Datblygu adnoddau ar gyfer Hwb
Canllawiau ar ddatblygu a chyflwyno adnoddau i'w cyhoeddi ar Hwb.
- Rhan o
7. Gofynion hygyrchedd
Rhaid i unrhyw dudalen, dogfen neu eitem ar Hwb fodloni safonau hygyrchedd.
Rhaid i bob elfen o adnodd fod yn hygyrch er mwyn cael ei letya ar Hwb.
Mae sawl fideo cam wrth gam ar YouTube ar sut i wneud unrhyw fformat yn hygyrch, neu sut i ddefnyddio swyddogaethau hygyrchedd mewn gwahanol gymwysiadau.
Rydyn ni’n derbyn y mathau hyn o ffeiliau i'w cyhoeddi ar Hwb:
- HTML (dolenni i wefannau HTTPS diogel allanol)
- rhestrau chwarae
- cymwysiadau Microsoft Office (Word, PowerPoint)
- fideo (a ddarperir trwy ddilyn dolen i YouTube neu i wefan ddiogel allanol)
- MP3 (a thrawsgrifiadau perthnasol)
- apiau sydd wedi’u cymeradwyo ymlaen llaw
Mae angen i'r ffeiliau hyn fod yn hygyrch cyn eu cyflwyno i'w cyhoeddi.
Bydd angen i Dîm Cynnwys Hwb ystyried unrhyw fformatau eraill cyn cyhoeddi.
HTML
Mae HTML yn golygu cysylltu â gwefannau allanol, tudalennau gwe neu ddogfennau ar-lein. Mae'r gofynion hygyrchedd ar gyfer yr adnoddau hyn yn amrywio. Os yw Llywodraeth Cymru wedi ariannu, noddi neu gomisiynu'r adnodd, rhaid iddo fodloni safonau hygyrchedd fel yr amlinellir yn y contract.
Rhestr chwarae
Mae rhestr chwarae yn fformat hygyrch sydd wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer Hwb. Tîm Cynnwys Hwb neu gyd-weithwyr polisi fydd yn datblygu’r rhain yn fewnol fel rheol.
PDFs
Mae PDF yn fformat poblogaidd ar gyfer rhannu gwybodaeth ond gall fod yn anodd ei wneud yn hygyrch ar ôl ei allgludo. Y peth pwysig yw sicrhau hygyrchedd yn y fformat gwreiddiol cyn allgludo.
Mae Tîm Cynnwys Hwb yn defnyddio nodwedd gwirio hygyrchedd fewnol Adobe Acrobat Pro i wirio dogfennau PDF. Os nad oes gennych chi fynediad at hwn, mae PAVE yn offeryn gwe rhad ac am ddim sy’n gwirio hygyrchedd dogfennau PDF ac mae’n eich tywys chi drwy’r broses o wneud y cywiriadau angenrheidiol.
Dogfennau PDF a grëwyd mewn rhaglenni Adobe
Gall canllawiau Llywodraeth Cymru ar sut i greu dogfennau PDF hygyrch helpu i sicrhau bod gofynion hygyrchedd yn cael eu bodloni. Mae canllawiau gan Adobe (Saesneg yn unig) hefyd yn rhoi arweiniad ar ddylunio dogfennau yn InDesign ac Acrobat.
Dogfennau PDF a grëwyd yn Canva
Mae swyddogaeth hygyrchedd fewnol Canva yn helpu i ddylunio dogfennau hygyrch. ond mae problemau'n aml yn codi wrth allgludo i PDF. Rydym yn argymell rhedeg gwiriad hygyrchedd Adobe ar ôl allgludo neu ganiatáu amser ychwanegol i ddatrys unrhyw broblemau. I leihau problemau, rhowch y gwirydd hygyrchedd ar waith pan fyddwch chi’n cychwyn creu eich dogfen Canva i gael eich hysbysu am broblemau hygyrchedd wrth i chi fynd ymlaen.
Mae'r canllaw cam wrth gam hwn yn dangos sut i ddefnyddio'r nodweddion hygyrchedd. Yn ogystal, mae'r erthygl hon ar Canva yn tynnu sylw at y nodweddion sy’n benodol i allgludo dogfennau fel rhai PDF.
