English

O fis Medi 2015, roedd meysydd dysgu diwygiedig y Cyfnod Sylfaen a rhaglenni astudio diwygiedig Cyfnodau Allweddol 2 i 4 yn statudol ar gyfer pob dysgwr mewn ysgolion a gynhelir a lleoliadau a ariennir nas cynhelir.

Dogfennau

Manylion

Mae gofynion newydd y cwricwlwm yn codi lefel disgwyliadau o ran beth y dylai dysgwyr ei wybod a gallu ei wneud ar draws pob grwp oedran, gan eu paratoi’n well ar gyfer byd gwaith, a’r hyn y dylent ei wybod ar gyfer y TGAU diwygiedig, a fydd hefyd yn cael eu haddysgu ym mis Medi.

Y Cyfnod Sylfaen

Y meysydd dysgu diwygiedig ar gyfer y Cyfnod Sylfaen yw:

  • Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu
  • Datblygiad Mathemategol.

At ddibenion asesu, mae deilliannau’r Cyfnod Sylfaen wedi’u hailwampio yn unol â disgwyliadau uwch y meysydd dysgu diwygiedig. Fodd bynnag, ni fydd disgwyl i blant gael eu hasesu’n ffurfiol yn erbyn y deilliannau hyn ar ddiwedd y cyfnod tan haf 2018. Tan hynny, dilynir y trefniadau presennol.

I ategu hyn, caiff Proffil y Cyfnod Sylfaen ei gyflwyno’n statudol o fis Medi 2015, sef adnodd asesu drwy arsylwi sy’n helpu gydag asesiadau cyfunol drwy gydol y Cyfnod Sylfaen.

Caiff y Proffil ei ddefnyddio i gynnal asesiad sylfaenol statudol yn ystod chwe wythnos gyntaf blwyddyn dderbyn y plentyn, neu Flwyddyn 1 os na fydd y plentyn yn mynd i ddosbarth derbyn.

Mae mwy o wybodaeth am y Cyfnod Sylfaen.

Cyfnodau Allweddol 2 i 4

Dyma’r rhaglenni astudio diwygiedig ar gyfer Cyfnodau Allweddol 2 i 4:

  • Cymraeg (iaith gyntaf)
  • Saesneg
  • Mathemateg.

Ar gyfer Cyfnodau Allweddol 2 a 3, er mwyn osgoi tarfu ar addysg y plant, cadwyd y system bresennol o ddefnyddio asesiadau athrawon ar ddiwedd cyfnod allweddol, yn seiliedig ar y lefelau presennol. Fodd bynnag, caiff canllawiau eu rhoi i ysgolion yn nodi y dylent sicrhau bod eu disgwyliadau ar gyfer dysgwyr yn fwy cydnaws â’r disgwyliadau uwch o fewn y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd a’r rhaglenni astudio diwygiedig.

Caiff y disgwyliad uwch hwn ei fesur wrth gategoreiddio ysgolion a llunio’r dangosyddion cyfatebol am y tro cyntaf yn yr haf 2018. Tan hynny, dilynir y trefniadau presennol.

Mae mwy o wybodaeth am y rhaglenni astudio a’r trefniadau asesu diwygiedig.

  • Rhan o
  • Cyhoeddwyd gyntaf:
  • Diweddarwyd ddiwethaf: