Dosbarth Braf, Meddwl Bywiog: dysgu proffesiynol i addysgwyr
Cymerwch ran mewn rhaglen beilot newydd sydd wedi'i chynllunio i gefnogi llesiant emosiynol a meddyliol mewn ysgolion ar gyfer dysgwyr ac addysgwyr.
Rhesymau dros ymuno â'r rhaglen beilot
Trwy gymryd rhan yn y rhaglen Dosbarth Braf, Meddwl Bywiog, byddwch yn:
- meithrin hyder a hunan-effeithiolrwydd yn yr ystafell ddosbarth
- ennill offer ymarferol ar gyfer rheoli ymddygiad a llesiant
- dyfnhau eich gwybodaeth am ddatblygiad plant, niwroamrywiaeth ac iechyd meddwl
- cysylltu â chyfoedion ledled Cymru a llunio rhaglen genedlaethol
Mae hyn yn fwy na hyfforddiant, mae'n gyfle i fuddsoddi yn eich twf proffesiynol a helpu i lunio menter llesiant i'r dyfodol.
Dysgwch fwy gan gydweithwyr:
Trosolwg o'r rhaglen
Cynhelir y rhaglen dros 8 wythnos (Ionawr i Mawrth 2026) ac mae'n cynnwys:
- sesiynau dysgu wyneb yn wyneb
- modiwlau hunangyfeiriedig ar-lein
- trafodaethau cymorth cymheiriaid ar-lein
- amser ar gyfer myfyrio ac ymarfer yn yr ystafell ddosbarth
Mae holl gynnwys y rhaglen ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
Byddwch yn rhan o garfan o 60 o addysgwyr o bob cwr o Gymru. Bydd grwpiau'n cael eu dyrannu yn ôl eu rôl, eu rhanbarth a'u dewis iaith.
Rydym yn derbyn cyfranogwyr ar sail y cyntaf i'r felin. Byddwn yn sicrhau bod addysgwyr o bob rhan o Gymru yn cael eu cynrychioli.
Dyddiadau allweddol ac opsiynau grŵp
| Grŵp | Dyddiadau wyneb yn wyneb | Lleoliad | Cymorth cyfoedion 1: ar-lein | Cymorth cyfoedion 2: ar-lein | Cymorth cyfoedion 3: ar-lein |
| Arweinwyr | 21 a 22 Ionawr | Caerdydd | 11 Chwefror, 3:30pm i 5pm | 4 Mawrth, 3:30pm i 5pm | 25 Mawrth, 3:30pm i 5pm |
| Cynorthwywyr Addysgu | 14 a 15 Ionawr | Caerdydd | 10 Chwefror, 3:30pm i 5pm | 3 Mawrth, 3:30pm i 5pm | 24 Mawrth, 3:30pm i 5pm |
| Staff cymysg Saesneg | 14 a 15 Ionawr | Gogledd Cymru | 10 Chwefror, 3:30pm i 5pm | 3 Mawrth, 3:30pm i 5pm | 24 Mawrth, 3:30pm i 5pm |
| Staff cymysg Cymraeg | 14 a 15 Ionawr | Canolbarth Cymru | 10 Chwefror, 3:30pm i 5pm | 3 Mawrth, 3:30pm i 5pm | 24 Mawrth, 3:30pm i 5pm |
Cymorth cyllido
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu £1000 fesul cyfranogwr i dalu am yr holl gostau. Mae hyn yn cynnwys:
- talu am athrawon cyflenwi
- teithio
- llety
Dim ond yn ystod y cyfnod peilot y mae'r ffi o £1000 ar gael. Felly, mae hwn yn gyfle unigryw i gymryd rhan wrth lunio menter llesiant genedlaethol.
Sut i gofrestru
Meini prawf cymhwysedd
- Dim ond un cyfranogwr fesul ysgol all ymuno â'r cynllun peilot.
- Bydd disgwyl i chi fynychu pob sesiwn oni bai bod argyfwng yn codi.
- Bydd cyfranogwyr yn cyfrannu at werthusiad annibynnol trwy adborth a chyfweliadau dewisol.
Cofrestru
Mae’r holl leoedd bellach wedi eu llenwi ar gyfer y sesiynau sy’n rhan o’r peilot, ac felly mae’r ffurflen gofrestru wedi cau. Byddwn yn hysbysebu cyfleoedd pellach maes o law. Mae hysbysiad preifatrwydd (a gyhoeddwyd ar llyw.cymru) yn esbonio sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol.
Cadarnhewch yn eich e-bost cofrestru eich bod ar gael ar gyfer yr holl sesiynau a restrir ar gyfer eich grŵp dewisol.
Am gwestiynau cyn cofrestru, cysylltwch â: staffwellbeingservice@edsupport.org.uk.
Darperir y rhaglen hon mewn partneriaeth rhwng Dysgu ac Education Support, ac fe'i hariennir gan Lywodraeth Cymru.