English

Mae’r ddogfen hon yn cydnabod y cyfleoedd ar gyfer darparu addysg ariannol ac yn darparu canllawiau ar strategaethau dysgu ac addysgu.

Dogfennau

Manylion

Rydym wedi llwyr ymrwymo i fynd i’r afael ag allgáu ariannol. Rydym wedi sicrhau bod addysg ariannol yn cael ei wreiddio yn y cwricwlwm diwygiedig ar gyfer ysgolion, a gyflwynwyd mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru ers mis Medi 2008.

Drwy ddarparu cymorth i wella sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth o faterion ariannol, bydd modd i’r bobl ifanc reoli eu harian yn well a gwneud penderfyniadau deallus.