Google Classroom
Sut i gydweithio, rhannu adnoddau a rheoli gweithgareddau dysgu drwy Hwb.
Trosolwg
Platfform dysgu ar-lein yw Google Classroom sy'n helpu ymarferwyr a dysgwyr i weithio gyda'i gilydd, rhannu adnoddau a rheoli aseiniadau. Mae Google Classroom ar gael i bob dysgwr ac ymarferydd yng Nghymru drwy Hwb.
Ewch i Google Classroom Help i ddarganfod mwy.
Sut i fynd i mewn i Google Classroom
Gallwch fynd i mewn i Google Classroom mewn 3 ffordd:
- Mewngofnodwch i Hwb a dewiswch ap Google for Education ar ddangosfwrdd Hwb. Bydd hyn yn mynd â chi i dudalen hafan Google Classroom.
- Ewch i Google.com, a mewngofnodwch â'ch manylion Hwb. Bydd hyn yn mynd â chi i dudalen hafan Classroom.
- Os ydych yn defnyddio iPad neu ddyfais symudol arall, lawrlwythwch ap Classroom o'r App Store neu'r Play Store a mewngofnodwch â'ch manylion Hwb.
Ar ôl mewngofnodi, cymerwch gip ar gornel dde uchaf y sgrin i sicrhau eich bod yn defnyddio eich cyfrif Hwb yn hytrach na chyfrif Google personol.
Sut y gall Google Classroom gefnogi ysgolion
- Gall ymarferwyr greu dosbarthiadau, gwahodd dysgwyr a chyd-athrawon, postio cyhoeddiadau, aseiniadau a chwestiynau mewn un man canolog.
- Gall ymarferwyr osod trefn ar y cynnwys yn ôl pynciau, ailddefnyddio postiadau ac amserlennu aseiniadau ymlaen llaw.
- Mae'r gallu i wneud sylwadau, darparu adborth preifat, marcio gwaith a chreu data ar raddau y gellir ei lawrlwytho yn ategu gwaith asesu ac adborth.
- Gall pob dysgwr dderbyn ei gopi ei hun o'r adnoddau yn awtomatig (er enghraifft, Google Docs, Slides neu Sheets). Mae hyn yn galluogi'r unigolyn i weithio, ac i ymarferwyr fonitro cynnydd yn fyw.
- Gall ymarferwyr neilltuo gwaith i ddysgwyr unigol neu grwpiau. Mae hyn yn ei gwneud yn bosibl teilwra gwaith a chynnig cyfleoedd dysgu sy'n targedu'r unigolyn.
- Mae Google Meet ar gael yn uniongyrchol drwy Classroom i hwyluso dilyniant dysgu di-dor yn ystod cyfnodau o darfu neu absenoldeb. Darllenwch ein canllaw ar wersi byw wrth ddefnyddio Google Meet ar gyfer dilyniant dysgu.
Sefydlu Google Classroom
Mae gwybodaeth ar sut i ddechrau arni gyda Google Classroom yn y Google Teacher Center.
Creu ystafelloedd dosbarth sydd wedi'u llenwi'n barod yn y Porth Rheoli Defnyddwyr
Gall aelod o staff ysgol neu weinyddwr Hwb greu ystafelloedd dosbarth Google ar ran ysgol, gan greu dosbarthiadau wedi'u hamserlennu yn system Gwybodaeth Reoli yr ysgol:
- Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Rheoli Defnyddwyr.
- Cliciwch ar Gweinyddiaeth: Gweld Grwpiau.
- Defnyddiwch yr hidlyddion i ddod o hyd i'r dosbarth sydd ei angen drwy ddewis y flwyddyn, y math o grŵp, yr athro neu athrawes neu'r flwyddyn academaidd. (Bydd gweinyddwyr Hwb yn gweld pob dosbarth yn yr ysgol, ond dim ond eu dosbarthiadau eu hunain y bydd athrawon yn eu gweld).
- Cliciwch ar ddosbarth i ddod o hyd i’r wybodaeth ar gyfer y grŵp hwnnw. Bydd hyn yn cynnwys trosolwg a rhestr o'r holl ddysgwyr yn y grŵp.
- Cliciwch ar Ychwanegu Google Classroom + i greu'r ystafell ddosbarth Google. Fel arfer, bydd ystafell ddosbarth yn cael ei chreu o fewn ychydig funudau, ond gallai gymryd hyd at awr yn ystod cyfnodau prysurach o'r diwrnod.
Ychwanegu athrawon at ystafell ddosbarth sydd wedi'i llenwi'n barod yn y Porth Rheoli Defnyddwyr
Gall gweinyddwyr Hwb ychwanegu eu hunain fel athrawon ystafell ddosbarth Google sydd wedi'i llenwi'n barod yn y Porth Rheoli Defnyddwyr:
- Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Rheoli Defnyddwyr.
- Cliciwch ar Gweinyddiaeth: Gweld Grwpiau.
- Defnyddiwch yr hidlyddion i ddod o hyd i’r dosbarth sydd ei angen drwy ddewis y flwyddyn, y math o grŵp, yr athro neu athrawes neu'r flwyddyn academaidd (bydd gweinyddwyr Hwb yn gweld pob dosbarth yn yr ysgol, ond dim ond eu dosbarthiadau eu hunain y bydd athrawon yn eu gweld).
