Datblygu adnoddau ar gyfer Hwb
Canllawiau ar ddatblygu a chyflwyno adnoddau i'w cyhoeddi ar Hwb.
- Rhan o
2. Adnoddau i gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru
Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn seiliedig ar ddibenion clir ac yn canolbwyntio ar helpu dysgwyr i wneud cynnydd. Mae'n cwmpasu popeth y bydd dysgwr yn ei brofi wrth fynd ar drywydd pedwar diben y cwricwlwm, gan gynnwys:
- yr hyn a addysgir
- sut mae'n cael ei addysgu
- pam mae'n cael ei addysgu
Mae'r fframwaith cenedlaethol statudol yn cynnwys gofynion cwricwlwm a nodir mewn deddfwriaeth, ynghyd â chanllawiau ategol i helpu ysgolion a lleoliadau i gynllunio a gweithredu eu cwricwlwm eu hunain.
Yn gyffredinol, mae adnoddau’r Cwricwlwm i Gymru wedi'u cynllunio i'w defnyddio gan ymarferwyr, rhieni, gofalwyr neu ddysgwyr mewn ystafelloedd dosbarth neu leoliadau addysgol eraill i gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru.
Mae'r adnoddau hyn wedi'u categoreiddio i'r pynciau a'r meysydd dysgu a phrofiad canlynol:
- Y Celfyddydau Mynegiannol
- Iechyd a Lles
- Y Dyniaethau
- Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
- Mathemateg a Rhifedd
- Gwyddoniaeth a Thechnoleg
- Dysgu sylfaen
- Cynllunio cwricwlwm
Ar gyfer ymholiadau am y Cwricwlwm i Gymru, cysylltwch â cwricwlwmigymru@llyw.cymru.
Adnodd
Mae Adnodd yn gorff hyd braich Llywodraeth Cymru sy'n goruchwylio ac yn cydlynu darpariaeth adnoddau addysgol yn y Gymraeg a'r Saesneg i gefnogi dysgu ac addysgu’r Cwricwlwm i Gymru.
Nod Adnodd yw sicrhau bod pob dysgwr ac ymarferydd, beth bynnag fo'i gefndir, yn gallu cael gafael ar adnoddau o ansawdd uchel a fydd yn ysbrydoli ac yn cefnogi dysgu ac addysgu’r Cwricwlwm i Gymru.
Rhaid i Adnodd adolygu a sicrhau ansawdd adnoddau sy'n ymwneud â dysgu ac addysgu’r Cwricwlwm i Gymru cyn iddyn nhw gael eu cyhoeddi ar Hwb. I ddechrau'r broses hon, defnyddiwch y canllawiau hyn i sicrhau bod eich adnodd yn bodloni meini prawf Hwb. Os ydyw, wedyn dylech ei gyflwyno drwy’r dudalen gwirio a chyflwyno eich adnodd.
Ar gyfer ymholiadau am adnoddau dysgu ac addysgu neu gylch gwaith Adnodd, cysylltwch â comisiynu@adnodd.llyw.cymru.