Dogfennau PDF a grëwyd mewn cymwysiadau Microsoft
Dylai creu dogfennau hygyrch yn rhaglenni Microsoft a'u harbed fel PDF sicrhau bod y PDF terfynol yn bodloni safonau hygyrchedd. Dilynwch y camau yn yr adran 'Cymwysiadau Microsoft Office’ isod.
Cymwysiadau Microsoft Office
Defnyddiwch y bar chwilio ar frig unrhyw sgrîn yn Microsoft Office i ddod o hyd i gymorth, chwilio am atebion i ymholiadau neu ddod o hyd i swyddogaethau.
Gall offer hygyrchedd mewnol Microsoft helpu i sicrhau bod eich dogfennau’n hygyrch. Defnyddiwch y gwirydd hygyrchedd pan fyddwch chi’n dechrau creu eich cynnwys er mwyn i chi gael gwybod am broblemau hygyrchedd wrth i chi fynd ymlaen.
I gael cyfarwyddiadau manwl ar greu ffeiliau hygyrch, ewch i'r canllawiau Creu dogfennau hygyrch.
Defnyddio gwirydd hygyrchedd Microsoft
Mae'r cyfarwyddiadau hyn yn seiliedig ar ddefnyddio PowerPoint. Fodd bynnag, mae'r gwirydd yn gweithio yn yr un ffordd mewn rhaglenni Microsoft eraill, gan gynnwys Word ac Excel.
I gael manylion llawn ar sut i ddefnyddio gwirydd hygyrchedd Microsoft, gan gynnwys mewn fersiynau hŷn o Microsoft Office, ewch i fforwm Microsoft cymorth gyda’r gwirydd hygyrchedd.
Agorwch eich dogfen a dilynwch y camau yma.
- Ewch i'r tab 'Adolygu/Review' yn y bar dewislenni ar frig y sgrîn.
- Dewiswch 'Gwirio Hygyrchedd/Check Accessibility' i agor y cwarel 'Cynorthwy-ydd Hygyrchedd/Accessibility Assistant' ar yr ochr dde. Mae'n well gwneud hyn ar y dechrau os ydych chi'n cychwyn dogfen newydd, gan y bydd hyn yn nodi unrhyw broblemau hygyrchedd wrth i chi weithio.
- Gweithiwch eich ffordd drwy'r gwallau neu'r rhybuddion sydd wedi'u nodi yn y panel 'Cynorthwy-ydd Hygyrchedd/Accessibility Assistant'.
a) Cliciwch ar bob eitem i ddatrys y broblem.
b) Mae'r awgrymiadau dysgu yn egluro’r gwall, pam y mae’n bwysig a sut i’w ddatrys.
c) Parhewch â'r broses hon nes bod y gwallau a’r rhybuddion i gyd wedi’u datrys.
Gallwch gadw golwg ar hygyrchedd y ddogfen drwy wirio'r neges 'Hygyrchedd/Accessibility' ar ochr chwith isaf y ffenestr. Er enghraifft, mae 'Hygyrchedd/Accessibility: Ymchwilio/Investigate' yn golygu bod yna faterion sydd angen sylw.
Testun amgen (alt text)
Ychwanegwch destun amgen at ddelweddau neu eu marcio fel addurniadol. Gofalwch fod testun amgen yn yr un iaith â’r ddogfen (er enghraifft os yw’r ddogfen yn Gymraeg, dylai’r testun amgen hefyd fod yn Gymraeg).
I ychwanegu testun amgen mewn cymwysiadau Microsoft
- Dewiswch y ddelwedd a de-gliciwch arni.
- O'r gwymplen, dewiswch 'Gweld Testun Amgen...’
- Bydd y panel hygyrchedd yn agor ac yn caniatáu i chi wirio a golygu'r testun amgen neu farcio’r ddelwedd fel addurniadol os nad yw’n berthnasol i’r cynnwys.
Gallwch ddysgu rhagor am destun amgen yn yr erthygl hon gan Microsoft.
