Canllaw i rieni a gofalwyr ar sgoriau oedran mewn apiau a gemau
Fel y gwyr y rhan fwyaf ohonoch, mae apiau a gemau yn boblogaidd iawn ymhlith plant a phobl ifanc. Bydd sawl un ohonoch yn gyfarwydd â chyfres Toca, Pokémon Go, Minecraft, Thomas the Tank Engine, Lego a YouTube - mae’r rhestr yn hirfaith. Mae pobl ifanc hefyd yn chwarae gemau fel Grand Theft Auto neu’n defnyddio apiau fel Snapchat, Instagram, Twitter neu Spotify.
Mae’r erthygl hon yn archwilio rhai o’r heriau a wynebir gan rieni a gofalwyr mewn perthynas â sgoriau oedran priodol gemau ac apiau. Bydd yn eich helpu i gael rhagor o wybodaeth am sgoriau oedran gemau ac o ble i gael cymorth a chefnogaeth.
A yw'r cynnwys yn briodol i oedran?
Waeth beth fo’r grwp oedran, mae un peth yn glir: er bod plant a phobl ifanc wrth eu bod yn defnyddio apiau a gemau, mae perygl bod sawl un yn defnyddio ac yn cael gafael ar gynnwys nad yw’n briodol i oedran.
Efallai eich bod yn ei chael hi’n anodd rheoli apiau a gemau yn arbennig os oes gennych chi blant o oedrannau gwahanol. Yn aml, bydd plentyn iau eisiau chwarae’r un gemau ac apiau â’i frawd neu chwaer hyn. Neu bydd y plentyn iau yn sbecian dros yr ysgwydd ac o bosibl yn gweld pethau nad ydynt yn briodol i’w oed. Wrth gwrs, nid dim ond ymhlith brodyr a chwiorydd y mae’r broblem hon. Ar y maes chwarae, bydd plant yn siarad am gemau, apiau a’r tueddiadau diweddaraf.
Gall plant a phobl ifanc frolio un gêm, ap neu safle rhwydweithio cymdeithasol dros rai eraill, ond mae’n annhebygol y byddant yn trafod sgoriau oedran yr apiau a’r gemau hynny. Yn eironig, y sgoriau oedran hynny yw nodwedd bwysicaf y gêm, ap neu safle rhwydweithio cymdeithasol hwnnw – maent yn amddiffyn eu datblygiad a’u haeddfedrwydd.
Sut mae sgoriau’n helpu.
Yn ogystal ag amddiffyn plant a phobl ifanc, gall sgoriau oedran ap hefyd eich llywio i wneud penderfyniadau doeth ynghylch y cynnwys y gall eich plant ei weld, y safleoedd y maent yn ymweld â nhw a’r gemau y byddant yn eu chwarae.
Efallai eich bod am ddysgu sut y caiff apiau a gemau eu sgorio a dechrau trafodaeth ynghylch pa mor briodol yw apiau neu gemau penodol gan ddefnyddio’r adnoddau a nodir isod.
Gwybodaeth am sgoriau oedran:
- PEGI: Sgoriau gemau Ewrop ac esboniad o labeli 3, 7, 12, 16, 18
- Entertainment Software Rating Board: System sgorio Gogledd America gan fod nifer fawr o apiau a gemau’n dod o Ogledd
- Common Sense Media: mae’n darparu adolygiadau ar apiau a gemau o safbwynt rhieni, plant a phobl ifanc
Gwybodaeth am gemau a defnydd diogel:
Efallai eich bod am edrych ar yr adnoddau hyn o Cadw'n ddiogel ar-lein Hwb.
- Gemau ac Amser o Flaen Sgrîn - ar gyfer rhieni a gofalwyr - dysgwch pa gemau mae eich plant yn eu chwarae a sut gallwch chi siarad â’ch plentyn i’w helpu i chwarae mewn ffordd ddiogel a chadarnhaol
- Senarios gemau – adnodd sy’n seiliedig ar senarios sy’n galluogi disgyblion i drafod y defnydd diogel a phriodol o safleoedd gemau ar-lein.
Sut ydw i’n siarad â’m plentyn am apiau, gemau a rhwydweithio cymdeithasol?
Cyngor ar gyfer rhieni/gofalwyr plant iau:
- chwaraewch gêm gyda’ch plentyn gan adolygu’r sgôr oedran gyda’ch gilydd
- parchwch y sgôr oedran waeth pa mor boblogaidd yw’r ap neu'r gêm
- trafodwch pa mor briodol yw’r ap neu'r gêm.
Cyngor ar gyfer rhieni/gofalwyr pobl ifanc:
- gofynnwch i’ch person ifanc am y mathau o gemau mae’n eu chwarae a sut mae’n teimlo tra bydd yn eu chwarae
- gofynnwch pa fathau o apiau sy’n trendio a pham mae’n eu hoffi
- esboniwch eich gwerthoedd a thrafodwch a yw’r ap, gêm neu safle yn briodol
- adolygwch y canllaw i dechnoleg hwn i rieni er mwyn cefnogi eich pobl ifanc yn well wrth iddynt ddefnyddio technoleg
- mae FamilyPoint Cymru hefyd yn rhoi cefnogaeth a chanllawiau a allai fod o gymorth i chi.
Mae llawer o fanteision i dechnoleg newydd a gyda’ch cefnogaeth a’ch arweiniad chi gall eich plant chwarae, cymdeithasu, bod yn greadigol a dysgu mewn amgylchedd technolegol.