English

8. Safonau'r Gymraeg

Rhaid i’ch adnodd, gan gynnwys fideos, clipiau sain a phob elfen arall:

I gydymffurfio â safonau'r Gymraeg, rhaid i’r Gymraeg a’r Saesneg gael eu trin yn gyfartal mewn unrhyw gynnwys fideo. Mae hyn fel arfer yn golygu creu fideos yn Gymraeg a Saesneg fel ei gilydd. Yn ogystal, rhaid i bob fideo gynnwys capsiynau caeedig yn iaith y fideo. 

Darllenwch yr adran 'Cyhoeddi fideos ar Hwb' i gael gwybodaeth lawn am greu fideos sy'n cydymffurfio â safonau'r Gymraeg.

Rhaid darparu unrhyw ddogfen sydd ar Hwb yn Gymraeg a Saesneg ar wahân. Mae hyn yn cynnwys dogfennau Word, PowerPoint, Excel a PDF. Derbynnir dogfennau dwyieithog dim ond os ydyn nhw’n benodol ar gyfer datblygu sgiliau amlieithog.

Cysylltwch â Safonau.Standards@llyw.cymru os oes gennych chi unrhyw gwestiwn am safonau’r Gymraeg.

Dolenni defnyddiol