English

Mae estyniadau yn cynnig nodweddion ychwanegol ar gyfer Google Chrome a'r gwefannau yr ymwelir â nhw. Er enghraifft, gall estyniad ychwanegu nodwedd newydd at far offer y porwr, fel newidydd arian cyfred neu ymarferoldeb gwell ar gyfer gwefannau yr ymwelir â nhw'n aml.

Gellir ffurfweddu apiau Google (er enghraifft Google Docs) fel eu bod yn ymddangos yn awtomatig ar declynnau Chromebook a reolir a phan fydd defnyddwyr wedi mewngofnodi i'r porwr Chrome.

Mae gan weinyddwyr ysgolion a gweinyddwyr awdurdodau lleol (ALl) wahanol rolau a gwahanol ganiatadau wrth reoli apiau ac estyniadau Google. Mae gweinyddwyr ysgol yn gyfrifol am amgylchedd eu hysgol eu hunain a dyma'r unig rôl sydd â mynediad uniongyrchol at ddyfeisiau eu hysgol a rheolaeth drosto. Mae hyn yn cynnwys rheoli pa apiau ac estyniadau sydd wedi'u gosod ar y dyfeisiau hynny.

Mae gan weinyddwyr awdurdodau lleol oruchwyliaeth ehangach ar draws yr ALl a'i ysgolion. Gallant reoli polisïau a lleoliadau ar lefel uwch, ond nid oes ganddynt fynediad uniongyrchol at ddyfeisiau ysgol unigol.

Gall defnyddwyr sydd wedi cael rôl gweinyddwr Google osod apiau ac estyniadau Google ar gyfer eu hysgol neu awdurdod lleol eu hunain yn dibynnu ar eu lefel mynediad. Mae mynediad i'r Google Admin Console bellach ar wahân i'r rôl Hyrwyddwr Digidol ac mae’n gofyn am rôl gweinyddwr Google.

Noder efallai na fydd apiau ac estyniadau sy'n dibynnu ar fynediad i Google Drive neu wasanaethau craidd eraill Google Workspace trwy APIs yn gydnaws.

Mae'r Google Play Store a reolir yn caniatáu i ddefnyddwyr ddewis apiau o ddetholiad a ddewiswyd yn ofalus, i'w gosod ar eu Chromebooks a reolir gan Hwb. Gall y Play Store a reolir hefyd orfodi'r broses o osod a defnyddio apiau ar Chromebooks. 

Gellir darparu apiau fel Microsoft Teams neu Minecraft: Education edition yn hawdd ar gyfer Chromebooks a reolir gan Hwb.

Gall defnyddwyr y dyrannwyd rôl gweinyddwr Google iddynt ffurfweddu a dewis a dethol yn ofalus apiau addas ar gyfer eu hysgol neu awdurdod lleol.

Fodd bynnag, ni fydd apiau sy'n gofyn am fynediad at Drive ac apiau craidd drwy API Google Workspace yn gydnaws.

Mae holl Wasanaethau Ychwanegol Google wedi'u diffodd ar gyfer dysgwyr. Mae hyn oherwydd y telerau ac amodau sy'n berthnasol i'r gwasanaethau hyn. Efallai y bydd angen caniatâd rhieni ar gyfer rhai gwasanaethau, ac efallai y bydd eraill yn addas i ddefnyddwyr 18 oed ac yn hŷn yn unig.

Er bod rhai gwasanaethau ar gael o 13 oed ymlaen, nid yw Hwb yn gallu gwahaniaethu rhwng oedran defnyddwyr ac felly ni all nodi pa ddysgwyr sy'n bodloni'r gofyniad hwn. O ganlyniad, rhaid analluogi pob Gwasanaeth Ychwanegol Google i bob dysgwr.

Gwasanaethau Ychwanegol Google yw rhaglenni Google sydd ar gael trwy Google Workspace for Education, er enghraifft, Google Earth, sydd ar wahân i'r gwasanaethau addysgol craidd ac sy'n cael eu llywodraethu gan wahanol delerau ac amodau

  1. Ewch i https://myaccount.google.com a mewngofnodi gyda'ch enw defnyddiwr a'ch cyfrinair Hwb.
  2. Dewiswch Security (o'r opsiynau ar ochr chwith y dudalen).
  3. O dan Signing in to Google, chwiliwch am yr ap yr ydych am ddileu mynediad ato.
  4. Cliciwch ar Remove Access.