English

9. Gwirio a chyflwyno eich adnodd

Defnyddiwch y rhestr wirio hon i wneud yn siŵr bod eich adnodd yn barod i'w gyflwyno.

  • Rhestr Wirio docx 18 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath

Unwaith y bydd eich adnodd yn barod i'w gyflwyno, rhaid i chi lenwi'r ffurflen uwchlwytho berthnasol.

Adnoddau i gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru

Ar gyfer adnoddau dysgu ac addysgu’r Cwricwlwm i Gymru, gan gynnwys dylunio cwricwlwm a dysgu sylfaen, cwblhewch ffurflen gais cyhoeddi Adnodd.

Cewch ragor o wybodaeth yn adran Cwricwlwm i Gymru y canllaw hwn.

Ar gyfer ymholiadau am adnoddau dysgu ac addysgu’r Cwricwlwm i Gymru, cysylltwch â comisiynu@adnodd.llyw.cymru.

Adnoddau ar bynciau eraill

Ar gyfer adnoddau na fwriedir iddyn nhw gael eu defnyddio’n uniongyrchol gyda dysgwyr neu sy'n fwy addas i feysydd pwnc Hwb eraill, cwblhewch ffurflen gais cyhoeddi Hwb. Mae'r meysydd pwnc hyn yn cynnwys:

  • dysgu proffesiynol
  • anghenion dysgu ychwanegol
  • galwedigaethol ac ôl-16
  • cadw'n ddiogel ar-lein

Cewch ragor o wybodaeth yn adran adnoddau ar bynciau eraill y canllaw hwn.

Ar ôl derbyn eich adnodd bydd yn cael ei adolygu i sicrhau ei fod yn bodloni gofynion Hwb. Byddwch yn cael gwybod o fewn 15 diwrnod gwaith p’un ai yw eich adnodd wedi’i gymeradwyo ai peidio, a byddwn yn trafod y camau nesaf.

Cysylltwch ag cynnwysaddysg@llyw.cymru os oes gennych chi gwestiynau am y broses uwchlwytho.