English

Nod y deunyddiau enghreifftiol hyn yw helpu ysgolion ac athrawon wrth wneud asesiadau ar ddiwedd Cyfnodau Allweddol 2 a 3.

Dogfennau

Manylion

Bydd angen i athrawon benderfynu pa ddisgrifiad lefel sy'n cyd-fynd orau â chyrhaeddiad dysgwr er mwyn gwneud barn cytbwys sy’n:

  • seiliedig ar wybodaeth am y modd y mae dysgwr yn perfformio ar draws ystod o gyd-destunau
  • ystyried gwahanol gryfderau a meysydd mae angen eu datblygu yng ngwaith dysgwr
  • cael ei wirio yn erbyn disgrifiadau lefel cyfagos i sicrhau mai dyma’r barn sy’n cyd-fynd orau â’r dysgwr.

Mae’r deunyddiau’n enghreifftiau o waith dilys a gasglwyd gan gydweithwyr gwella ysgolion y consortia rhanbarthol gan ysgolion ar draws Cymru.

Mae sylwadau ysgrifenedig wedi'u darparu, sy'n cyfiawnhau ac yn esbonio’r lefel a ddyfarnwyd.

Bydd deunyddiau enghreifftiol mewn Cymraeg Iaith Gyntaf, Cymraeg Ail Iaith, Saesneg a Mathemateg yn dilyn.