English

Cynulleidfa a awgrymir: dysgwyr, staff ysgol, myfyrwyr GAG, pencampwyr digidol mewn ysgolion, gweinyddwyr Hwb mewn awdurdodau lleol, gweinyddwyr Hwb ar gyfer consortia addysg rhanbarthol.

Datblygwyd ystod o offer ar gyfer dysgu ac addysgu gan randdeiliaid Hwb, ar gyfer Hwb. Mae’r rhain yn cynnwys offer ar gyfer y canlynol:

  • creu a rhannu adnoddau
  • trefniadau cydweithio ar gyfer gweithwyr addysg proffesiynol a dysgwyr
  • creu aseiniadau

Yn ogystal, gallwch ddefnyddio amrywiaeth o wasanaethau trydydd parti gyda'ch cyfrif Hwb, gan gynnwys:

Mynediad at Offer Hwb

Wedi mewngofnodi, gellir cael mynediad at Offer Hwb yn uniongyrchol o Hwb.

Gwybodaeth

Bydd yn rhaid i athrawon ymuno â Chymuned Hwb cyn cael mynediad at holl Offer Hwb.


Mae ymuno â Chymuned Hwb yn eich galluogi i gael gafael ar adnoddau sydd wedi cael eu creu gan athrawon eraill yng Nghymru ac yn rhoi cyfle i chi rannu’r hyn rydych chi wedi’i greu. Drwy ymuno â Chymuned Hwb rydych chi’n cael gweld yr amrywiaeth o adnoddau ac offer newydd sydd wedi cael eu creu gan ymarferwyr dysgu, ac ar eu cyfer. Bydd cyfle hefyd i gymryd rhan mewn Rhwydweithiau Hwb pan fyddwch yn ymuno â Chymuned Hwb.

Gwybodaeth

Ni chaniateir mynediad i ddysgwyr i Gymuned Hwb.

Pan fydd y rhai nad ydynt yn ddysgwyr yn mewngofnodi i Hwb am y tro cyntaf, byddan nhw’n gweld blwch glas yn eu gwahodd i ymuno â Chymuned Hwb. Cliciwch drwyddo, a chytuno i’r telerau ac amodau ychwanegol i ymuno â Chymuned Hwb.

Os ydych chi wedi cau’r ffenestr naid las yn barod, gallwch ymuno â Chymuned Hwb drwy ddilyn y camau canlynol:

  1. Mewngofnodwch i Hwb.
  2. Cliciwch ar eich enw (yng nghornel dde uchaf y dudalen) a dewiswch Gweld Proffil.
  3. Cliciwch ar y ‘cog’ gosodiadau (ar ochr dde’r dudalen).
  4. Cliciwch ar y tab Arall.
  5. Cliciwch ar Ymuno â Chymuned Hwb.

Proffil defnyddiwr

Pan fyddwch chi’n ymuno â Chymuned Hwb am y tro cyntaf, gofynnir i chi gwblhau eich proffil defnyddiwr.

Gallwch weld a golygu eich proffil defnyddiwr ar unrhyw adeg drwy glicio ar eich enw yng nghornel dde uchaf y sgrin. Does dim rhaid i chi lenwi’r wybodaeth hon os nad ydych chi’n dymuno.


Mae Hwb yn dal ystorfa genedlaethol o fwy na 100,000 o adnoddau addysgol dwyieithog gyda’r ansawdd wedi’i sicrhau. Maen nhw’n cynnwys adnoddau sy’n benodol i bwnc ar draws yr holl gyfnodau allweddol a chyfres lawn o adnoddau diogelwch ar-lein. Drwy fewngofnodi i Hwb gallwch hefyd chwilio Britannica Digital Learning, ImageQuest (bron i 3 miliwn o ddelweddau, gyda hawliau ar gyfer defnydd addysgol) a Chymuned Hwb, lle gallwch ddod o hyd i adnoddau sydd wedi cael eu creu gan weithwyr addysg proffesiynol yng Nghymru sy’n defnyddio Hwb.

Darllewnch ein canllaw llawn i gyhoeddi adnodd ar Gymuned Hwb.


Britannica Digital Learning yw gwyddoniadur ar-lein diogel gydag adnoddau addas i oedran ar gyfer dysgwyr.

