English

Mae llawer ohonom yn croesawu poblogrwydd cynyddol y cyfryngau cymdeithasol ac mae'n gyfle inni gadw mewn cysylltiad yn fwy nag erioed o'r blaen. Mae tua 95 miliwn o luniau'n cael eu rhannu ar Instagram bob dydd, ond o ystyried pa mor hawdd yw golygu lluniau, weithiau gallwn deimlo dan bwysau i greu'r argraff orau o'n bywydau ar-lein.

Peidiwch â gadael i'r hidlydd eich twyllo. Byddwch yn driw i chi'ch hun ar-lein.


Dyma rai cynghorion syml i’ch helpu i gael profiad cadarnhaol o’r cyfryngau cymdeithasol:

Bod yn driw i chi’ch hun

Gall fod yn demtasiwn creu persona ffug neu argraff gamarweiniol o'ch bywyd ar-lein oherwydd eich canfyddiadau o fywydau pobl eraill. Fodd bynnag, mae'n bwysicach cael eich derbyn am yr hyn ydych chi yn hytrach na fersiwn ddelfrydol. Mae’n well creu presenoldeb cyfryngau cymdeithasol sy'n cyd-fynd â'ch hunaniaeth a'ch gwerthoedd eich hun.

Cadw persbectif

Cofiwch nad ydych bob amser yn gweld y darlun cyflawn wrth weld ffrydiau cyfryngau cymdeithasol pobl eraill, a chydnabod y ffaith nad yw bywyd neb yn berffaith. Mae pobl yn aml yn defnyddio offer hidlo a golygu i wella eu lluniau. Dyw faint o bobl sy'n 'hoffi' eich negeseuon, neu faint o ddilynwyr sydd gennych, ddim yn adlewyrchu eich gwerth fel person.

Cymryd rheolaeth

Peidiwch â gadael i eraill eich israddio. Meddyliwch am bwy rydych chi'n ei ddilyn. Ydyn nhw'n rhannu eich diddordebau a'ch gwerthoedd? Ewch ati i guddio neu rwystro negeseuon a defnyddwyr neu gynnwys sy'n gwneud i chi deimlo'n negyddol amdanoch eich hun. Mae'r rhan fwyaf o apiau cyfryngau cymdeithasol yn cynnwys opsiynau i riportio neu rwystro cynnwys diangen.

Cael y cydbwysedd cywir

Ydych chi'n dechrau sgrolio heb sylweddoli hynny weithiau? Mae'n hawdd cael eich amsugno gan y cyfryngau cymdeithasol a gall hyn gael effaith negyddol ar eich lles. Gall bod yn ymwybodol o'ch arferion eich helpu i adnabod pryd mae angen i chi gymryd seibiant, er mwyn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol gyda phwrpas.

Bod yn gadarnhaol

Pwyllwch cyn postio - ydy hyn yn gwneud i mi deimlo'n dda amdanaf fy hun? Oes perygl i eraill ei gamddehongli'n hawdd? A fyddech chi’n mynegi'r un farn all-lein? Bydd meddwl amdanoch eich hun ac eraill yn sicrhau profiad cadarnhaol ac yn eich helpu i osgoi drama ddiangen.

Lawrlwythwch boster o’r cynghorion hyn isod.