Ysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu
Gwybodaeth i ysgolion a lleoliadau ynghylch defnyddio’r model Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu.
- Rhan o
Ynglŷn ag ysgolion fel sefydliadau sy'n dysgu
Mae ysgolion fel sefydliadau sy'n dysgu yn meithrin diwylliant o ddysgu ac ymchwilio proffesiynol. Mae pob aelod o'r ysgol neu'r lleoliad yn cyfrannu at ddatblygu gweledigaeth a rennir i gefnogi eu dysgwyr i gyrraedd eu potensial llawn.
Mewn ysgolion fel sefydliadau sy'n dysgu mae'r holl staff yn ymroi i nodi eu hamcanion ar gyfer eu dysgu proffesiynol eu hunain. Mae hyn yn seiliedig ar waith tîm a rhwydweithiau cydweithredol yn yr ysgol ac â'r gymuned gyfagos, i ddatblygu arferion a diwylliant ar draws y sefydliad.
Mae model ysgolion fel sefydliadau sy'n dysgu yn cynnwys saith nod uchelgeisiol, a phrosesau i gefnogi ysgolion a lleoliadau i ddatblygu fel sefydliadau dysgu. Gallwch weld y model ar dudalennau 1 a 2 o'r PDF o'r model isod.
- Ysgolion yng Nghymru yn gweithredu fel sefydliadau sy’n dysgu: PDF pdf 502 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
Mae trosolwg o nodweddion allweddol y saith dimensiwn isod
Ceir mwy o fanylion ar dudalennau 3 i 9 o'r PDF o'r model.
- Gweledigaeth a rennir: mae arweinwyr yn cynnwys cymuned yr ysgol gyfan i ddatblygu gweledigaeth gynhwysol a rennir, sy’n ysbrydoli ac sy'n ceisio gwella profiadau dysgu a deilliannau pob dysgwr. Mae llawer o ysgolion yng Nghymru wedi defnyddio model ysgolion fel sefydliadau sy'n dysgu i'w cefnogi i ddatblygu eu gweledigaeth ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru.
- Dysgu parhaus: mae ysgolion fel sefydliadau sy'n dysgu yn datblygu 'diwylliant dysgu' sy'n sicrhau bod amser ac adnoddau yn cael eu rhoi i'r holl staff ymroi i ddysgu proffesiynol. Mae'r staff yn nodi eu blaenoriaethau eu hunain ar gyfer eu datblygiad proffesiynol, sydd yn ei dro yn cefnogi nodau'r ysgol neu'r lleoliad.
- Dysgu a chydweithio: mewn ysgolion fel sefydliadau sy'n dysgu mae staff yn ystyried ac yn gwerthuso arferion gyda'i gilydd. Mae'r ysgolion yn creu cyfleoedd i staff gydweithio ac archwilio arferion addysgegol gyda'i gilydd.
- Diwylliant o ymchwilio: mae cymuned yr ysgol gyfan yn mynd ati i ddefnyddio dulliau ymchwilio, ac anogir y staff i gymryd risgiau, arbrofi a bod yn arloesol i'w cefnogi i ymestyn eu harferion. Mae ymddiriedaeth a pharch at ei gilydd yn werthoedd craidd sy'n sail i arloesi.
- Cyfnewid gwybodaeth: mewn ysgolion fel sefydliadau sy'n dysgu mae staff yn trafod ac yn gwerthuso’n rheolaidd a yw’r camau a gymerwyd, gan gynnwys y dysgu proffesiynol, wedi cael yr effaith a ddymunir. Ac maent yn gweithio gyda'i gilydd, gan gyfeirio at dystiolaeth ymchwil pan fo'n briodol, i wella arferion.
- Amgylchedd allanol: mae ysgolion fel sefydliadau sy'n dysgu yn creu partneriaethau â rhieni/gofalwyr, ysgolion, prifysgolion, busnesau, sefydliadau cyhoeddus a'r gymuned i ymateb i newid a datblygu cyfleoedd dysgu ar y cyd.
- Arweinyddiaeth ym maes dysgu: mewn ysgolion fel sefydliadau sy'n dysgu mae arweinwyr ysgolion yn modelu arweinyddiaeth ym maes dysgu, ac yn sicrhau bod gan yr holl staff fynediad at gyfleoedd dysgu cydweithredol cryf.
Arolwg Ysgolion fel sefydliadau sy'n dysgu
Nid yw Llywodraeth Cymru yn darparu’r arolwg Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu bellach. Mae’n annog ysgolion i ystyried eu dulliau eu hunain. Mae hyn yn adlewyrchu’r egwyddor bod datblygu fel sefydliad sy’n dysgu yn broses barhaus o fyfyrio, dysgu a gwella. Dylai ysgolion gael yr hyblygrwydd i ddatblygu dulliau sy’n briodol i’w cyd-destun eu hunain, gan ddefnyddio’r data a’r dystiolaeth sydd eisoes ar gael iddynt.