English
Rhybudd

Rhaid i staff ysgolion, llywodraethwyr a rhanddeiliaid addysg eraill ddefnyddio'r opsiwn dilysu aml-ffactor os ydynt am fewngofnodi i Hwb y tu allan i rwydwaith dibynadwy eu hysgol neu eu sefydliad, h.y. oddi ar y safle.  Fodd bynnag, rhaid sefydlu dilysu aml-ffactor ymlaen llaw tra bod y defnyddiwr wedi mewngofnodi i Hwb ar rwydwaith dibynadwy ei ysgol neu sefydliad.  

Nid yw'n ofynnol i ddysgwyr ddefnyddio'r cyfleuster hwn.

Mae dilysu aml-ffactor yn osodiad diogelwch awtomatig ar bob cyfrif Hwb nad yw'n perthyn i ddysgwr.  Os yw deiliad cyfrif nad yw'n ddysgwr yn mewngofnodi i Hwb y tu allan i rwydwaith dibynadwy ei ysgol neu ei sefydliad, felly, h.y. oddi ar y safle, rhaid iddo nodi ei enw defnyddiwr, ei gyfrinair a chod a gynhyrchir gan ap Microsoft Authenticator.

Bydd dilysu aml-ffactor yn helpu i amddiffyn cyfrifon defnyddwyr rhag ymosodiadau gwe-rwydo.

Rhaid i ddeiliaid cyfrifon nad ydynt yn ddysgwyr lawrlwytho ap Microsoft Authenticator i ddyfais symudol sydd â mynediad at y rhyngrwyd, e.e. ffôn clyfar, a chysylltu'r ap â’u cyfrif Hwb. Ar ôl ei osod, bydd angen defnyddio ap Microsoft Authenticator i gadarnhau'r mewngofnodi, naill ai drwy fewnbynnu'r rhif 6 digid a gynhyrchir gan yr ap dilysu (dull 1) neu drwy nodi'r rhif a ddangosir ar y sgrin fewngofnodi (dull 2).

Gwybodaeth

Bydd defnyddwyr sy'n gosod yr opsiwn dilysu aml-ffactor ar ôl 27 Tachwedd 2023 yn defnyddio dull 2 yn awtomatig, h.y. nodi'r rhifau a ddangosir ar y sgrin fewngofnodi, a bydd defnyddwyr sydd wedi gosod yr opsiwn cyn y dyddiad hwn yn parhau i ddefnyddio dull 1, h.y. cod 6 digid.  Fodd bynnag, gall defnyddwyr sy'n dymuno newid i'r dull cyflymach a haws o nodi'r rhifau ar y sgrin fewngofnodi osod y cyfleuster hwn eu hunain drwy ddilyn y ‘Newid dilysu aml-ffactor i'r dull nodi rhifau (dull 2)’ cyfarwyddiadau isod.

Sut i roi’r broses ddilysu aml-ffactor ar waith

Mae dau gam i roi’r broses ddilysu aml-ffactor ar waith:

  1. Lawrlwytho ap Microsoft Authenticator i ddyfais symudol sydd â mynediad at y rhyngrwyd e.e. ffôn clyfar neu lechen.

  2. Cysylltu ap Microsoft Authenticator â’ch cyfrif Hwb.
  • Dilynwch y cyfarwyddiadau hyn i lawrlwytho ap Microsoft Authenticator i ddyfais symudol sydd â mynediad at y rhyngrwyd e.e. ffôn clyfar neu lechen y gallwch eu defnyddio oddi ar y safle. 

  • Cyn y gallwch gysylltu'r ap â'ch cyfrif Hwb, mae'n rhaid eich bod wedi lawrlwytho ap Microsoft Authenticator i ffôn clyfar neu ddyfais arall sydd â mynediad at y rhyngrwyd fel y nodir yng ngham 1 uchod.

    Rhaid cwblhau'r camau canlynol mewn un sesiwn h.y. ni allwch gau na hepgor sgriniau.

    I osod yr opsiwn dilysu aml-ffactor, bydd angen ichi:

    • fewngofnodi i Hwb tra byddwch ar rwydwaith eich ysgol neu rwydwaith dibynadwy arall

    • sicrhau bod gennych y ddyfais symudol sydd â mynediad at y rhyngrwyd yr ydych wedi lawrlwytho ap Microsoft Authenticator iddi, e.e. ffôn clyfar neu lechen.

    Nodyn: wrth osod yr opsiwn dilysu aml-ffactor, fe'ch cynghorir i fewngofnodi i Hwb ar ddyfais wahanol i'r un y mae ap Microsoft Authenticator wedi'i lawrlwytho iddi, e.e. mewngofnodwch i Hwb ar liniadur neu gyfrifiadur bwrdd gwaith, gan sicrhau bod gennych ap Microsoft Authenticator ar ffôn clyfar.

    1. Ar liniadur neu gyfrifiadur bwrdd gwaith sydd wedi'i gysylltu â rhwydwaith eich ysgol neu rwydwaith dibynadwy arall, ewch i https://mysignins.microsoft.com/security-info a mewngofnodi gyda'ch enw defnyddiwr a'ch cyfrinair Hwb.
    1. Ar dudalen 'Gwybodaeth ddiogelwch', cliciwch ar '+ Ychwanegwch ddull mewngofnodi'.
    1. O'r ddewislen, dewiswch 'Ap dilyswr'.
    1. Cliciwch ar 'Ychwanegu' a dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin nes ichi gael y neges 'Wedi llwyddo i gofrestru'r ap Microsoft authenticator'.
  • Bob tro y bydd unigolion nad ydynt yn ddysgwyr yn mewngofnodi i Hwb y tu allan i rwydwaith dibynadwy eu hysgol neu eu sefydliad, ac yn nodi eu henw defnyddiwr a'u cyfrinair, rhaid iddynt brofi pwy ydynt drwy ddarparu cod unigryw a ddarperir gan ap Microsoft Authenticator yn eu meddiant:

    1. Ewch i https://hwb.llyw.cymru a chlicio ar 'Mewngofnodi'.

    2. Yn sgrin 'Mewngofnodi', rhowch eich enw defnyddiwr a chlicio ar 'Nesaf'.

    3. Yn sgrin 'Rhowch gyfrinair', rhowch eich cyfrinair a chlicio ar 'Mewngofnodi'.

    4. Dull 1: nodi cod 6 digid
      1. Agorwch ap Microsoft Authenticator. Copïwch neu gwnewch nodyn o'r cod 6 digid cyfredol (mae’r cod yn newid bob 30 eiliad).

      2. Ewch yn ôl i sgrin 'Rhowch y cod’ a gludo neu deipio’r cod 6 digid cyfredol a ddangosir yn yr ap.

      3. Cliciwch ar 'Gwirio' i fynd i dudalen hafan Hwb.
    1. Dull 2: nodi rhifau
      1. Os yw hysbysiadau gwthio wedi'u galluogi ar eich ap Microsoft Authenticator, gofynnir ichi'n awtomatig i nodi'r rhif 2 ddigid a ddangosir ar dudalen fewngofnodi Hwb.

      2. Rhowch y rhif 2 ddigid a welwch ar dudalen fewngofnodi Hwb yn yr ap dilysu.

      3. Bydd tudalen fewngofnodi Hwb yn cwblhau'r broses fewngofnodi yn awtomatig.
  • Os ydych yn defnyddio'r cod 6 digid (dull 1) ar gyfer dilysu aml-ffactor ar hyn o bryd, efallai y byddai'n haws ichi newid eich dull i nodi rhifau (dull 2) drwy hysbysiadau gwthio. Mae'r broses hon yn gofyn yn awtomatig ichi nodi'r rhifau a welwch ar y sgrin drwy'r ap dilysu ar eich dyfais symudol.  Ar ôl ei osod, mae'r dull hwn yn aml yn ei gwneud yn llawer cyflymach a haws mewngofnodi i Hwb.

