English

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu preifatrwydd defnyddwyr Hwb ar draws y gymuned ddysgu yng Nghymru. 

Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) wedi cyhoeddi newyddion pwysig sydd wedi'u hanelu at bobl sy'n ymwneud â diogelu plant: ar bob lefel, ac ym mhob sector yn y DU. Mae diogelu plant yn gyfrifoldeb ar bawb – nid dim ond ymarferwyr ym maes diogelu plant. (14 Medi 2023)

Darllenwch A 10 step guide to sharing information to safeguard children. Nod y canllaw hwn yw eich helpu i deimlo'n hyderus ynghylch rhannu gwybodaeth pan fydd angen ichi ddiogelu plentyn neu berson ifanc sydd mewn perygl o niwed, drwy roi sicrwydd i sefydliadau ac ymarferwyr ledled Cymru nad yw diogelu data yn rhwystr rhag rhannu gwybodaeth.