Datblygu adnoddau ar gyfer Hwb
Canllawiau ar ddatblygu a chyflwyno adnoddau i'w cyhoeddi ar Hwb.
- Rhan o
5. Meini prawf cyhoeddi a gofynion technegol Hwb
Deunydd addysgol neu offeryn i gefnogi dysgu, addysgu a dysgu proffesiynol yw adnodd Hwb. Gall adnoddau gynnwys:
- gweithgareddau rhyngweithiol
- fideos
- cynnwys digidol arall
Mae adnoddau yn cael eu harddangos ar gerdyn adnodd. Mae hwn yn rhoi gwybodaeth am yr adnodd a sut i gael mynediad ato.
Meini prawf cyhoeddi Hwb
Rhaid i adnoddau:
- fod yn rhad ac am ddim i’w defnyddio
- bod yn anfasnachol eu natur
- cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg
- bodloni gofynion Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG)
Ni ddylai adnoddau:
- gynnwys dolenni at wefannau y mae angen i ddefnyddwyr fewngofnodi eto neu ddarparu manylion er mwyn eu defnyddio
- hyrwyddo unrhyw gynnyrch, gwasanaeth neu sefydliad lle y mae unrhyw weithgarwch masnachol
- gorfodi defnyddiwr i brynu unrhyw beth er mwyn cael mynediad at yr adnodd neu ei ddefnyddio
Ble y dylid cyhoeddi adnodd
Dim ond mewn un lle ar y wefan y dylai adnoddau fod ar gael. Mae dau opsiwn ar gyfer cyhoeddi ar Hwb.
Lletya
Os nad yw eich adnodd ar gael ar-lein rywle arall, mae’n gallu cael ei storio’n uniongyrchol (lletya) ar blatfform Hwb. Mae hynny’n golygu bod defnyddwyr yn gallu mynd at yr adnodd a’i ddefnyddio heb orfod ymweld â gwefan arall.
Rhaid i’r adnoddau sydd ar Hwb gydymffurfio â gofynion hygyrchedd a safonau'r Gymraeg.
Rhaid i chi sicrhau bod unrhyw ddolenni ar eich gwefan yn cyfeirio defnyddwyr i'r adnodd sydd ar Hwb. Mae Meic Cymru yn rhoi enghreifftiau o sut i wneud hyn.
Cyfeirio
Mae hyn yn golygu nad yw'r adnodd yn cael ei storio ar Hwb. Bydd Hwb yn cynnig i ddefnyddwyr ddolen i gyfeiriad HTTPS diogel dwyieithog allanol. Bydd angen i ddefnyddwyr ymweld â'r wefan allanol i weld yr adnodd. Er enghraifft os yw eich adnoddau eisoes ar eich gwefan, gallwch gysylltu â nhw’n uniongyrchol o Hwb, fel BBC Bitesize. Eithriad i hyn yw bod y deunyddiau y tu ôl i broses fewngofnodi ond eich bod am sicrhau eu bod ar gael yn gyhoeddus ar Hwb.
Hawlfraint
Sut mae defnyddio testun sydd o dan hawlfraint
Beth i’w ystyried
Lle bynnag y bo modd dylech greu a defnyddio eich testun eich hun mewn adnodd ar gyfer Hwb.
Os ydych yn defnyddio testun rhywun arall mewn adnodd, at ddiben dyfynnu yn unig y dylech wneud hynny. Mae angen i unrhyw ddyfyniad fod:
- â chyfeiriad priodol
- wedi’i gyfyngu i’r hyn sy’n angenrheidiol er mwyn pwysleisio’r pwynt a wneir
Beth i’w osgoi
- Peidiwch â sganio gwerslyfrau, papurau newydd, cylchgronau nac unrhyw ddeunydd printiedig arall i’w defnyddio mewn adnodd ar gyfer Hwb.
- Copïo â llaw neu deipio testun heblaw am at ddibenion dyfynnu.
Hawlfraint ar gyfer delweddau
Mae ffotograffau a darluniau, gan gynnwys rhai a geir ar beiriannau chwilio fel Google Images a Bing Images, wedi'u diogelu gan hawlfraint ac ni chewch eu defnyddio heb ganiatâd y perchennog.
Mae rhai gwefannau, fel Wikimedia Commons, yn cynnig delweddau i'w hailddefnyddio dan drwyddedau Creative Commons. Mae rhai yn ddelweddau ‘parth cyhoeddus’ y gellir eu defnyddio am ddim. Fodd bynnag mae eraill yn destun trwyddedau ‘priodoli’ sy’n ei gwneud yn ofynnol i chi gydnabod perchennog yr hawlfraint.
Defnyddiwch wefannau fel Pixabay, Pexels ac Unsplash sydd â nifer o ddelweddau di-hawlfraint a di-briodoledd ar gael i’w lawrlwytho. Chwiliwch am luniau ar Flickr gan ddefnyddio’r hidlydd ‘No known copyright restrictions’.
Hawlfraint ar gyfer sain a fideo
Beth i’w ystyried
Mae clipiau sain a fideo wedi'u diogelu gan hawlfraint. Peidiwch â’u defnyddio mewn adnodd oni bai eich bod:
- wedi’u creu nhw eich hun
- wedi cael caniatâd gan y sawl wnaeth eu creu
Nid yw prynu CD, DVD, Blu-ray neu ffeil ddigidol yn rhoi'r hawl i chi ddefnyddio'r cynnwys heb gyfyngiadau. Dim ond prynu'r cyfryngau corfforol a'r hawl i wrando ar y gerddoriaeth neu wylio'r ffilm at ddefnydd personol ydych chi.
Fel gyda delweddau, nid yw’r ffaith bod clip eisoes ar-lein yn golygu ei fod yn y parth cyhoeddus ac felly ar gael i'w ddefnyddio’n rhad ac am ddim.
Beth i’w osgoi
- Yn hytrach na mewnblannu fideo ar-lein yn eich adnodd, rhowch ddolen i’r clip ar YouTube.
- Byddwch yn ofalus wrth ddefnyddio clipiau sain rydych chi wedi’u ‘prynu’ ar-lein, fel effeithiau sain, gan y gall telerau'r drwydded olygu eu bod wedi'u cyfyngu at ddefnydd personol yn unig.
Rhagor o wybodaeth
Am ragor o wybodaeth am hawlfraint, ewch i’r Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint neu’r Swyddfa Eiddo Deallusol.