English

Defnyddio TGCh i gynnwys rhieni plant y blynyddoedd cynnar yn y broses ddysgu.

Yn dilyn ei huno â Meithrinfa Margaret Street, gweithiodd Ysgol Gynradd St Thomas yn Abertawe gyda phrosiect SPLICT Prifysgol Abertawe i ddefnyddio meddalwedd arbennig a oedd yn galluogi rhieni/gofalwyr plant yn y blynyddoedd cynnar i ymwneud ag addysg eu plant yn yr un ffordd ag y gwnaeth yr ysgol gyda rhieni/gofalwyr plant hŷn.

Rhoddodd yr ysgol hyfforddiant i rieni/gofalwyr ar sut i ddefnyddio'r feddalwedd a gwefan gysylltiedig er mwyn creu gweithgareddau ysgogol ac addysgol i'r plant.