Mae modd chwilio Britannica Digital Learning yn adnoddau Hwb.

  1. Mewngofnodwch i Hwb.
  2. Cliciwch ar y deilsen Britannica Digital Learning.
  3. Teipiwch bwnc yn y bar Chwilio’r goeden wybodaeth a chliciwch ar yr eicon chwyddwydr i chwilio.
  4. Ar frig y rhestr canlyniadau mae dewis i Hidlo adnoddau. Gallwch hidlo yn ôl Sylfaen, Canolradd ac Uwch, gan ddibynnu ar y lefel ddarllen sydd ei hangen.
  5. Cliciwch ar y canlyniad chwilio perthnasol, a fydd yn agor yr erthygl mewn tab newydd yn eich porwr.

Dod o hyd i hafan Britannica Digital Learning

Pan fyddwch wedi mynd i adnodd yn Encyclopaedia Britannica o Hwb, gallwch ddod o hyd i’r hafan drwy glicio ar y testun Britannica School sy’n ymddangos yn y rhuban glas ar frig y dudalen. Oddi yma, gallwch fynd i’r hafan ar gyfer pob lefel gallu drwy glicio ar Foundation, Intermediate neu Advanced.


Mae Rhestrau Chwarae Hwb yn cynnig ffordd i holl ddefnyddwyr dilys Hwb goladu cynnwys o amrywiaeth o ffynonellau ar y we, ynghyd â'u deunyddiau eu hunain a chwestiynau cwis, mewn un adnodd y gellir ei rannu gyda defnyddwyr eraill. Mae modd hefyd troi'r rhain yn aseiniad, a fydd yn casglu sgoriau’r cwis gan unrhyw ddefnyddiwr sy'n cwblhau'r aseiniad, ac yn eu dangos i’r athro mewn llyfr marcio.

Darllenwch ein canllaw llawn ar greu Rhestrau Chwarae ac Aseiniadau.


Gosod cwis fel Aseiniad

I osod cwis fel Aseiniad, agorwch y rhestr chwarae, cliciwch Rhannu > Aseiniadau. Wedyn bydd angen i chi ychwanegu’r gosodiadau ar gyfer eich aseiniadau:

  • Cynllun marcio: gallwch ddefnyddio un o’r dewisiadau sydd ar gael neu ychwanegu un eich hun.
  • URL yr aseiniad: bydd hwn wedi’i lenwi’n barod i chi, ond gallwch ei olygu os oes angen.
  • Amserlen (dewisol): gallwch chi bennu pryd bydd modd cychwyn ar yr aseiniad a phryd na fydd ar gael.
  • Terfyn amser (dewisol): mae hwn yn eich galluogi i gyfyngu faint o amser sydd gan y dysgwr i gwblhau’r aseiniad.
  • Aseinio i Grwpiau (dewisol): bydd hwn yn rhannu’r aseiniad i Ddosbarth Hwb.

Cliciwch ar Cadw (os nad ydych chi’n barod i’w rannu eto) neu Cadw a rhannu Aseiniad. Pan fyddwch chi’n cadw a rhannu eich aseiniad, byddwch yn cael dolen i’w rhannu gyda’ch dosbarth a chod QR i’w ddangos.

Mae’n rhaid i ddysgwyr fewngofnodi i Hwb pan fyddan nhw’n agor y ddolen. Bydd eu sgoriau’n cael eu casglu’n awtomatig yn y llyfr marcio ar gyfer yr aseiniad hwnnw.

Gallwch weld y llyfrau marcio ar gyfer pob aseiniad rydych wedi'i osod yn flaenorol o’ch proffil defnyddiwr. I weld eich proffil defnyddiwr, cliciwch ar eich enw yng nghornel dde uchaf y dudalen, ac yna dewiswch Gweld Proffil.

Darllenwch ein canllaw llawn ar greu Rhestrau Chwarae ac Aseiniadau.


Mae’n rhwydd sefydlu Rhwydweithiau Hwb, sef mannau cydweithio diogel ar-lein ar gyfer defnyddwyr Cymuned Hwb. Mae pob Rhwydwaith Hwb yn cynnwys fforwm trafod, man storio ffeiliau, datganiadau a lle i rannu rhestrau chwarae ac aseiniadau.

