Iechyd meddwl a lles a’r rhyngrwyd
Adnoddau, canllawiau a gwybodaeth ar gyfer ymarferwyr addysg, dysgwyr a theuluoedd ar iechyd meddwl a lles meddyliol a'r rhyngrwyd.
- Rhan o
![](https://hwb.gov.wales/api/storage/7239509c-8e72-4e56-97a1-de29001e1d02/6.png)
Yr hyn sydd angen i chi ei wybod
Gall y rhyngrwyd gael effeithiau cadarnhaol a negyddol ar ein hiechyd meddwl a lles. Gall y rhyngrwyd ddarparu cyfleoedd gwerthfawr i gadw cysylltiad a darganfod meysydd diddordeb newydd a allai wella’n lles corfforol a meddyliol. Fodd bynnag, gall rhai rhyngweithiadau neu brofiadau ar-lein gael effaith negyddol arnom.
Gellir cysylltu iechyd meddwl gwael â gormod o ddefnydd neu ddefnydd problematig o dechnoleg, problemau ynghylch delwedd corff neu hunan-barch isel, neu ddod i gysylltiad â chynnwys annymunol neu bryderus.
Gall sgwrsfotiau AI cynhyrchiol ryngweithio mewn ffordd bersonol, realistig, ac mae rhai cwmnïau hyd yn oed yn labelu sgwrsfotiau fel adnoddau 'cymorth iechyd meddwl'. Mae'n bwysig i ddeall y gall sgwrsfotiau gynnig cyngor diffygiol, a bod arweiniad proffesiynol yn parhau i fod yn hanfodol ar gyfer pryderon iechyd meddwl.
Mae cefnogi plant a phobl ifanc i ddatblygu strategaethau i gadw eu profiadau ar-lein yn rhai cadarnhaol yn hanfodol fel eu bod yn gwybod ble i gael cymorth gyda’u hiechyd meddwl pe bai angen.
Barn yr arbenigwyr
![](https://hwb.gov.wales/api/storage/faa3fd23-1a5e-492e-ab01-0f315af65252/stephanie-hoffman-promo-cymru2.jpeg)
Effaith y cyfryngau cymdeithasol ar hunan-barch a sut i helpu
Stephanie Hoffman, Pennaeth Gweithredu Cymdeithasol, Pro-Mo Cymru
Sut i gael profiad cadarnhaol ar y cyfryngau cymdeithasol
![](https://hwb.gov.wales/api/storage/7bce395d-8c17-4186-b0c1-6b0f8f22a721/stay-true-to-yourself-online.jpg)
Byddwch yn driw i chi'ch hun ar-lein
Weithiau gallwn deimlo dan bwysau i greu'r argraff orau o'n bywydau ar-lein. Dyma rai cynghorion syml i gael profiad cadarnhaol ar y cyfryngau cymdeithasol.
Adnoddau dysgu ac addysgu
Deunyddiau gweithdy i rieni a gofalwyr
Deunyddiau i ysgol gynnal gweithdy i rieni a gofalwyr ar hunan-barch a lles mewn byd digidol.