English

Mae deunyddiau Ar Drywydd Dysgu yn cefnogi ymarferwyr i asesu dysgwyr sydd ag anawsterau dysgu dwys a lluosog (ADDLl). Maen nhw’n canolbwyntio ar ddatblygiad gwybyddol cynnar dysgwyr, eu sgiliau cyfathrebu a rhyngweithio cymdeithasol, a sut y maen nhw’n rhyngweithio â’u hamgylchedd.

Cyhoeddwyd deunyddiau Ar Drywydd Dysgu am y tro cyntaf yn 2006, a chawsan nhw groeso yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Fel rhan o’r gwaith i ddiwygio’r cwricwlwm a’r trefniadau asesu yn ehangach yng Nghymru, mae ystod o ymarferwyr ac arbenigwyr academaidd wedi bod yn cydweithio i ddiweddaru’r deunyddiau. Ein bwriad wrth wneud hyn oedd adlewyrchu’r gwaith ymchwil diweddaraf yn y maes, yn ogystal â’n cyd-destun addysgol newydd.

Mae Grwp Cynghori Ar Drywydd Dysgu wedi bod yn ganolog yn y broses o ddiwygio’r deunyddiau, ac rydym yn arbennig o ddiolchgar i’r aelodau am eu hymrwymiad i’r gwaith hwn o dan amgylchiadau heriol argyfwng COVID-19. Mae rhwydwaith o ysgolion ledled Cymru hefyd wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gasglu fideos er mwyn darparu enghreifftiau o ddisgrifyddion y Map llwybrau, gan helpu i ddod â’r deunyddiau hyn yn fyw i ymarferwyr. Rhestrir yr ysgolion hyn isod:

  • Canolfan Addysg Y Bont
  • Ysgol Crownbridge
  • Ysgol Crug Glas
  • Ysgol Heol Goffa
  • Ysgol Heulfan: Y Canol
  • Ysgol Maes Hyfryd
  • Ysgol Maes y Coed
  • Ysgol Pen Coch
  • Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth
  • Ysgol St Christopher
  • Ysgol Arbennig Gymunedol Tir Morfa
  • Ysgol Ty Coch
  • Ysgol Arbennig Ty Gwyn
  • Ysgol y Deri

Mae diweddaru deunyddiau Ar Drywydd Dysgu wedi bod yn broses raddol. Cyhoeddwyd deunyddiau drafft, gan gasglu adborth ym mis Ebrill 2019 ac Ionawr 2020. Mae’r adborth a ddaeth i law gan ymarferwyr addysg ac iechyd wedi bod yn amhrisiadwy wrth gwblhau’r deunyddiau yn derfynol.

Mae’r Map llwybrau yn darparu trosolwg o dri llinyn datblygiad – datblygiad gwybyddol, sgiliau cyfathrebu a rhyngweithio cymdeithasol, a sgiliau rhyngweithio â’i amgylchedd; gan nodi’r cerrig milltir pwysicaf yn y bocsys oren.

Mae rhif i bob un o focsys y Map llwybrau er hwylustod, ond er bod rhifau is i’r ymddygiadau sy’n datblygu’n gynharach, nid yw’n golygu bod yna drefn ddisgwyliedig i ddysgu’r ymddygiadau neu y dylid eu haddysgu mewn trefn benodol. Ni ddylid disgwyl i ddysgwyr eu cyflawni yn nhrefn y rhifau.

Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod pob dysgwr yn debygol o gyflawni’r cerrig milltir allweddol, er y gall y llwybr a chynnydd amrywio yn ôl eu hanghenion corfforol, synhwyraidd a dysgu.

Mae’r Map llwybrau ar gael i chi yma ynghyd â nodyn esboniadol sy’n amlinellu’r newidiadau a wnaed wrth ei ddiweddaru.

  • Y Map llwybrau pdf 1.09 Mb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
  • Nodyn esboniadol y Map llwybrau pdf 427 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath

Mae’r Map llwybrau rhyngweithiol yn tynnu ynghyd y Map llwybrau ei hun, cynnwys y llyfryn asesu a’r fideos enghreifftiol drwy glicio botwm.

Mae’r llyfryn asesu isod yn cynnig cymorth ymarferol ar ddefnyddio’r Map llwybrau drwy roi enghreifftiau o weithgareddau asesu, strategaethau addysgu a syniad o’r hyn i chwilio amdano wrth asesu. Mae’n cyflwyno 12 thema.

  • Llyfryn asesu pdf 1.20 Mb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath

Isod darperir fideos yn cynnig enghreifftiau o 38 o focsys a cherrig milltir y Map llwybrau. Maen nhw wedi’u trefnu yn ôl themâu sy’n cyd-fynd â’r llyfryn asesu.

Yn sgil effaith pandemig COVID-19 ar ysgolion, ni fu’n bosibl i ni weithio gydag ymarferwyr a dysgwyr dros y flwyddyn ddiwethaf er mwyn cwblhau’r gyfres o fideos. Bydd y gwaith hwn yn parhau, felly, hyd nes y bydd gennym gyfres lawn o fideos.

  • Carreg filltir 1 y Map llwybrau: sylwi ar stimwlws

    Bocs 3 y Map llwybrau: ymateb i stimwlws amlwg iawn

    Bocs 6 y Map llwybrau: ymateb i amrywiaeth o stimwli

    Carreg filltir 9 y Map llwybrau: ymateb yn gyson i un stimwlws

    Bocs 12 y Map llwybrau: ymateb yn wahanol i wahanol stimwli

  • Bocs 2 y Map llwybrau: ymateb i gysylltiad corfforol agos â pherson cyfarwydd

  • Bocs 14 y Map llwybrau: rhagweld stimwlws sy‘n cael ei gyflwyno drosodd a throsodd

  • Bocs 7 y Map llwybrau: gyda chymorth, cymryd tro gydag oedolyn mewn sefyllfa 1:1

    Bocs 11 y Map llwybrau: ymateb i rai stimwli mewn ffordd y gellir ei dehongli fel gwrthodiad

    Bocs 22 y Map llwybrau: ymateb mewn ffyrdd y gellir eu dehongli i olygu ‘mwy’

    Bocs 28 y Map llwybrau: cyfleu ‘mwy’/‘dim mwy’ drwy ddwy weithred gyson wahanol

  • Bocs 10 y Map llwybrau: am gyfnod byr, dilyn stimwlws sy’n symud

    Bocs 20 y Map llwybrau: edrych, am gyfnod byr, ar ôl i wrthrych ddiflannu o’i olwg

    Carreg filltir 34 y Map llwybrau: sefydlogrwydd gwrthrychau

  • Bocs 16 y Map llwybrau: gyda chymorth, archwilio’r amgylchedd sy’n union o’i amgylch

    Bocs 21 y Map llwybrau: mewn amgylchedd ymatebol, ailgyflawni gweithred sy’n creu adborth synhwyraidd

    Bocs 24 y Map llwybrau: mewn amgylchedd arferol ailgyflawni gweithred sy’n creu adborth synhwyraidd

  • Bocs 17 y Map llwybrau: rhagweld yng nghyd-destun arferion cymdeithasol cyfarwydd

    Bocs 30 y Map llwybrau: yng nghyd-destun gêm gymdeithasol gyfarwydd, dal ati i ailgyflawni gweithred er mwyn cael gwobr

    Bocs 33 y Map llwybrau: cychwyn gêm gymdeithasol

    Bocs 40 y Map llwybrau: talu sylw ar y cyd

  • Bocs 18 y Map llwybrau: ailgyfeirio sylw at ail wrthrych

    Bocs 25 y Map llwybrau: newid ymddygiad wrth ymateb i ddigwyddiad diddorol gerllaw

    Bocs 29 y Map llwybrau: 'edrych' yn ôl ac ymlaen o un gwrthrych i'r llall (gwybod bod dau wrthrych yn bresennol)

  • Bocs 19 y Map llwybrau: gweithredoedd damweiniol yn achosi effaith

    Carreg filltir 23 y Map llwybrau: ymateb i achos ac effaith

    Carreg filltir 26 y Map llwybrau: dangos dealltwriaeth bod gweithred ganddo yn achosi effaith benodol

  • Bocs 15 y Map llwybrau: gwrthwynebu dod â rhyngweithio i ben

    Bocs 32 y Map llwybrau: tynnu sylw

  • Bocs 31 y Map llwybrau: ailgyflawni gweithred pan yw'r ymgais gyntaf yn aflwyddiannus

    Bocs 35 y Map llwybrau: cyflawni dwy weithred wahanol yn eu trefn er mwyn cael gwobr

    Bocs 38 y Map llwybrau: addasu gweithred pan nad yw ailgyflawni'r weithred yn gweithio

    Bocs 42 y Map llwybrau: dangos arwyddion cynnar o ddatrys problemau – rhoi cynnig ar strategaeth newydd pan yw’r hen un yn methu

  • Bocs 36 y Map llwybrau: dewis o blith dwy neu fwy o eitemau

    Bocs 37 y Map llwybrau: cyfleu dewis i oedolyn sylwgar

    Bocs 41 y Map llwybrau: mynegi, mewn dulliau symbolaidd, bod yn well ganddo eitemau nad ydyn nhw’n bresennol

Mae’r canllawiau isod yn galluogi ymarferwyr i asesu dysgwyr sydd ag ADDLl a dod o hyd i’r ffordd orau o’u cefnogi wrth iddyn nhw ddysgu.

  • Ar Drywydd Dysgu: canllawiau pdf 515 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath

Nod y deunyddiau dysgu proffesiynol yw galluogi ymarferwyr i fynd ati i arsylwi ar ddysgwyr sydd ag ADDLl, a gwneud hynny ar y cyd gan ddefnyddio cyfres ddeunyddiau Ar Drywydd Dysgu fel fframwaith ar gyfer dehongli ymddygiad. Mae’r adnoddau hyn yn cynnig cyflwyniad ynghyd â thri modiwl rhagarweiniol ar gyfer y llinynnau datblygiad sydd i’w gweld ar y Map llwybrau.

Cynhaliwyd digwyddiad ymgysylltu rhithiol ym mis Rhagfyr 2020 i ymgysylltu ymarferwyr â'r deunyddiau hyn.

Bydd yr eirfa yn helpu ymarferwyr i ddefnyddio’r Map llwybrau a deunyddiau ehangach Ar Drywydd Dysgu. Isod, ceir rhai enghreifftiau o ddiffiniadau drafft i chi eu hystyried.

Rydym yn parhau i ddatblygu’r eirfa, a hoffem eich gwahodd i roi eich sylwadau ar y fersiwn ddrafft sydd gennym hyd yma. Byddem hefyd yn croesawu awgrymiadau ar dermau ychwanegol i’w cynnwys yn y fersiwn derfynol.

Anfonwch eich sylwadau i asesu@llyw.cymru

  • Geirfa pdf 373 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath

Mae’r ddogfen isod yn nodi ffynonellau amrywiol yr adborth a dderbyniwyd yn dilyn cyhoeddi’r deunyddiau drafft ym mis Ionawr 2020. Mae’n amlinellu prif themâu’r adborth, a’r gwaith a wnaed i fireinio’r canllawiau mewn ymateb iddo.

Fideos enghreifftiol

Rydym yn parhau i gasglu fideos sy’n cynnig enghreifftiau o ymddygiad cerrig milltir a bocsys y Map llwybrau. Os hoffai eich lleoliad/ysgol gyfrannu fideos, cysylltwch ag asesu@llyw.cymru

Deunyddiau dysgu proffesiynol

Yn ogystal â modiwlau rhagarweiniol y llinynnau datblygiad, rydym yn ystyried datblygu modiwlau themâu i ddilyn y themâu fel y’u dangosir yn y llyfryn asesu. Rydym wedi datblygu’r cyntaf o’r rhain, sef modiwl Thema 8: Newid ffocws, a gaiff ei dreialu gyda gweithgor, a bydd yr adborth arno yn hanfodol o ran symud ymlaen â’r gwaith. Os hoffech fod yn rhan o’r gwaith treialu hwn, cysylltwch â ni yn asesu@llyw.cymru

Gwaith ymchwil

Mae rhywfaint o waith ymchwil wedi’i wneud gan ddefnyddio fersiwn 2006 o ddeunyddiau Ar Drywydd Dysgu. Mae’r gwaith hwn wedi’i grynhoi yn yr erthygl ganlynol:

Mae gwaith ymchwil pellach yn mynd rhagddo ar hyn o bryd er mwyn datblygu ymhellach ein dealltwriaeth o natur y cynnydd a wneir gan ddysgwyr sydd ag ADDLl mewn perthynas â’r Map llwybrau. Darperir rhagor o wybodaeth ar y dudalen hon maes o law. Os hoffech gyfrannu at waith ymchwil ar Ar Drywydd Dysgu, cysylltwch ag asesu@llyw.cymru

Mae’r astudiaethau achos yn cynnwys profiadau dau ymarferydd o ddefnyddio deunyddiau a dulliau asesu Ar Drywydd Dysgu mewn Ysgolion Arbennig. Mae’r ddwy astudiaeth achos yn egluro sut y gall defnyddio Ar Drywydd Dysgu fod o fudd i ddysgwyr, rhieni, gofalwyr ac ymarferwyr.