Gall aelodau danysgrifio i gael hysbysiadau e-bost er mwyn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau ym mhob rhwydwaith. Pan fyddwch chi’n creu neu’n ymuno â rhwydwaith, byddwch yn cael eich tanysgrifio’n awtomatig i e-bost wythnosol sy’n crynhoi'r gweithgareddau, ond gallwch addasu pa mor aml rydych chi’n cael yr hysbysiadau hyn.

Nid yw Rhwydweithiau Hwb ar gael i ddysgwyr. Gweler Dosbarthiadau Hwb am yr hyn sy’n cyfateb i hynny ar gyfer dysgwyr.


Gall athrawon greu dosbarthiadau i ddysgwyr ymuno a rhyngweithio â’i gilydd mewn man diogel. Gall athrawon rannu ffeiliau a rhestrau chwarae, cychwyn trafodaethau a chreu cyhoeddiadau yn eu dosbarthiadau.

I greu Dosbarth Hwb newydd, gwnewch y canlynol.

  1. Mewngofnodwch i Hwb.
  2. Cliciwch ar y deilsen Dosbarthiadau Hwb.
  3. Cliciwch ar + Dosbarth Newydd (ar ochr dde’r dudalen).
  4. Rhowch enw ar eich dosbarth a chliciwch ar Creu Dosbarth.

Gwahodd dysgwyr i ymuno â’ch dosbarth

Yn eich dosbarth mae dolen o dan Rhannu’r Dosbarth hwn (ar ochr chwith y dudalen) y gallwch ei chopïo a'i rhannu gyda’ch dysgwyr. Gallwch reoli ceisiadau eich dysgwyr o dan y tab Ceisiadau yn eich dosbarth.

Pan fydd dysgwyr wedi ymuno â’ch dosbarth bydd modd iddyn nhw ychwanegu ffeiliau a chyfrannu at drafodaethau. Fodd bynnag, ni fydd modd iddyn nhw ddileu unrhyw gynnwys.


Fy Hwb yw eich dangosfwrdd personol sy’n eich galluogi i fynd i ble bynnag y mynnwch ar Hwb o un lle. I fynd i Fy Hwb:

  1. Mewngofnodwch i Hwb.
  2. Cliciwch ar y deilsen Dangosfwrdd Fy Hwb.

Mae Fy Hwb yn cyflwyno popeth y mae angen i chi ei wneud ar ffurf hysbysiadau, gan gynnwys ceisiadau Rhwydwaith a Dosbarth, ac Aseiniadau.

Gallwch ddewis dangos yr adnoddau diweddaraf ar sail y diddordebau rydych chi wedi’u dewis, ac mae botymau llwybr byr at offer defnyddiol.

Dangosfwrdd symlach yw My Hwb Lite, sy’n dangos Dosbarthiadau a dolenni i ddetholiad o offer Hwb yn unig, sy’n ddelfrydol i’r rhai sy’n dymuno cael llai o wybodaeth ar y sgrin, fel dysgwyr iau.


Gallwch weld gwybodaeth am asesiadau personol yn y Cwricwlwm Drafft i Gymru 2022.

Help, cymorth ac arweiniad

Mae cymorth ynghylch yr asesiadau personol, gan gynnwys trefnu a gwneud yr asesiadau a dod o hyd i adborth, ar gael ar y wefan asesiadau unwaith byddwch chi wedi mewngofnodi i Hwb:

  1. Mewngofnodi i Hwb
  2. Clicio ar y Ddewislen > Asesiadau personol

I gael cymorth ar yr asesiadau personol, cysylltwch â'r Ddesg Gymorth Asesiadau ar 029 2026 5099 neu help@personalisedassessments.wales.

I gael cymorth ar reoli cyfrifon defnyddwyr Hwb yr ysgol, cyfeiriwch at y canllaw hwn. Fel arall, cysylltwch â hwb@gov.wales neu 0300 0252525.


I gyrchu safle Hwb yn Gymraeg, dilynwch y ddolen yma https://hwb.llyw.cymru  neu dewiswch Cymraeg yn y bar llywio.


I gael rhagor o gymorth, cysylltwch â Desg Gymorth Hwb: Hwb@gov.wales | 03000 25 25 25.