English

Yng Nghymru, mae'n ofyniad statudol i unrhyw un sy'n gwasanaethu fel pennaeth feddu ar y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth.

Rydym am ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o benaethiaid i arwain ein hysgolion drwy ein hagenda diwygio addysg er mwyn ysbrydoli ein plant a'n pobl ifanc. Mae swydd pennaeth yn un gwerth chweil ac heriol, a'n nod yw sicrhau bod pob darpar bennaeth yn cael eu cefnogi a'u datblygu wrth iddynt gymryd y cam nesaf yn eu gyrfaoedd.

Yn dilyn adolygiad annibynnol o'r CPCP, datblygwyd rhaglen newydd. Mae'r rhaglen newydd yn hyrwyddo'r arfer o feithrin arbenigedd a hyder drwy ymgysylltu'n weithredol â'r her a ddisgwylir o wneud swydd pennaeth, a thrwy adborth uniongyrchol a dylanwadol yng nghyd-destun y Safonau Proffesiynol ar gyfer Arweinyddiaeth Ffurfiol.

Nod natur a phroses y rhaglen yw ysgogi unigolion wrth iddynt ddatblygu eu galluoedd arwain cyfredol a meithrin rhai newydd a fydd yn sicrhau effaith gadarnhaol ar gyfleoedd bywyd dysgwyr. Bydd llawer o'r rhaglen wedi'i theilwra i unigolion ac yn ymateb i'r gofynion sydd ar benaethiaid a'u rôl o ran sicrhau llwyddiant eu hysgol a'r agenda genedlaethol.

Bydd y rhaglen newydd yn pwysleisio ffocws di-ildio ar wella deilliannau dysgwyr a bydd yn darparu:

  • cyfle i arwain
  • profiad, dan arweiniad, o ystod o gyd-destunau arwain
  • mynediad at astudiaethau achos o arweinyddiaeth a safbwyntiau damcaniaethol a chyfle i ymgysylltu â nhw
  • cyfleoedd i gael trafodaethau dwfn a heriol gyda chydweithwyr
  • ymwybyddiaeth o'r cyfrifoldebau rheoli sy'n disgyn ar benaethiaid

Mae adborth yn cael ei gynnwys ym mhob cam i alluogi unigolion i ddatblygu a thyfu o ganlyniad i'w profiad.