando ar ddysgwyr ac yn galluogi dysgwyr i ddylanwadu ar faterion sy’n effeithio arnyn nhw?

    • Pa mor dda ydym ni’n bodloni hawliau statudol yr holl ddysgwyr?
    • Pa mor dda ydym ni’n galluogi dysgwyr i ddylanwadu ar gynllunio’r cwricwlwm a phrofiadau dysgu?
    • Pa mor dda ydym ni’n galluogi dysgwyr i ymgymryd â phrofiadau a chyfleoedd ychwanegol yn yr ysgol?
    • Pa mor dda ydym ni’n cynnwys dysgwyr unigol o ran unrhyw gymorth ychwanegol y gallai fod ei angen arnynt?

Pa mor dda ydym ni’n monitro pob agwedd ar les dysgwyr?

    • Pa mor effeithiol yw prosesau i gasglu, dadansoddi a rhannu gwybodaeth ar lefel unigolyn, grwp, carfan ac ysgol gyfan?
    • Pa wybodaeth ydym ni’n ei chasglu, a pham?
    • Pa mor dda ydym ni’n monitro presenoldeb?
    • Pa mor dda ydym ni’n monitro ymddygiad, gan gynnwys honiadau o fwlio, aflonyddwch a gwahaniaethu?
    • Pa mor effeithiol yw prosesau i gasglu gwybodaeth am grwpiau penodol o ddysgwyr, fel y rhai sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim, y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol neu’r rhai â nodweddion gwarchodedig?
    • Pa mor effeithiol yw ein defnydd o arolygon sy’n gofyn am safbwyntiau dysgwyr am eu hiechyd a’u lles?

Pa mor dda ydym ni’n ymgysylltu â rhieni / gofalwyr i wella lles eu plant?


Pa mor dda ydym ni’n gweithio gydag asiantaethau allanol i gefnogi lles dysgwyr?

    • Pa mor dda ydym ni’n gweithio gyda gwasanaethau fel iechyd, yr heddlu, gwasanaethau cymdeithasol, gwasanaethau troseddau ieuenctid, gwasanaethau cwnsela, Gyrfa Cymru i gefnogi lles dysgwyr?
    • Pa mor dda ydym ni’n gweithio gydag elusennau lleol a chenedlaethol a grwpiau cymunedol i gefnogi lles dysgwyr?
    • Pa mor dda ydym ni’n gweithio gyda sefydliadau sector preifat fel busnesau lleol i gefnogi lles dysgwyr?
    • Pa mor dda ydym ni’n gweithio gyda darparwyr addysg eraill fel ysgolion clwstwr lleol, lleoliadau nas cynhelir, ysgolion arbenigol, sefydliadau addysg bellach, sefydliadau addysg uwch neu ddarparwyr dysgu yn y gwaith i gefnogi lles dysgwyr?
    • Pa mor dda y mae’r ysgol yn cynnwys asiantaethau allanol mewn darparu profiadau dysgu yn uniongyrchol yn ymwneud â lles i ymestyn darpariaeth yr ysgol ei hun?

Pa mor lwyddiannus ydym ni’n hyrwyddo ac yn ategu hawliau plant a phobl ifanc?

    • A oes gennym ni ddulliau effeithiol ac a ddeellir yn dda i hyrwyddo hawliau dysgwyr?
    • A oes gennym ni ddulliau effeithiol ac a ddeellir yn dda i ategu hawliau dysgwyr?
    • A ydym ni’n rhoi ystyriaeth briodol i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, ac yn ei hyrwyddo’n llwyddiannus?

Pa mor dda y mae’r amgylchedd a’r cyfleusterau yn cyfrannu at iechyd a lles da?

Gallai’r rhain gynnwys:

    • Safle ysgol saff a diogel
    • Adeiladau ac adnoddau a gynhelir yn dda
    • Cyfleusterau bwyta
    • Toiledau
    • Mannau i chwarae
    • Mannau i ymlacio a chymdeithasu
    • Cyfleusterau chwaraeon
    • Cyfleusterau toiled
    • Mannau ar gyfer cwnsela neu waith therapiwtig arall
  • Mae’n rhaid bod lles dysgwyr yn dda os ceir llwyddiant academaidd a chyfraddau presenoldeb da
  • Staff penodol yn ein hysgol sy’n gyfan gwbl gyfrifol am les ac ADY
  • Nid oes angen buddsoddi yn nysgu proffesiynol staff wrth ymateb i les ac / neu anghenion dysgu ychwanegol dysgwyr
  • Caiff lles ei gefnogi trwy ABCh a gwersi arbenigol eraill yn unig
  • Mae lles yn dda os yw’r ysgol yn darparu llawer o ymyriadau
  • Rhaid bod modd meintioli lles dysgwyr bob amser
  • Nid oes angen partneriaethau gwaith i ymateb i anghenion dysgu ychwanegol dysgwyr; gallwn ni wneud hynny ein hunain

Anghenion Dysgu Ychwanegol

Arweiniad perthnasol ar gyfer dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol a’r rhai y gallai fod angen cymorth ychwanegol arnynt

Canllawiau eraill Llywodraeth Cymru

Arweiniad atodol Estyn