Gweithredu dull ysgol gyfan o sicrhau lles
Ffyrdd ymarferol i ysgolion weithredu dull ysgol gyfan o sicrhau lles emosiynol a meddyliol.
Mae’r fideo hwn yn cefnogi adroddiad ‘Darparu dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol: enghreifftiau ymarfer defnyddiol’. Mae’n crynhoi syniadau posibl o ran sut y gellir gweithredu dull ysgol gyfan yn ymarferol.
Mae’r gwaith ymchwil hwn wedi nodi enghreifftiau o arferion sydd wedi bod o gymorth i ysgolion. Nid gwerthusiad ydyw, ac ni phrofodd effeithiolrwydd arferion na’u cysylltu â data deilliannau. Adnodd thematig ydyw y gall ysgolion ei addasu i’w cyd-destun eu hunain.