- Cliciwch ar ddosbarth i ddod o hyd i’r wybodaeth ar gyfer y grŵp hwnnw. Bydd hyn yn cynnwys trosolwg a rhestr o'r holl ddysgwyr yn y grŵp.
- Cliciwch ar Rheoli Google Classroom.
- Cliciwch ar Ychwanegu fel Athro, yna Iawn.
Gall perchennog ystafell ddosbarth hefyd ychwanegu staff eraill fel athrawon yn ap Google Classroom.
Adfer ystafelloedd dosbarth sydd wedi'u harchifo
Os yw ystafell ddosbarth wedi'i harchifo, mae modd ei hadfer. Bydd hyn yn adfer yr ystafell ddosbarth yn union fel ag yr oedd cyn ei harchifo, gan gynnwys ffeiliau, dogfennau, aseiniadau, aelodaeth ac enw.
Gall athrawon neu berchnogion yr ystafelloedd dosbarth adfer y rhain yn ap Google Classroom:
- Cliciwch ar Y brif ddewislen ar ochr chwith uchaf y sgrin (3 llinell lorweddol).
- Cliciwch ar Dosbarthiadau wedi'u harchifo.
- Cliciwch ar Adfer.
- Cliciwch ar Cadarnhau Adfer.
Gall gweinyddwyr Hwb hefyd adfer ystafell ddosbarth wedi'i harchifo o'r Porth Rheoli Defnyddwyr:
- Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Rheoli Defnyddwyr.
- Cliciwch ar Gweinyddiaeth: Gweld Grwpiau.
- Defnyddiwch yr hidlyddion i ddod o hyd i’r dosbarth sydd ei angen drwy ddewis y flwyddyn, y math o grŵp, yr athro neu athrawes neu'r flwyddyn academaidd (bydd gweinyddwyr Hwb yn gweld pob dosbarth yn yr ysgol, ond dim ond eu dosbarthiadau eu hunain y bydd athrawon yn eu gweld).
- Cliciwch ar ddosbarth i ddod o hyd i’r wybodaeth ar gyfer y grŵp hwnnw. Bydd hyn yn cynnwys trosolwg a rhestr o'r holl ddysgwyr yn y grŵp.
- Cliciwch ar Rheoli Google Classroom.
- Cliciwch ar Dadarchifo, yna Iawn.
Adfer ystafell ddosbarth Google sydd wedi'i llenwi'n barod o flwyddyn academaidd flaenorol
Mae'r holl ystafelloedd dosbarth a grëwyd drwy'r Porth Rheoli Defnyddwyr yn cael eu harchifo'n awtomatig ar ddiwedd y flwyddyn academaidd.
Gall gweinyddwyr Hwb, gweinyddwyr ysgolion a staff adfer eu hystafelloedd dosbarth o flwyddyn academaidd flaenorol drwy ddilyn y camau isod:
- Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Rheoli Defnyddwyr.
- Cliciwch ar Gweinyddiaeth: Gweld Grwpiau.
- Defnyddiwch yr hidlyddion i ddod o hyd i’r dosbarth sydd ei angen drwy ddewis y flwyddyn, y math o grŵp, yr athro neu athrawes neu'r flwyddyn academaidd (bydd gweinyddwyr Hwb yn gweld pob dosbarth yn yr ysgol, ond dim ond eu dosbarthiadau eu hunain y bydd athrawon yn eu gweld).
- Cliciwch ar ddosbarth i ddod o hyd i’r wybodaeth ar gyfer y grŵp hwnnw. Bydd hyn yn cynnwys trosolwg a rhestr o'r holl ddysgwyr yn y grŵp.
- Cliciwch ar Adfer Google Classroom.
Er bod y broses o adfer ystafelloedd dosbarth yn gyflym fel arfer, yn ystod cyfnodau prysurach gall gymryd hyd at awr cyn ichi allu gweld y dosbarth eto. Ni fydd unrhyw ystafell ddosbarth a gafodd ei hadfer yn dal i fod yn gysylltiedig â system gwybodaeth reoli'r ysgol.
Gemini yn Google Classroom
Darganfyddwch fwy am sut i fynd i mewn i Gemini yn Google Classroom a'i ddefnyddio a'i brif nodweddion a manteision.
Y Prif Ystyriaethau
- Dylid defnyddio Google Classroom yn unol â pholisïau ehangach yr ysgol, megis:
- llythrennedd digidol
- diogelwch ar-lein
- defnydd derbyniol
- diogelu unigolion
- diogelu data
- Dylai ymarferwyr sicrhau mai dim ond drwy gyfrifon Hwb y ceir mynediad at Google Classroom. Cymerwch gip ar gornel dde uchaf y sgrin i weld manylion y cyfrif.
- Rhaid cyfathrebu a rhyngweithio mewn ffordd broffesiynol a phriodol bob amser.
- Dylai ymarferwyr adolygu aelodaeth dosbarth yn rheolaidd a rheoli mynediad yn briodol.
- Dylid archifo dosbarthiadau pan nad oes eu hangen bellach, at ddibenion diogelwch a threfniadaeth.
Sicrwydd data
Mae Google Classroom yn rhan o Google Workspace for Education ac mae'r un safonau o ran diogelu data ac unigolion yn berthnasol ag yn achos gwasanaethau craidd eraill Google drwy Hwb. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Sicrwydd data Google Workspace.