Cyferbyniad lliw
Mae cyferbyniad lliw priodol yn hanfodol gan ei fod yn sicrhau bod testun ac elfennau pwysig yn ddarllenadwy i bawb.
Defnyddiwch wirydd cyferbyniad lliw Web Aim i sicrhau bod y lliwiau rydych chi’n eu dewis yn hygyrch i bobl ag amhariad ar y golwg. Gofalwch fod eich cyferbyniad lliw yn bodloni safon AA WCAG, o leiaf.
Penawdau
Mae penawdau yn chwarae rhan hanfodol wrth wneud dogfennau yn hygyrch. Maen nhw’n:
- helpu defnyddwyr, yn enwedig y rhai hynny sy'n defnyddio darllenwyr sgrîn, i symud drwy’r ddogfen yn rhwydd.
- caniatáu i ddefnyddwyr neidio o un adran i'r llall heb orfod darllen trwy'r holl gynnwys
- rhoi strwythur clir, gan wneud y ddogfen yn haws i'w deall
- torri’r cynnwys i lawr yn adrannau hylaw
- gwneud chwilio’r ddogfen yn haws
- sicrhau fformat cyson drwy'r ddogfen
Mewn dogfennau Word, defnyddiwch arddulliau pennawd i drefnu eich cynnwys. Mae canllaw Sut i greu dogfennau Word hygyrch yn rhoi cyfarwyddiadau cam wrth gam ar sut i ddefnyddio arddulliau pennawd yn effeithiol.
Heb benawdau, ni all darllenwyr sgrîn ddehongli cynnwys tabl, gan ei wneud yn annealladwy i ddefnyddwyr â nam ar y golwg. Mae’r canllaw Sut i greu dogfennau Word hygyrch yn cynnwys cyfarwyddiadau manwl ar sut i wneud tablau yn hygyrch.
Trefn darllen yn PowerPoint
Mae trefn darllen yn pennu sut mae darllenydd sgrin yn darllen cynnwys eich dogfen. Yn ddiofyn, mae’n dilyn y drefn y cafodd eitemau eu hychwanegu, ac efallai nad dyna’r drefn ddarllen resymegol. Mae hyn yn bwysig dros ben pan fyddwch chi’n allgludo PowerPoint i PDF gan y gall defnyddwyr sy’n dibynnu ar ddarllenwyr sgrîn ei chael yn anodd deall dogfen pan fo’r drefn ddarllen yn anghywir.
I gywiro'r drefn ddarllen yn Microsoft PowerPoint:
- Ewch i'r tab 'Hygyrchedd/Accessibility' yn y ddewislen ar frig y sgrîn.
- Cliciwch ar y saeth fach ar i lawr wrth ymyl y botwm ‘Gwirio Hygyrchedd/Check Accessibility'.
- Dewiswch cwarel ‘Gwirio’r Drefn Ddarllen/Reading Order’ o’r gwymplen.
- Yn y cwarel ‘Gwirio’r Drefn Ddarllen/Reading order’ mae pob eitem ar y sleid wedi’i rhifo. Llusgwch a gollyngwch eitemau i newid eu trefn.
- Dad-diciwch flychau wrth ymyl eitemau nad ydych chi am eu darllen (er enghraifft gwybodaeth ailadroddus fel manylion cyswllt).
Am ragor o wybodaeth am ddefnyddio’r cwarel Gwirio’r Drefn Ddarllen/Reading Order ewch i dudalen gymorth Microsoft.
Arbed fel PDF
I arbed eich dogfen Microsoft fel PDF gyda'r gosodiadau cywir:
- Ewch i ‘Ffeil/File’ yna ‘Cadw/Save’.
- Newidiwch y ‘Cadw ar ffurf/Save as type’ i ‘PDF’.
- Cliciwch ar ‘Dewisiadau/Oprtions’... a sicrhau bod tic wrth ymyl y dewisiadau a ganlyn:
- priodweddau’r ddogfen
- tagiau strwythur dogfen ar gyfer hygyrchedd
- testun didfap pan nad yw’r ffontiau wedi’u plannu
Efallai na fydd rhai dewisiadau ar gael, yn dibynnu ar y rhaglen rydych chi’n ei defnyddio.
