English

Rhaid i bob ysgol fod yn rhan o Gytundeb Rhannu Data Ysgol. Mae’r cytundeb rhwng yr ysgol a Llywodraeth Cymru ac yn nodi’r gwahanol gyfrifoldebau sy’n ymwneud â phrosesu data personol er mwyn galluogi staff a dysgwyr i gael mynediad i Hwb.

Dogfen gyfreithiol yw Cytundeb Rhannu Data Hwb, a rhaid i bennaeth ysgol ei sicrhau neu aelod o’r uwch-dîm arwain sy’n gweithredu ar ei ran.


Derbyn Cytundeb Rhannu Data Ysgol

Mewngofnodwch i Hwb a mynd i’r https://hwb.gov.wales/dsa i dderbyn y Cytundeb ar ran eich ysgol – mae canllaw ar gael i helpu defnyddwyr.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch Cytundeb Rhannu Data Hwb eich ysgol, cysylltwch â Desg Wasanaeth Hwb: hwb@llyw.cymru  /  03000 25 25 25.