Ystyriaethau hidlo cynnwys y we ar gyfer dyfeisiau Apple iOS
Canllawiau arfer gorau i sicrhau bod hidlo cynnwys y we a diogelu ar-lein yn cael eu cymhwyso i ddyfeisiau Apple iOS.
- Rhan o
Trosolwg
Mae'r canllaw hwn yn amlinellu'r prif ystyriaethau ar gyfer dyfeisiau Apple iOS oherwydd y nodweddion preifatrwydd uwch yng nghynnyrch a gwasanaethau Apple a beth sy’n rhaid ei ystyried wrth feddwl am gyfrifoldebau a mesurau diogelu statudol ysgolion.
Dylid defnyddio'r canllawiau hyn ar y cyd â'r Safon Hidlo Cynnwys y We a'r canllawiau defnyddio perthnasol ar gyfer eich cynnyrch / gwasanaeth hidlo.
Mae'n cynnwys mesurau ac ystyriaethau ychwanegol y dylai arweinwyr ysgolion eu hystyried wrth ddefnyddio dyfeisiau Apple iOS. I gael cymorth pellach a help gyda’r ffordd orau o weithredu'r canllawiau hyn, cysylltwch â'ch partner cymorth technoleg addysgol.
Ystyriaethau ychwanegol wrth ddefnyddio dyfeisiau Apple iOS
Ni all dyfeisiau iOS heb eu rheoli gynnig rheolaethau diogelu digonol. Mae'n hanfodol bod pob dyfais Apple iOS yn cael ei chofrestru a'i rheoli drwy ddatrysiad rheoli dyfeisiau symudol (MDM), yn ddelfrydol gyda’r ddyfais yn cael ei chofrestru’n awtomatig ar gyfer ffurfweddiad a chysondeb awtomatig. Argymhellir yn gryf bod dull o ddilysu wedi ei osod ar bob dyfais iOS yn ddiofyn.
Dylai ysgolion sicrhau bod Apple School Manager ac Apple Classroom yn cael eu defnyddio ar gyfer rheoli dyfeisiau yn ganolog, a chyfrifon defnyddwyr, ac i gynorthwyo gyda rheoli a monitro cynnydd a gwaith ysgol y dysgwr pan fydd yn yr ystafell ddosbarth.
Bydd datrysiad MDM yn galluogi ysgolion i bersonoli mynediad dysgwyr, ymarferwyr a staff i’r we tra eu bod yn parhau i fod â rheolaeth dros y cyfrifon ac am ddosbarthu apiau drwy Managed Apple Accounts.
Yn Apple School Manager, mae cyfrifon Apple yn eiddo i'r ysgol ac yn cael eu rheoli ganddi. Maent wedi'u cynllunio i’ch cynorthwyo gydag ystyriaethau am ddiogelu, gan gynnwys rhoi’r gallu i reoli'r hyn y gall dysgwyr, ymarferwyr a staff gael mynediad iddo ac unrhyw reolaethau neu gyfyngiadau rydych chi am eu ffurfweddu.
Er mwyn i ysgolion allu gweld gweithgarwch dysgwyr ar y we yn ddigonol, dylid defnyddio ap diogelu, fel porwr gwahanol, yn lle porwyr eraill (fel Safari, Chrome ac ati). Dylai'r ap diogelu hwn orfodi polisïau ar gyfer cael mynediad i'r we ac atal mynediad at gynnwys anawdurdodedig, trwy ddadansoddi URLs, termau chwilio a chynnwys ar y we. Dylai ysgolion hefyd ystyried datrysiadau monitro gyda gallu adrodd llawn er mwyn canfod a mynd i'r afael â phryderon posibl o ran diogelu, diogelwch neu bolisi.
Argymhellir bod ysgolion yn cymryd amser i ystyried ac asesu'r opsiynau ffurfweddu sydd ar gael yn Apple Managed App Configuration i orfodi gosodiadau a pholisïau o fewn yr apiau a reolir, ac apiau sydd wedi'u gosod gan ddefnyddio MDM. Gall ysgolion rannu apiau am ddim, rhai y telir amdanynt, neu sydd wedi eu creu’n benodol, yn ddi-wifr gan ddefnyddio datrysiad MDM, a rheoli llif y data, gan daro cydbwysedd rhwng ystyriaethau diogelwch a diogelu'r ysgol a galluogi defnyddwyr i bersonoli’r cynnwys.
Mewn achosion lle mae dyfeisiau yn cael eu defnyddio gan nifer o ddefnyddwyr ac nad oes modd eu dilysu, nid yw rhybuddion neu adroddiadau diogelwch yn gallu adnabod y defnyddiwr ac felly maent yn llawer llai effeithiol. Yn yr achos yma, dylai ysgolion ystyried rheolaethau diogelu ychwanegol, er enghraifft mwy o oruchwylio gan staff.
Oherwydd nodweddion preifatrwydd a diogelwch system weithredu iOS, nid yw'n bosibl i ap diogelu weld a rheoli gweithgarwch mewn apiau eraill yn ddigonol. Dylid cymryd gofal wrth asesu'r apiau a ganiateir ar ddyfeisiau’r ysgol.
Wrth gymeradwyo apiau, dylid ystyried y canlynol:
- A yw'r ap yn agor dolenni mewn porwr gwe? Os felly, a fydd yn defnyddio'r porwr diofyn, ac felly yn cael ei hidlo?
- A oes porwr gwe wedi'i fewnosod yn yr ap? Os felly, mae'n bosibl y bydd yn caniatáu mynediad heb ei hidlo i'r we a dylid ystyried sut i gyfyngu’r mynediad i'r we gan ddefnyddio rheolyddion hidlo sydd wedi'u hymgorffori.
- Ydy'r ap yn caniatáu mynediad i gynnwys arall y gallai fod angen ei reoli - er enghraifft fideos neu sgwrsio? Yn yr achos hwn, efallai y bydd gan yr ap ei reolaethau ychwanegol ei hun, neu efallai na fydd yn addas ar gyfer amgylchedd ysgol.
Mae modd cyrchu llawer o apiau trwy borwr gwe yn lle (gallwch ddefnyddio Web clip i ganiatáu mynediad cyflym i ddefnyddwyr), sy'n golygu y gall porwr wedi'i fonitro weld a rheoli gweithgarwch y defnyddiwr yn ddigonol i wella mesurau diogelu.