Fideos
Mae fideos a gyhoeddir ar Hwb at ddibenion addysgol. Ni fwriedir iddyn nhw gael eu defnyddio ar gyfryngau cymdeithasol.
Rhaid i unrhyw fideo a gyhoeddir ar Hwb fodloni:
Rhaid uwchlwytho fideos i YouTube cyn eu cyhoeddi ar Hwb, oni bai eu bod yn cael eu lletya ar wefan allanol.
Rhaid i chi gysylltu â Thîm Cynnwys Hwb cyn gynted ag y bo modd i drafod eich prosiect fideo.
Os yw eich fideo yn rhan o brosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ymgynghorwch â'ch cyswllt polisi cyn gynted ag y bo modd i drafod eich cynlluniau.
I gael gwybodaeth gyffredinol am gyhoeddi fideos, ewch i 'Fideos ar LLYW.CYMRU’.
Creu fideos hygyrch
Mae'n hanfodol sicrhau bod pob fideo yn cynnwys capsiynau caeedig. Testun cydamserol yw’r rhain sy’n cyd-fynd â thrac sain fideo, gan alluogi gwylwyr i ddarllen wrth wylio. Ni ddylid llosgi capsiynau caeedig ar y ddelwedd fideo. Defnyddiwch yn hytrach offer fel nodwedd capsiynau caeedig YouTube.
Mae’r broses o greu capsiynau caeedig yn cynnwys:
- trawsgrifio'r sain yn destun
- cynnwys ciwiau sain perthnasol nad ydyn nhw’n ddeialog, fel nodi'r iaith a siaredir ar y dechrau neu nodi pan fo’r iaith yn newid (er enghraifft 'yn siarad Saesneg’).
- nodi unrhyw synau cefndir sy'n bwysig i'r cynnwys (er enghraifft 'plant yn canu yn Gymraeg')
- rhannu'r testun yn ddarnau, yr hyn a elwir yn 'fframiau capsiynau'
- gofalu bod y fframiau capsiynau a’r fideo yn cyd-fynd â’i gilydd
Ar ôl i chi gwblhau'r capsiynau caeedig, rhaid i chi:
- arbed y capsiynau a’u cyhoeddi
- dadgyhoeddi neu ddileu'r fersiwn awtomatig
Bydd trawsgrifiad yn cael ei ychwanegu at eich fideo. Gallwch gael gafael ar y trawsgrifiad trwy ddewis y 3 dot o dan y fideo a dewis ‘Agor trawsgrifiad’.
Rhaid darparu trawsgrifiadau o gapsiynau caeedig fel ffeil stamp amser SRT a dylen nhw gyd-fynd â’r iaith a siaredir ar y fideo.
Iaith arwyddion Prydain (BSL)
Bydd y gofynion hygyrchedd ac iaith ar gyfer fideos BSL yn wahanol. Bydd angen trafod y fideos hyn â Thîm Cynnwys Hwb. Bydd angen i ddehonglwr proffesiynol sy’n deall yr ieithoedd a ddefnyddir yn y fideo amseru trawsgrifiadau ar gyfer fideos BSL.
Gofynion y Gymraeg ar gyfer fideos
I gydymffurfio â safonau'r Gymraeg, rhaid i’r Gymraeg a’r Saesneg gael eu trin yn gyfartal mewn unrhyw gynnwys fideo. Mae hyn fel arfer yn golygu creu fideos yn Gymraeg a Saesneg fel ei gilydd. Yn ogystal, rhaid i bob fideo gynnwys capsiynau caeedig yn iaith y fideo.
Ar gyfer adnoddau sy'n cynnwys fideos astudiaethau achos rhaid defnyddio cyfranogwyr dwyieithog er mwyn gallu cynhyrchu fideos Cymraeg a Saesneg. Neu, fel dewis arall, gellid cynhyrchu dau wahanol astudiaeth achos o’r un teilyngdod, y naill yn Gymraeg a’r llall yn Saesneg.
Nid ydym yn derbyn fideos dwyieithog fel rhan o adnoddau Hwb. Os ydych chi am greu fideo dwyieithog, cysylltwch â Thîm Cynnwys Hwb i drafod eich opsiynau.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am safonau'r Gymraeg, cysylltwch â Safonau.Standards@llyw.cymru.
