English

Mae Microsoft Teams yn blatfform cydweithredol sy'n cynnig lle canolog i ymarferwyr a dysgwyr ar gyfer gwersi rhithwir, gwaith grŵp, cyflwyno aseiniadau ac adborth amser real, gan helpu i gynnal cysylltiad a pharhad mewn dysgu ble bynnag y bo.

Mae gan holl staff ysgol a dysgwyr sydd â chyfrifon Hwb fynediad i Microsoft Teams.

Mae'r canllawiau hyn yn tynnu sylw at bwyntiau allweddol i ysgolion sy'n defnyddio Microsoft Teams i gefnogi parhad dysgu trwy wersi byw. Dylai ymarferwyr ac arweinwyr ysgolion archwilio llwybrau hyfforddi pwrpasol Microsoft Teams am gymorth cam wrth gam a gweithrediad ymarferol llawn.

Mae 2 ffordd i gael mynediad i Microsoft Teams o wefan Hwb.

  1. Mewngofnodwch a chliciwch ar yr ap Outlook ar ddangosfwrdd Hwb. Agorwch y waffl Microsoft (y grid o sgwariau yn y gornel chwith uchaf) a dewiswch Teams.
  2. Mewngofnodwch a chliciwch ar yr ap Microsoft 365 ar ddangosfwrdd Hwb. Dewiswch Apiau o'r ddewislen ar yr ochr chwith. Yna agorwch Teams.

I gael mynediad at Microsoft Teams y tu allan i wefan Hwb, agorwch teams.microsoft.com a mewngofnodi gan ddefnyddio cyfrif Hwb. Edrychwch yng nghornel dde uchaf y sgrin i sicrhau bod Teams wedi mewngofnodi i gyfrif Hwb ac nid cyfrif Microsoft personol.

I ymarferwyr a dysgwyr mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, bydd y Gymraeg yn cael ei dewis fel yr iaith ddiofyn. Ar gyfer y rhai mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, bydd y Saesneg yn cael ei dewis yn ddiofyn. Dysgwch sut i newid eich gosodiadau iaith.

  • Dylai ysgolion ystyried a oes angen Asesiad Effaith Diogelu Data (DPIA) newydd, neu a ddylid diweddaru eu DPIA cyfredol. 
  • Mae Microsoft Teams trwy Hwb yn cadw at ymrwymiadau preifatrwydd a diogelwch, gan gynnwys GDPR y DU. 
  • Mae data’n cael ei amgryptio wrth orffwys ac wrth ei gludo yn Microsoft 365 a'i storio o fewn tenant Hwb.
  • Mae Microsoft Teams trwy Hwb yn parchu'r caniatâd a'r rheolaethau mynediad a osodwyd yn Microsoft 365 Hwb. 
  • Mae recordiadau cyfarfodydd yn dod i ben ar ôl 60 diwrnod, oni bai eu bod yn cael eu hymestyn gan drefnydd y cyfarfod. Ar ôl ei ddileu, mae'r recordiad yn mynd i'r bin ailgylchu sydd â chyfnod cadw o 93 diwrnod, oni bai ei fod wedi'i ddileu â llaw.

Wrth gynllunio gwersi byw gan ddefnyddio Microsoft Teams, gall ymarferwyr ddewis o 3 fformat:

Mae pob fformat yn cynnig gwahanol lefelau o ryngweithio, rheolaeth a maint cynulleidfa. Mae dewis y fformat cywir yn helpu i sicrhau bod y sesiwn yn diwallu anghenion dysgwyr ac amcanion y wers.
Gellir recordio gwersi ymlaen llaw gan ddefnyddio Teams neu PowerPoint i'w hailrecordio yn ôl yr angen a chaniatáu mynediad hyblyg i ddysgwyr.

Mae cyfarfod Teams yn caniatáu i ymarferwyr gyflwyno gwersi byw gyda rhyngweithio a chyfranogiad gan ddysgwyr. Gall ymarferwyr a dysgwyr ddefnyddio fideo, sain, sgwrsio a rhannu sgrin.

Darganfyddwch sut i weithredu cyfarfodydd Microsoft Teams ar gyfer gwersi byw, gan gynnwys canllawiau ar amserlennu, nodweddion hygyrchedd a strategaethau i hybu ymgysylltiad dysgwyr.

Ystyriaethau allweddol wrth ddefnyddio cyfarfodydd Microsoft Teams ar gyfer gwersi byw 

Gwnewch yn siŵr bod yr holl staff yn darllen ac yn cadw at y canllawiau Darparu cyfleoedd dysgu ar-lein: egwyddorion ac arferion diogelu.

Sicrhewch mai dim ond cyfranogwyr awdurdodedig sy'n gallu ymuno â'r cyfarfod. Mae'n bosibl i gyfrifon nad ydynt yn rhai Hwb ofyn am ymuno â chyfarfod Teams os yw manylion y cyfarfod wedi'u rhannu. Os nad yw ymarferydd yn adnabod cyfrif, dylent wrthod y cais i ymuno â'r cyfarfod.

Defnyddiwch osodiadau ystafell aros, rheolaethau tewi a sbotoleuo i reoli'r sesiwn yn effeithiol.

Defnyddiwch nodweddion fel ystafelloedd trafod, ymateb, codi llaw, modd ffocws a sbotolau i annog cyfranogiad ac ymgysylltiad.

