English

Apau i’r iPad yn cyfoethogi profiad dysgu Blynyddoedd 5 a 6.

Yn dilyn rhoi iPads i ddysgwyr ym Mlynyddoedd 5 a 6 yn 2011, mae athrawon yn Ysgol Gynradd Tan Y Marian ym Mae Colwyn wedi lawrlwytho sawl App er mwyn darparu deunydd newydd ar gyfer gwersi mewn ystod eang o bynciau a helpu'r plant i gyflwyno eu gwaith.

Defnyddir gwefannau penodedig yn aml hefyd sy'n fodd i athrawon rannu gwybodaeth am ba Apps sydd wedi gweithio orau iddyn nhw.