English

Beth sydd angen i chi ei wybod

Bob tro y byddwch yn postio rhywbeth ar-lein rydych yn adeiladu ôl troed digidol. Mae eich ôl troed digidol yn dylanwadu ar farn pobl eraill amdanoch yn seiliedig ar eich gweithgarwch ar-lein – dyma'ch enw da ar-lein. Bob tro y byddwch chi'n postio rhywbeth ar-lein, yn rhannu cynnwys neu'n chwarae gêm, rydych chi'n cyfrannu at eich ôl troed digidol. Mae'r un peth yn wir pan fydd pobl eraill yn postio amdanoch chi, mae hyn hefyd yn cyfrannu at eich ôl troed digidol.

Gellir defnyddio offer AI cynhyrchiol i greu cynnwys, a all fod yn rhagfarnllyd, yn gelwyddog neu'n dramgwyddus. Mae'n bwysig i wirio cynnwys cyn ei rannu ac i ystyried effaith yr hyn rydych chi'n ei bostio ar-lein arnoch chi eich hun ac ar eraill.

Cyngor doeth

  • Gwiriwch eich gosodiadau preifatrwydd ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae’r rhan fwyaf o gyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol yn gyhoeddus yn ddiofyn, ond yn aml gallwch newid hyn.
  • Peidiwch ag anghofio am eich llun proffil. Nid yw lluniau proffil ar draws yr holl rwydweithiau cymdeithasol byth yn breifat. Sicrhewch bod eich llun proffil yn eich dangos mewn ffordd bositif ac nad oes gwybodaeth bersonol na chynnwys amhriodol.
  • Diogelu eich cyfrineiriau. Peidiwch byth â rhannu manylion eich cyfrinair, fel mai dim ond chi sydd â mynediad a’r gallu i newid eich proffiliau ar y cyfryngau cymdeithasol.
  • Rheoli’ch rhestr ffrindiau neu’ch dilynwyr. Ystyriwch adolygu gyda phwy rydych chi'n gysylltiedig ar-lein a gwneud hyn yn rheolaidd fel y gallwch chi deimlo'n fwy hyderus bod y bobl rydych chi'n rhannu cynnwys â nhw yn gefnogol.
  • Siaradwch â ffrindiau a theulu. Rhowch wybod iddyn nhw beth rydych chi'n gyfforddus iddyn nhw ei rannu amdanoch chi ar-lein a holwch beth maen nhw'n gyfforddus i chi ei rannu amdanyn nhw. Er enghraifft, ydych chi'n hapus i gael eich tagio mewn llun?
  • Tynnu cynnwys diangen. Os ydych chi'n canfod gwybodaeth bersonol sensitif ar-lein na allwch ei thynnu eich hun, gallwch ofyn i Google ei thynnu oddi yno. Gallwch wirio'r hyn y mae Google yn barod i'w dynnu (Saesneg yn unig). Os oes delwedd noeth wedi'i rhannu heb eich caniatâd, gallwch roi gwybod am hyn i Report Remove (Saesneg yn unig).

Mae canllawiau ar gyfer newid eich gosodiadau preifatrwydd ar lawer o lwyfannau ar-lein i’w gweld yn ein canllawiau ap.


Barn yr arbenigwyr

Rheoli’ch ôl-troed digidol a’ch enw da

Richard Wall ac Elaina Brutto, Gyrfa Cymru

Mae Gyrfa Cymru yn archwilio sut i reoli eich ôl troed digidol a'ch enw da yn effeithiol fel ei fod yn cael effaith gadarnhaol ar eich cyflogaeth yn y dyfodol.

Adnoddau

Gwybodaeth i blant a phobl ifanc