Defnyddiwch offer hygyrchedd fel capsiynau byw i weddu i anghenion pob dysgwr.

Gellir recordio gwersi byw os yw'n briodol a'u rhannu gyda dysgwyr sydd wedi ei golli. Os yw'r wers fyw yn cael ei recordio, rhowch wybod i'r holl gyfranogwyr bob amser. Mae recordiadau yn Teams yn cael eu cadw'n awtomatig i OneDrive neu SharePoint, yn dibynnu ar y math o gyfarfod. Dyma’r eithriadau:

  • galwadau 1:1 a grŵp: caiff recordiadau eu cadw ar OneDrive y defnyddiwr a ddewisodd Recordio
  • cyfarfodydd sianel: mae recordiadau'n cael eu cadw ar wefan SharePoint o dan Recordiadau

Cyfrifoldeb yr ymarferydd, fel trefnydd y cyfarfod, yw rheoli recordiadau yn ddiogel ac yn saff. Darllenwch Recordio gwersi a sesiynau: ystyriaethau pwysig mewn perthynas â’r Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR) am fwy o wybodaeth.

Sesiwn ar-lein strwythuredig sydd wedi'i chynllunio ar gyfer cyflwyno i grwpiau mwy o hyd at 1,000 o gyfranogwyr yw gweminar Teams. Mae'n caniatáu i ymarferwyr reoli cofrestru, rheoli rhyngweithio â’r gynulleidfa a chyflwyno cynnwys mewn fformat mwy ffurfiol, gan ddefnyddio arddull cyflwyniad.

Dysgwch sut i weithredu gweminarau Microsoft Teams, gan gynnwys canllawiau cam wrth gam ar amserlennu a rheoli gweminarau.

Ystyriaethau allweddol wrth ddefnyddio gweminarau Microsoft Teams 

  • Sicrhewch fod yr holl staff yn darllen ac yn cadw at y Darparu cyfleoedd dysgu ar-lein: egwyddorion ac arferion diogelu.
  • Aseiniwch gyflwynwyr a chyd-drefnwyr i reoli cynnwys a rhyngweithio.
  • Mae mynychwyr yn ymuno mewn modd gweld yn unig oni bai bod rhyngweithio wedi'i alluogi (er enghraifft sesiwn holi ac ateb wedi'i gymedroli, arolygon barn a sgwrsio).
  • Rhowch wybod i ddysgwyr bob amser os yw'r sesiwn yn cael ei recordio. Mae recordiadau yn cipio sain, fideo, cynnwys a rennir (fel sleidiau neu rannu sgrin) a chapsiynau byw os ydynt wedi'u galluogi. Nid yw'n cofnodi sgyrsiau preifat nac ystafelloedd trafod.
  • Os yw'r weminar wedi'i drefnu y tu allan i sianel Teams, mae'r recordiad yn cael ei gadw i OneDrive y trefnydd. Os caiff ei drefnu o fewn sianel Teams, caiff ei gadw i ffolder SharePoint y sianel o dan 'Recordiadau.'
  • Ar ôl i'r weminar ddod i ben, mae dolen i'r recordiad yn ymddangos yn sgwrs y cyfarfod a gellir ei rannu â dysgwyr a ymunodd. Darganfyddwch fwy am reoli recordiadau gweminarau. 
  •  Gall trefnwyr reoli caniatâd i reoli pwy all weld neu lawrlwytho'r recordiad.

Mae cyfarfod mawr (town hall) Teams yn ddigwyddiad rhithwir ar raddfa fawr yn Microsoft Teams sydd wedi'i gynllunio ar gyfer cyfathrebu strwythuredig gyda hyd at 10,000 o fynychwyr. Mae'n ddelfrydol ar gyfer cyhoeddiadau, gwasanaethau neu ddarlithoedd gwadd ar draws yr ysgol, gan gynnig nodweddion fel sesiwn holi ac ateb wedi'i chymedroli, rolau cyflwynydd a reolir ac offer ymgysylltu â'r gynulleidfa.

Dysgwch sut i weithredu cyfarfod mawr Microsoft Teams yn effeithiol, gan gynnwys canllawiau cam wrth gam ar sut i amserlennu a rheoli cyfarfod mawr gan ddefnyddio Microsoft Teams.

Ystyriaethau allweddol ar gyfer defnyddio cyfarfodydd mawr

Microsoft Teams i gyflwyo gwersi byw 

  • Gwnewch yn siŵr bod yr holl staff yn darllen ac yn cadw at y canllawiau Darparu cyfleoedd dysgu ar-lein: egwyddorion ac arferion diogelu.
  • Mae dysgwyr yn ymuno yn y modd gweld yn unig yn ddiofyn felly nid oes fawr o ryngweithio rhwng dysgwyr.
  • Defnyddiwch sesiwn holi ac ateb neu arolygon barn wedi'u cymedroli i alluogi ymgysylltiad strwythuredig.
  • Neilltuwch gyflwynwyr a chynhyrchwyr ymlaen llaw i reoli cynnwys, trawsnewidiadau a chymedroli.
  • Ystyriwch anghenion hygyrchedd er enghraifft, capsiynau, ffontiau darllenadwy, eglurder gweledol.
  • Yn ddiofyn, mae recordiadau cyfarfodydd mawr yn cael eu cadw i OneDrive ar gyfer y trefnydd. Dysgwch am reoli a rhannu recordiadau cyfarfodydd mawr.