English

Mae cefnogi Y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP) Cymru yn cynnig cyfle unigryw i ysbrydoli ac eirioli dros benaethiaid y dyfodol yng Nghymru. Mae’r rolau hyn yn hanfodol ac yn ganolog i sicrhau llwyddiant CPCP Cymru ac yn rhan allweddol o gynllunio olyniaeth strategol arweinyddiaeth ysgolion. Bydd arweinwyr sy’n cefnogi CPCP Cymru yn ymrwymedig i sicrhau bod cyfranogwyr yn barod i ymgymryd â swydd pennaeth yn hyderus ac yn meddu ar yr offer angenrheidiol.

Croesewir ceisiadau gan y rhai sydd â CPCP ac sydd:

  • yn bennaeth gweithredol yng Nghymru
  • wedi ymddeol yn ddiweddar (ers Medi 2023) neu
  • yn gyn bennaeth gyda chymhwyster hyfforddi lefel 7

Prif gyfrifoldebau’r Hyfforddwr Arweinyddiaeth yw:

  • darparu hyfforddiant proffesiynol parhaus i’r tri chyfranogwr y maent yn eu cefnogi’n uniongyrchol
  • cefnogi’r cyfranogwr i fyfyrio ar yr asesiad 360 a hwyluso sgyrsiau arweinyddiaeth yn seiliedig ar dwf personol
  • cefnogi dewis y prosiect datblygu prifathrawiaeth
  • gweithredu fel ‘brocer’ rhwng Pennaeth yr Ysgol a’r cyfranogwr i sicrhau cefnogaeth, amser a chyfle i gyflawni’r prosiect datblygu prifathrawiaeth a thasgau eraill a gytunwyd

Manteision bod yn Hyfforddwr Arweinyddiaeth:

  • dysgu proffesiynol o safon uchel ar gyfer hyfforddi
  • cyfleoedd i rannu arfer ar draws ysgolion a lleoliadau eraill
  • rhwydweithio proffesiynol a chyfleoedd cydweithio gydag arweinwyr eraill ledled Cymru
  • mynediad at ymchwil a dysgu proffesiynol ym maes arweinyddiaeth

Bydd hyfforddwyr yn cael eu dyrannu i gyfranogwyr CPCP Cymru yn seiliedig ar sector, iaith, angen daearyddol a phrofiad hyfforddwr.

Bydd yr Hyfforddwr Arweinyddiaeth yn cael ei ariannu am 23.5 diwrnod.

Sut i wneud cais

Os oes gennych ddiddordeb, gellir cael mynediad i’r ffurflen gais drwy Microsoft Forms.

Llenwch y ffuflen: recriwtio hyfforddwyr carfan 3 CPCP

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 26 Ionawr 2026 am 4yp.

Mae PDF o’r cwestiynau sydd yn y ffurflen ar gael.

Croesewir ceisiadau gan y rhai sydd â CPCP, neu gymhwyster neu brofiad arweinyddiaeth cyfatebol.

Mae Grŵp Ymgynghorol CPCP Cymru yn rhan annatod o sicrhau bod y rhaglen yn berthnasol i’r proffesiwn ac yn ymatebol i anghenion arweinyddiaeth y system.

Bydd y Grŵp Ymgynghorol yn darparu adborth a beirniadaeth ar y rhaglen ac yn cefnogi datblygiad parhaus.

Manteision bod yn rhan o Grŵp Cynghori CPCP Cymru:

  • cyfle i lunio’r rhaglen dysgu proffesiynol ar gyfer penaethiaid y dyfodol yng Nghymru
  • rhwydweithio proffesiynol a chyfleoedd cydweithio gydag arweinwyr eraill ledled Cymru

Bydd y dewis yn seiliedig ar sicrhau grŵp cynrychioliadol ar draws Cymru.

Bydd y Grŵp Ymgynghorol yn cael ei ariannu am eu gwaith hyd at uchafswm o 10 diwrnod y flwyddyn.

Sut i wneud cais

Os oes gennych ddiddordeb, gellir cael mynediad i’r ffurflen gais drwy Microsoft Forms.

Llenwch y ffuflen: Grŵp Ymgynghorol CPCP Cymru

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 26 Ionawr 2026 am 4yp.

Mae PDF o’r cwestiynau sydd yn y ffurflen ar gael.

Croesewir ceisiadau gan y rhai sydd â CPCP, neu gymhwyster neu brofiad arweinyddiaeth cyfatebol.

Mae Rhaglen CPCP Cymru yn cynnwys cyflwyniadau, paneli, mewnbwn ac hwyluso gan arweinwyr, mae’r agwedd hon ar y rhaglen yn darparu dysgu hanfodol i gyfranogwyr ac yn cael ei gwerthfawrogi fel un credadwy ac ymarferol.

Manteision bod yn gyfrannwr CPCP Cymru:

  • mynediad at ymchwil a dysgu proffesiynol ym maes arweinyddiaeth
  • cyfle i rannu arfer a phrofiad gydag arweinwyr y dyfodol yng Nghymru
  • rhwydweithio proffesiynol a chyfleoedd cydweithio gydag arweinwyr eraill ledled Cymru

Bydd cyfranwyr yn cael eu dewis yn seiliedig ar anghenion cynnwys y rhaglen. Bydd y cyfrannwr CPCP Cymru yn cael ei ariannu fesul diwrnod o baratoi a chyflwyno.

Sut i wneud cais

Os oes gennych ddiddordeb, gellir cael mynediad i’r ffurflen gais drwy Microsoft Forms.

Llenwch y ffuflen: cyfrannwr Rhaglen CPCP Cymru

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 26 Ionawr 2026 am 4yp.

Mae PDF o’r cwestiynau sydd yn y ffurflen ar gael.

Croesewir ceisiadau gan y rhai sydd â CPCP ac sydd:

  • yn bennaeth gweithredol yng Nghymru neu
  • wedi ymddeol yn ddiweddar (ers Medi 2023)

Er mwyn sicrhau proses recriwtio ac asesu deg a thryloyw, mae CPCP Cymru yn gwahodd penaethiaid i gyfrannu at y broses asesu a chyfweld.

Manteision bod yn aelod panel asesu/cyfweld CPCP Cymru:

  • sgyrsiau proffesiynol ymgysylltiol gyda phenaethiaid y dyfodol a’r presennol
  • cyfle i fyfyrio’n broffesiynol a chydweithio gydag arweinwyr eraill ledled Cymru

Bydd y dewis yn seiliedig ar sicrhau cynrychiolaeth a chydbwysedd eang o wybodaeth, sgiliau a phrofiadau yn y paneli.

Bydd aelodau panel asesu a cyfweld yn cael eu hariannu fesul diwrnod, tua dau ddiwrnod mewn blwyddyn academaidd.

Sut i wneud cais

Os oes gennych ddiddordeb, gellir cael mynediad i’r ffurflen gais drwy Microsoft Forms.

Llenwch y ffuflen: aelod panel asesu a cyfweld

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 26 Ionawr 2026 am 4yp.

Mae PDF o’r cwestiynau sydd yn y ffurflen ar gael.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach neu ymholiadau, cysylltwch â: CPCPNPQH@dysgu.llyw.cymru