English

Mae bod yn Hyfforddwr Arweinyddiaeth yn gyfle unigryw i ysbrydoli a chefnogi Penaethiaid y dyfodol ar gyfer Cymru. Mae'r Hyfforddwr Arweinyddiaeth yn hanfodol ac yn ganolog wrth sicrhau llwyddiant y rhaglen CPCP ac yn rhan allweddol o gynllunio olyniaeth strategol arweinyddiaeth ysgolion yng Nghymru. Bydd hyfforddwyr yn cael eu gwahodd drwy gais ac yn ymrwymo i sicrhau bod cyfranogwyr yn barod i ddechrau ar rôl pennaeth, yn hyderus yn eu rôl.

Prif gyfrifoldebau'r Hyfforddwr Arweinyddiaeth fydd:

  • darparu adborth proffesiynol defnyddiol parhaus i'r cyfranogwr
  • cefnogi'r cyfranogwr i ystyried yr asesiad 360 a hwyluso sgyrsiau am arweinyddiaeth, yn seiliedig ar dwf personol o ran arweinyddiaeth
  • cefnogi dewis y profiad arweinyddiaeth
  • gweithredu fel 'brocer' rhwng y Pennaeth Ysgol sy'n Cefnogi` a'r cyfranogwr i sicrhau bod y cyfranogwr yn cael cefnogaeth, amser a chyfle i gyflawni'r profiad arweinyddiaeth a thasgau eraill y cytunwyd arnynt
  • cefnogi'r cyfranogwr i adeiladu eu proffil mynediad at rôl Pennaeth.

Trosolwg

Bydd 16 o Hyfforddwyr Arweinyddiaeth yn cael eu penodi. Bydd pob Hyfforddwr Arweinyddiaeth yn cefnogi 3 chyfranogwr yn y rhaglen beilot gyntaf a bydd darparu adborth o safon drwy gydol y rhaglen yn rôl allweddol yn ogystal ag ysgogi ystyriaeth o egwyddorion arweinyddiaeth mewn sefyllfaoedd heriol, ond cefnogol. Mae'r hyfforddwr yn Hyfforddwr Cenedlaethol a bydd disgwyl iddo weithio ar draws Cymru. Rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau proffesiynol a phersonol. Ad-delir costau teithio pan fo’n briodol.

Bydd yr Hyfforddwr Arweinyddiaeth yn cael ei baru â'r cyfranogwr gyda'r ddealltwriaeth y gellir newid yr hyfforddwr ar y cychwyn lle mae gwrthdaro buddiannau'n bodoli, er enghraifft yn seiliedig ar iaith, ardal, ffydd, neu berthynas hysbys. Bydd y cyfranogwr yn cael crynodeb o brofiad yr Hyfforddwr Arweinyddiaeth hyd yma a ffyrdd y gall yr hyfforddwr gefnogi agweddau ar eu gwaith proffesiynol. 

Bydd disgwyl i'r Hyfforddwr Arweinyddiaeth roi adborth ar gynnydd y cyfranogwyr yn ystod y rhaglen. Bydd y cyfranogwr yn cael gweld adborth yr Hyfforddwr Arweinyddiaeth cyn iddo gael ei rannu ar arweinwyr y rhaglen. Bydd y cyfranogwyr hefyd yn rhoi adborth ar yr Hyfforddwr Arweinyddiaeth i arweinwyr y rhaglen.

Bydd disgwyl i'r Hyfforddwr Arweinyddiaeth weithio gyda gwahanol driawdau er mwyn cynyddu crebwyll y cyfranogwyr o ran eu dysgu. Bydd hyn hefyd yn sicrhau safoni.

Bydd rôl yr Hyfforddwr Arweinyddiaeth yn cael ei ariannu a bydd pob hyfforddwr yn cael 23.5 diwrnod i gefnogi cyfranogwyr.

Cynhelir hyfforddiant proffesiynol ar ddechrau’r rhaglen.

Sut galla i wneud cais

Bydd y broses gais ar gyfer Hyfforddwyr Arweinyddiaeth ar agor ar ôl Pasg 2025, a bydd yn cau ar 16 Mai. Rhoddir rhagor o wybodaeth cyn hir.

  • Ffurflen gais: hyfforddr arweinyddiaeth CPCP docx 28 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
  • Hysbysiad preifatrwydd pdf 146 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath