English

Mae’r ddogfen wybodaeth hon yn cynnig cymorth i ysgolion a lleoliadau drwy roi atebion i gwestiynau allweddol ynglŷn â’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh) a’r Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol.

Dogfennau

Manylion

Wrth i ni symud ymlaen tuag at gwricwlwm newydd bydd cymhwysedd dysgwyr mewn llythrennedd a rhifedd yn parhau i fod yn flaenoriaeth, fel cyfrifoldeb trawsgwricwlaidd ar gyfer pob athro.

Bydd hefyd bwyslais ar y ffordd mae asesu ar gyfer dysgu mewn llythrennedd a rhifedd yn ganolog i gefnogi ein dysgwyr i gymhwyso eu sgiliau darllen a rhifedd yn annibynnol mewn amrywiaeth o gyd-destunau.

Mae sicrhau bod pob dysgwr yn cael y cymorth penodol sydd ei angen arno i ddatblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd ardderchog wedi bod yn ganolog i'n ffordd o fynd ati a bydd y ddogfen hon yn ddefnyddiol os ydych yn:

  • athro/athrawes neu’n athro cymorth/athrawes gymorth sy’n gweithio gyda dysgwyr ar sail dosbarth cyfan, grŵp bach neu unigol
  • arweinydd ysgol, yn aelod o dîm arwain neu'n athro/athrawes â chyfrifoldeb cwricwlaidd neu am gyfnod
  • llywodraethwr.