English

Mae'r CPCP yn brofiad dysgu proffesiynol hanfodol ac, os ydych chi'n credu ei fod ar eich cyfer chi, mae disgwyliadau proffesiynol arnoch chi yn unol â chyfrifoldebau prifathrawiaeth. Fel unigolyn sy'n cymryd rhan yn y rhaglen, bydd disgwyl ichi gytuno i:

  • gadw ffocws di-ildio ar wella prosesau addysgu a dysgu a chanlyniadau disgyblion
  • cymryd cyfrifoldeb llawn am eich dysgu proffesiynol eich hun
  • datblygu eglurder ynghylch y graddau y gall dimensiynau arweinyddiaeth a'r gallu i fod yn arweinydd effeithiol gael effaith ar ganlyniadau disgyblion
  • bod yn ymrwymedig i arwain ar agwedd ar welliant gwirioneddol mewn ysgol gan ganolbwyntio ar elfennau o'r agenda genedlaethol, a fydd yn rhoi mewnwelediad i chi ar arweinyddiaeth a datblygu sgiliau
  • gweithredu ar yr adborth a gynigir gan yr Hyfforddwr Arweinyddiaeth a chyfranogwyr eraill
  • bod yn agored ac yn onest am y llwyddiannau a'r heriau yn eich lleoliad eich hun
  • ymdrin â lleoliadau eraill gyda meddwl agored a pharodrwydd i ddysgu
  • parchu cyfrinachedd. Bydd cyfranogwyr yn cytuno i beidio â datgelu unrhyw wybodaeth a rennir gan eraill mewn unrhyw gyd-destun heb ganiatâd penodol. Mae'r cyd-destunau yn cynnwys sesiynau hyfforddi, o fewn lleoliadau ysgol, cyfarfodydd y corff llywodraethu neu ar elfennau preswyl
  • meithrin yr arfer o ymgysylltu'n rheolaidd â llenyddiaeth ac ymchwil berthnasol a chwblhau unrhyw ddarllen, aseiniadau neu weithgareddau ymlaen llaw
  • meithrin rhwydweithiau proffesiynol gyda chydweithwyr yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang a fydd yn eich gwthio ac yn cynnal uchelgais proffesiynol
  • mynd ati i chwilio am gyfleoedd i ymgysylltu ag agweddau rheoli ar arweinyddiaeth ysgolion yn eich lleoliad eich hun
  • mynychu holl agweddau gorfodol y cwrs (sesiynau preswyl, ymweliadau ysgol a sesiynau hyfforddi)
  • cadw at y dyddiadau cau yn ôl y gofyn
  • rhoi adborth adeiladol i drefnwyr y rhaglen