Hawlfraint
Rhaid i bob fideo gydymffurfio â chyfreithiau hawlfraint. Mae hyn yn cynnwys:
- sicrhau bod caniatâd perthnasol yn cael ei sicrhau cyn creu fideo os yw’n bosibl, neu os nad yw hyn yn bosibl, sicrhau caniatâd cyn cyhoeddi’r fideo
- peidio ag enwi ysgolion na dysgwyr os nad oes gennych chi ganiatâd i wneud hynny
- creu fideos mewn lleoliad addas gan sicrhau nad oes unrhyw eitemau ac arnyn nhw nod masnach na gwybodaeth sensitif i'w gweld yn y cefndir
Lletya fideos
Dylid lletya fideos naill ai ar eich sianel YouTube chi neu ar ein sianel ni. Gellir cytuno ar hyn unwaith y bydd y cais wedi'i dderbyn.
Unwaith y bydd fideo wedi'i gyhoeddi ar Hwb, ni ddylid gwneud unrhyw addasiadau pellach i'r cynnwys heb i Dîm Cynnwys Hwb gymeradwyo hyn ymlaen llaw.
Gofynion YouTube
Rhaid darparu'r wybodaeth a ganlyn ynghyd â'r fideo sydd i’w uwchlwytho i'n sianeli YouTube.
- Teitl y fideo: rhaid i'r teitl fod yn un unigryw sy’n gwneud synnwyr o’r cynnwys, ac ni ddylai fod yn hirach na 70 nod (gan gynnwys bylchau).
- Disgrifiad o’r fideo: crynodeb byr o hyd at 5,000 nod sy’n egluro am beth mae’r fideo (gallwch ddod o hyd i awgrymiadau ar sut i ysgrifennu disgrifiadau da o fideo ar YouTube Help).
- Trawsgrifiad fideo ar gyfer capsiynau caeedig fel ffeil stamp amser SRT.
- Dewiswch ‘made for kids’ yn y gosodiadau fideo. Mae hyn yn helpu i hidlo hysbysebion amhriodol.
Amserlenni
Rhaid i chi gyflwyno'r fideo terfynol o leiaf 15 diwrnod gwaith cyn y dyddiad cyhoeddi. Bydd angen amser ychwanegol os bydd:
- angen i Dîm Cynnwys Hwb wirio eich fideo ymhellach
- nifer mawr o fideos i’w cyhoeddi
- y fideo(s) yn hir iawn (hirach na 10 munud)
Enghreifftiau o arfer da
Mae cyngor pellach ar pryd dylid defnyddio fideos a sut i'w gwneud yn hygyrch ar gael ar LLYW. CYMRU.
Gallwch anfon e-bost i Dîm Cynnwys Hwb cynnwysaddysg@llyw.cymru i drafod eich prosiect fideo.
MP3
Rhaid darparu MP3s yn Gymraeg a Saesneg, gyda thrawsgrifiad mewn dogfen Word yn yr iaith a siaredir yn y recordiad. Gwnewch yn siŵr fod y sain yn glir yn y recordiad.
Apiau sydd wedi’u cymeradwyo ymlaen llaw
Mae sicrhau hygyrchedd apiau symudol ac apiau ar y we yn hanfodol ar gyfer cynhwysiant a chydymffurfio â safonau cyfreithiol. Bydd y Pecyn cymorth technoleg dwyieithog: profiad da i’r defnyddiwr yn eich helpu i gynnig prosiect neu wasanaeth TG da yn Gymraeg a Saesneg.
Mae'r canllaw hwn gan Accessibility Checker (Saesneg yn unig) yn egluro gofynion hygyrchedd apiau rhanbarthol a sut i'w rhoi ar waith.
Rhaid i chi nodi'n glir pwy sy'n gyfrifol am gynnal a chadw'r ap ac amlinellu'r broses o reoli diweddariadau cyn ei gyflwyno i'w gyhoeddi. Bydd hen apiau neu apiau nad ydyn nhw’n gweithio yn cael eu tynnu oddi ar Hwb.