English

Yr hyn sydd angen i chi ei wybod

Mae rhannu delweddau noeth a hanner noeth – sydd weithiau’n cael ei alw’n ‘secstio’ – yn cyfeirio at greu a rhannu delweddau, fideos neu ffrydiau byw noeth neu hanner noeth. Mae plant a phobl ifanc yn aml yn rhannu ffotograffau a fideos o’r fath drwy ddyfeisiau, platfformau ar-lein ac apiau negeseua.

Mae AI cynhyrchiol wedi cyfrannu at gynnydd mewn delweddau a fideos o noethni a gynhyrchir gan gyfrifiadur. Gall rhain gael eu creu gan ddefnyddio offer megis meddalwedd golygu lluniau neu fideo, generaduron ffugiad dwfn, apiau creu noethni a generaduron testun-i-ddelwedd AI.

Gall pobl ifanc rannu delweddau o’u hunain neu eraill â chyfoedion, pobl maen nhw mewn perthynas ramantaidd â nhw, neu bobl nad ydyn nhw’n eu hadnabod. Gall y cymhelliant neu’r rhesymau dros wneud hyn amrywio, gyda rhai yn fwy niweidiol na’i gilydd.

Pan fydd achosion yn cynnwys rhai o dan 18 oed yn unig, bydd sefyllfaoedd yn cael eu hystyried fesul achos, gyda rhai yn cael eu trin fel mater diogelu a/neu droseddol.

Os ydych yn dod yn ymwybodol bod gan blentyn neu berson ifanc ddelweddau anweddus ohono’i hun neu eraill o dan 18 oed, mae’n bwysig gweithredu fel y gall gael ei gefnogi a’i ddiogelu’n briodol.

Rhybudd

Mae rhannu delweddau noeth a hanner noeth o bobl o dan 18 oed gyda neu gan oedolion yn gyfystyr â cham-drin plant yn rhywiol a dylid hysbysu’r heddlu fel mater o frys. Mae'r gyfraith hefyd yn gymwys i ddelweddau wedi'u trin yn ddigidol neu ddelweddau a gynhyrchir gan AI o blant o dan 18 oed.


Hyfforddiant

Ymateb i achosion o rannu delweddau noeth 

Mae’r cynnwys yn y modiwl hwn ar gyfer y Person Diogelu Dynodedig (DSP) neu uwch reolwyr mewn lleoliad addysg ac mae wedi’i ddatblygu i’ch helpu chi i ymateb yn effeithiol i achosion o rannu delweddau noeth a hanner noeth. Mae’n cyd-fynd â chanllawiau Llywodraeth Cymru, Rhannu delweddau noeth a hanner noeth: Ymateb i ddigwyddiadau a diogelu plant a phobl ifanc.

Rhannu delweddau noeth: fideo hyfforddi

Fideo byr wedi'i gynllunio i helpu ysgolion i ddeall:

  • canllawiau i ddatblygu polisïau ac arferion
  • y tueddiadau a phryderon diogelwch diweddaraf 
  • gwasanaethau cyngor cyfrinachol ac adrodd sydd ar gael

     


Barn yr arbenigwyr

Rhannu delweddau noeth

David Wright, Cyfarwyddwyr, UK Safer Internet Centre

‘Blacmel Rhywiol’

Sefydliad Gwylio’r Rhyngrwyd (IWF)


Adnoddau dysgu ac addysgu