Mynediad at Google Workspace for Education a’i ddefnyddio
Trosolwg o Google Workspace for Education a sut i ddechrau arni.
Trosolwg
Mae Google Workspace for Education yn cynnwys ystod o apiau ar-lein sy’n cefnogi dysgu, addysgu a chydweithio, gan gynnwys:
- Drive
- Docs
- Sheets
- Slides
- Vids
- Forms
- Meet
- Sites
- Chat
- Calendar
- Gemini
- NotebookLM
Mae gan bob dysgwr ac ymarferydd fynediad at Google Workspace for Education Fundamentals. Er mwyn cael mynediad at nodweddion ychwanegol ac ymarferoldeb gwell, gall ymarferwyr uwchraddio i drwydded Google Teaching and Learning.
Sut i gael mynediad at Google Workspace for Education
Mae yna 3 ffordd i gael mynediad at Google Workspace for Education:
- Mewngofnodwch i wefan Hwb a chliciwch ar ap Google for Education ar ddangosfwrdd Hwb. Dewiswch un o apiau Google trwy glicio ar y ‘waffl’ yn y gornel dde uchaf.
- Ewch i google.com, a mewngofnodwch gan ddefnyddio eich manylion mewngofnodi Hwb. Ar ôl mewngofnodi, dewiswch un o apiau Google trwy glicio ar y ‘waffl’ yn y gornel dde uchaf.
- Os ydych chi’n defnyddio iPad neu ddyfais symudol arall, lawrlwythwch apiau unigol (Classroom, Drive, Docs) o’r App Store neu’r Play Store a mewngofnodwch gan ddefnyddio eich manylion mewngofnodi Hwb.
Ar ôl mewngofnodi, gwiriwch gornel dde uchaf y sgrin i sicrhau eich bod wedi mewngofnodi i gyfrif Google Hwb ac nid cyfrif Google personol.
Gosodiadau iaith
Bydd yr iaith yn ymddangos yn awtomatig yn yr iaith sydd wedi’i gosod ym Mhorth Rheoli Defnyddwyr Hwb. Darllenwch ragor am newid gosodiadau iaith.
Sut y gall Google Workspace for Education gefnogi ysgolion
- Gall dysgwyr ac ymarferwyr gydweithio a rhoi adborth mewn amser real ar ddogfennau, cyflwyniadau a phrosiectau.
- Cyrchu gwaith, adnoddau ac adborth ar unrhyw adeg, o unrhyw ddyfais.
- Nodweddion hygyrchedd parod fel darllenwyr sgrin, teipio llais, capsiynau byw ac addasu’r dangosydd.
- Cefnogi dysgu wedi’i bersonoli gan ddefnyddio offer a nodweddion i addasu a gwahaniaethu tasgau.
Ewch i Google Learning Center i gael mynediad at gyfleoedd hyfforddi Google i ymarferwyr.
Ystyriaethau allweddol
- Sicrhau bod y defnydd o Google for Education yn cyd-fynd â pholisïau ehangach yr ysgol megis diogelu, llythrennedd digidol, diogelwch ar-lein, defnydd derbyniol a diogelu data.
- Gellir cael mynediad at Google for Education trwy borwr gwe neu apiau symudol, ac mae’n gytûn â’r rhan fwyaf o ddyfeisiau.
- Nid yw Gmail ar gael trwy Hwb.
- Dim ond ymarferwyr sydd â mynediad at Gemini a NotebookLM.
- Darllenwch ein canllaw gwersi byw wrth ddefnyddio Google Meet ar gyfer parhad dysgu.
AI yn Google Workspace for Education
Mae’r apiau Google Workspace canlynol sydd ar gael trwy Hwb yn cynnwys nodweddion deallusrwydd artiffisial (AI) parod:
- Gemini
- NotebookLM
Mae gan ymarferwyr a dysgwyr fynediad i’r ap Google Vids craidd trwy Hwb. Mae angen trwydded Google Teaching and Learning i ddefnyddio nodweddion AI uwch, sydd wedi’u pweru gan Gemini yn Vids, fel cynhyrchu fideo a throsleisio awtomataidd.
Sicrwydd data
- Mae ymarferwyr sy’n defnyddio Google Workspace for Education drwy Hwb yn elwa ar amddiffyniadau a rheolaethau gwell a ddarperir drwy ddiogelu data menter. Fodd bynnag, mae ysgolion yn parhau i fod yn rheolydd data ar gyfer unrhyw wybodaeth a fewnbynnir ac maent yn gyfrifol am sut mae’r allbwn data yn cael ei ddefnyddio.
- Dylai ysgolion ystyried a ddylid diweddaru eu Hasesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data (DPIA) presennol neu a oes angen DPIA newydd.
- Pan fydd ysgol yn ystyried defnyddio unrhyw apiau Google Workspace for Education mewn ffordd a allai gynnwys data personol neu ddata categori arbennig, dylid asesu a chefnogi hyn gan Asesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data lleol, ochr yn ochr â chyngor gan swyddog diogelu data’r ysgol, i sicrhau bod risgiau’n cael eu nodi a’u rheoli’n briodol yn y cyd-destun lleol. Mae enghreifftiau o ddata categori personol a sensitif yn cynnwys:
- mae data personol yn cynnwys gwybodaeth fel enwau, cyfeiriadau e-bost, dynodwyr dysgwyr, dyddiadau geni neu unrhyw wybodaeth a allai adnabod unigolyn
- mae data categori arbennig yn cynnwys gwybodaeth fwy sensitif fel gwybodaeth iechyd, manylion diogelu, anghenion dysgu ychwanegol neu ddata cydraddoldeb ac amrywiaeth
- Ni fydd promptiau ac ymatebion a ddefnyddir yn offer AI Google yn cael eu hadolygu gan bobl ac ni chânt eu defnyddio i hyfforddi’r modelau iaith mawr (LLMs) sylfaenol.
- Nid yw data yn Google Education Workspace for Education yn cael ei ddefnyddio ar gyfer hysbysebu na marchnata. Nid yw data yn cael ei werthu i drydydd partïon, ac mae’r cytundeb prosesu data yn cydymffurfio â gofynion GDPR o ran preifatrwydd a diogelwch. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch hysbysiad preifatrwydd Google for Education.