English

Gall ysgolion gael gafael ar ystod eang o ddata a all fod yn ddefnyddiol o bryd i'w gilydd i gefnogi prosesau hunanwerthuso a gwella.

Fodd bynnag, gall canolbwyntio ar ystod gyfyngedig o ddata yn unig arwain at broffwydoliaeth hunangyflawnol lle y bydd ysgol yn ceisio cynyddu ffigur at ddibenion atebolrwydd yn unig yn hytrach na mynd i'r afael â'r meysydd ehangach y mae angen eu gwella.

Mae data'n bwysig er mwyn cefnogi prosesau hunanwerthuso ac mae angen i'r ffynonellau data a ddefnyddir fod yn berthnasol i anghenion yr ysgol.

Mae Estyn yn ategu'r farn hon hefyd. Yn ôl adroddiad blynyddol 2018-19:

  • Mae ysgolion yn symud tuag at ddefnydd mwy cytbwys o ddata perfformiad sy’n osgoi canlyniadau anfwriadol system atebolrwydd a gosod targedau sydd â-llawer-yn-y-fantol.
  • Mae arweinwyr yn yr ysgolion gorau yn defnyddio data ochr yn ochr â thystiolaeth uniongyrchol arall o arsylwadau gwersi, craffu ar waith disgyblion a thrafodaethau gyda disgyblion i werthuso ansawdd y ddarpariaeth. 

Mae angen ystyried yr agweddau canlynol hefyd wrth ddefnyddio'r Adnodd:

  • ni ellir meintoli pob agwedd ar yr ysgol. Gall tystiolaeth a barn ansoddol fod yr un mor bwerus mewn rhai achosion
  • nid i ffurfio barn y caiff data eu defnyddio, ond i godi cwestiynau ar gyfer ymchwilio ymhellach

Rydym yn osgoi rhoi rhestr o ffynonellau data yn fwriadol am y rhesymau uchod. Dylai ysgolion ystyried pa ddata sy'n berthnasol a'u defnyddio'n briodol at ddibenion gwella.

Isod ceir gweithgaredd rhyngweithiol er mwyn helpu ysgolion i ddefnyddio data'n effeithiol.