English

Mae bwlio ar-lein yn fwlio drwy dechnoleg neu wasanaethau neu blatfformau ar-lein, er enghraifft:

  • gemau cyfrifiadurol
  • y cyfryngau cymdeithasol
  • AI
  • gwasanaethau

Gall bwlio ar-lein gynnwys:

  • ymddygiad bygythiol
  • camdriniaeth
  • aflonyddu
  • cywilyddio
  • cau allan
  • dynwared
  • difrod maleisus
  • rhannu delweddau neu fideos heb gydsyniad (gan gynnwys y rhai sy'n cael eu cynhyrchu gan AI)
  • gorfodaeth

Un o'r gwahaniaethau mwyaf rhwng bwlio ar-lein a bwlio wyneb yn wyneb yw y gall bwlio ar-lein fod yn anodd dianc oddi wrtho. Mae bwlio ar-lein hefyd yn unigryw oherwydd:

  • mae'n gallu cyrraedd cynulleidfa helaeth mewn ychydig eiliadau
  • mae ganddo'r potensial i ddenu nifer mawr o bobl
  • mae'n hawdd 'ailadrodd', gyda sylwadau niweidiol a delweddau yn cael eu rhannu nifer o weithiau
  • mae ganddo'r potensial i effeithio ar rywun unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos
  • mae'n gallu cynnig rhywfaint o anhysbysrwydd i'r tramgwyddwyr, sydd hefyd yn cynnig cyfleoedd i bobl ffugio bod yn rhywun arall

Gall bwlio ar-lein hefyd fod yn estyniad o fwlio wyneb yn wyneb. Gall technoleg fod yn llwybr arall i aflonyddu ar unigolyn neu grŵp. Gall hefyd fod yn ffordd o ddial ar gyfer rhywun sy'n cael ei fwlio wyneb yn wyneb. Mae bwlio ar-lein yn gallu cael ei wneud gan:

  • unigolion neu grwpiau sy'n hysbys i'r sawl sy'n cael ei fwlio
  • pobl nad yw'r sawl sy'n cael ei fwlio erioed wedi eu cyfarfod

Mae elfennau amlwg yn gysylltiedig â bwlio. Gall y rhain fod yn wahanol i ddadl, ymladd neu gweryl rhwng ffrindiau a gallan nhw gynnwys:

  • bwriad i achosi niwed drwy niweidio neu fychanu
  • ysu unigolyn arall neu godi ofn arno
  • ymddygiad ymosodol uniongyrchol
  •  ailadrodd ymddygiad negyddol neu weithredoedd ymosodol

Gallan nhw hefyd gynnwys gweithredoedd anuniongyrchol fel:

  • lledaenu sïon
  • datgelu gwybodaeth breifat am rywun
  • rhannu delweddau personol iawn neu 'ffugiad dwfn'

Hefyd, gall bwlio gynnwys canfyddiad o anghydbwysedd grym, yn aml oherwydd:

  • oedran
  • cryfder corfforol
  • poblogrwydd
  • gwydnwch seicolegol

Mae'r rhain hefyd yn berthnasol i ymddygiad sy'n aml yn cael ei labelu yn jôc neu gellwair. Os bydd dau ffrind sydd â chanfyddiad o rym cyfartal yn cellweirio â’i gilydd yn aml, nid ystyrir hynny’n fwlio. Fodd bynnag, os bydd un person yn bychanu neu fygwth rhywun arall sydd heb rym i atal hynny ac y bydd y weithred honno yn codi ofn arno, mae hynny'n gyfystyr â bwlio.

Gall bwlio ar-lein gael effaith andwyol a pharhaol ar y person sy'n cael ei fwlio. Gall:

  • effeithio ar eu hiechyd meddwl, eu lles a'u hunanhyder
  • achosi unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol

Gall targed bwlio ymddwyn fel a ganlyn:

  • troi'n swil
  • ymddangos dan straen
  • dod yn bryderus
  • bod yn amharod i fynd i'r ysgol neu glybiau chwaraeon a chymdeithasol arferol
  • cadw draw oddi wrth gyfoedion
  • ymddangos yn bell ei feddwl
  • peidio gwneud cystal yn yr ysgol neu'r coleg
  • osgoi defnyddio technoleg
  • colli hyder

Gall troseddwr ymddwyn fel a ganlyn:

  • cau sgriniau pan fydd rhywun arall yn dod i mewn i'r ystafell
  • defnyddio technoleg yn gyson
  • ymddangos yn bryderus iawn os na all gael gafael ar dechnoleg
  • osgoi siarad am yr hyn maen nhw'n ei wneud
  • defnyddio mwy nag un cyfrif neu gyfrif ffug

Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn cael trafferth gyda bwlio, mae gwybodaeth yn yr adrannau a ganlyn ynghylch beth i'w wneud a ble i gael help.

  • Help a chefnogaeth

    Sut i roi gwybod am gynnwys ar-lein niweidiol a chael mynediad at linellau cymorth a gwasanaethau cyfrinachol am ddim.