Datblygu adnoddau ar gyfer Hwb
Canllawiau ar ddatblygu a chyflwyno adnoddau i'w cyhoeddi ar Hwb.
- Rhan o
1. Ynglŷn â'r canllaw hwn
Mae’r canllaw hwn ar gyfer unrhyw un sy’n rhan o’r broses o greu adnoddau addysgol i Gymru. Mae'r term 'adnodd' yn cyfeirio at ddeunyddiau sydd wedi'u cynllunio i gefnogi:
- dysgu ac addysgu
- cynllunio cwricwlwm
- dysgwyr
- dysgu proffesiynol
Mae'n nodi 7 egwyddor allweddol sydd â’r nod o'ch helpu i gynhyrchu adnoddau addysg o ansawdd uchel sy'n berthnasol yng Nghymru. Cefnogir pob egwyddor gan ganllawiau ar bethau i'w hystyried, yn ogystal â phethau i'w hosgoi wrth ddatblygu adnoddau.
Mae hefyd yn rhoi arweiniad ar feini prawf cyhoeddi a manylebau technegol Hwb, gan amlinellu'r disgwyliadau a'r rhwymedigaethau cyfreithiol y mae'n rhaid eu bodloni er mwyn i adnodd gael ei gymeradwyo i'w gyhoeddi.
Pynciau adnoddau
Rhennir adnoddau ar Hwb yn y ffordd ganlynol.
Y Cwricwlwm i Gymru
Mae'r adnoddau hyn wedi'u cynllunio ar gyfer dysgu ac addysgu’r Cwricwlwm i Gymru, gan gynnwys cynllunio cwricwlwm a dysgu sylfaen ar gyfer plant 3 i 16 oed. Gall yr adnoddau hyn orgyffwrdd weithiau â phynciau adnoddau eraill a restrir isod.
Adnoddau ar bynciau eraill
Er bod adnoddau ar bynciau eraill efallai’n dal i gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru, nid ydyn nhw wedi'u bwriadu i'w defnyddio'n uniongyrchol gyda dysgwyr. Maen nhw’n fwy addas ar gyfer meysydd pwnc Hwb eraill, megis:
Sut i ddefnyddio'r canllaw hwn
Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i benderfynu a yw eich adnodd yn addas i'w gyhoeddi ar Hwb ac yn eich arwain drwy'r broses gyflwyno.
Bydd angen i chi nodi'r math o adnodd rydych chi'n ei gyflwyno, boed hynny at ddibenion dysgu ac addysgu neu rywbeth arall.
Bydd angen i chi hefyd sicrhau bod eich adnodd yn bodloni:
Mae'r canllaw hwn hefyd yn cynnwys rhestr wirio i'ch helpu i ddeall y gofynion ar gyfer eich adnodd.
Proses gyflwyno
Defnyddiwch y rhestr wirio ar y dudalen 'Gwirio a chyflwyno eich adnodd' i sicrhau bod eich adnodd yn bodloni'r holl ofynion angenrheidiol. Os ydyw, dylech ei gyflwyno i gael ei adolygu gan ddefnyddio'r ffurflen gyflwyno berthnasol.
Bydd Adnodd yn adolygu adnoddau sy'n ymwneud â dysgu ac addysgu’r Cwricwlwm i Gymru, ac yn sicrhau eu hansawdd. Bydd pynciau adnoddau eraill yn cael eu hadolygu gan gorff neu dîm polisi Llywodraeth Cymru perthnasol.
Ar ôl ichi gyflwyno’ch adnodd, byddwch yn cael gwybod am statws eich adnodd, ac unrhyw gamau nesaf, o fewn 15 diwrnod gwaith.
Os nad oes angen unrhyw beth pellach a bod eich adnodd yn cael ei gymeradwyo, bydd yn cael ei gyhoeddi.
Cysylltwch â ni
Os oes angen i chi drafod eich opsiynau cyn cyflwyno'ch adnodd, cysylltwch â ni.
I drafod adnoddau dysgu ac addysgu i gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru, e-bostiwch comisiynu@adnodd.llyw.cymru.
I drafod adnoddau eraill, e-bostiwch cynnwysaddysg@llyw.cymru.