    I newid o ddefnyddio'r broses ddilysu drwy'r cod 6 digid (dull 1) i ddefnyddio'r broses o nodi rhifau (dull 2), dilynwch y cyfarwyddiadau hyn:

    1. Ar liniadur neu gyfrifiadur bwrdd gwaith, ewch i https://mysignins.microsoft.com/security-info a mewngofnodi gyda'ch enw defnyddiwr a'ch cyfrinair.
    1. Ar dudalen 'Gwybodaeth ddiogelwch', cliciwch ar '+ Ychwanegwch ddull mewngofnodi'.
    1. O'r ddewislen, dewiswch 'Ap dilyswr'.
    1. Cliciwch ar 'Ychwanegu' a dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin nes ichi gael y neges 'Wedi llwyddo i gofrestru'r ap Microsoft authenticator'.

    Y tro nesaf y byddwch yn mewngofnodi i Hwb y tu allan i rwydwaith eich ysgol neu rwydwaith dibynadwy, gofynnir ichi nodi rhifau drwy'r dull hwn fel eich ail ffactor. 

  • Os yw deiliaid cyfrifon nad ydynt yn ddysgwyr yn colli dyfais symudol sydd â mynediad at y rhyngrwyd neu'n cael un newydd, e.e. ffôn clyfar, bydd rhaid ailosod yr opsiwn dilysu aml-ffactor.  Cysylltwch â gweinyddwr Hwb yn eich ysgol neu'ch sefydliad a fydd yn gallu dilyn y canllawiau isod. 

    Canllawiau i weinyddwyr Hwb

    Gall gweinyddwyr Hwb mewn ysgol neu sefydliad ailosod yr opsiwn dilysu aml-ffactor ar gyfrifon unigolion nad ydynt yn ddysgwyr drwy Borth Rheoli Defnyddwyr Hwb):

    1. Ewch i https://hwb.llyw.cymru a mewngofnodi i Hwb.

    2. Cliciwch ar 'Rheoli defnyddwyr'.

    3. Ar eich 'Dangosfwrdd gweinyddwyr', cliciwch ar Gweld defnyddwyr > Gweld staff (neu Gweld pencampwyr digidol neu Gweld llywodraethwyr neu Gweld cyfrifon non-MIS).

    4. Defnyddiwch 'Term chwilio' i ddod o hyd i’r defnyddiwr perthnasol, e.e. teipiwch gyfenw'r defnyddiwr a chlicio ar y botwm 'Chwilio'.

    5. Cliciwch ar y botwm 'Gweld y manylion' ar yr ochr dde.

    6. Cliciwch ar Rheoli defnyddwyr > Ailosod MFA.

    7. Darllenwch y neges ar y sgrin: “Ydych chi'n siŵr eich bod am ailosod MFA ar gyfer [enwdefnyddiwr]@hwbcymru.net?” Cliciwch ar y botwm 'Parhau' i fynd ymlaen.

    8. Cynghorwch y defnyddiwr i ddilyn y cyfarwyddiadau i lawrlwytho ap Microsoft Authenticator a'i gysylltu â'i gyfrif Hwb.

    Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth arnoch, dilynwch eich trefniadau cymorth TG lleol yn yr ysgol neu cysylltwch â'ch awdurdod lleol yn y lle cyntaf. Mae cyngor ac arweiniad hefyd ar gael o Ddesg Wasanaeth Hwb: e-bostiwch cymorth@hwbcymru.net neu ffoniwch 03000 25 25 25.

Rhybudd

Ni ddylech gael cynnig i ddefnyddio'r opsiwn dilysu aml-ffactor wrth fewngofnodi i Hwb tra byddwch wedi cysylltu â rhwydwaith dibynadwy eich ysgol neu'ch sefydliad.  Os gofynnir ichi ddefnyddio'r opsiwn dilysu aml-ffactor tra byddwch wedi cysylltu â rhwydwaith dibynadwy eich ysgol neu rwydwaith dibynadwy arall, cysylltwch â Desg Wasanaeth Hwb: e-bostiwch cymorth@hwbcymru.net neu ffoniwch 03000 25 25 25 a rhowch gyfeiriad IP allanol eich ysgol neu'ch sefydliad iddynt. Os nad ydych yn siŵr o gyfeiriad IP allanol eich ysgol neu eich sefydliad, cysylltwch â'ch darparwr cymorth TG a fydd yn gallu rhoi'r wybodaeth hon ichi. 

Rhagor o adnoddau