English

Mae llawer o wahanol fathau o gamblo – o’r Loteri Genedlaethol a gemau loteri ennill ar unwaith, i wefannau ac apiau gamblo ar-lein sy’n cynnig cyfle i ennill arian drwy fetio ar pocer, casinos, bingo, rasio ceffylau, pêl-droed a chwaraeon eraill. Mae gamblo ar-lein yn fusnes mawr iawn yn y DU, ac mae ffigurau 2019 gan y Comisiwn Gamblo (Saesneg yn unig) yn dangos mai gamblo ar-lein yw 37 y cant o’r holl achosion o gamblo. 

Mae’r canllaw hwn yn edrych ar rai o’r risgiau y gall gamblo ar-lein eu hachosi i blant a phobl ifanc, sut i siarad gyda nhw am y risgiau os oes gennych bryderon fel rhiant neu ofalwr, a beth allwch chi ei wneud i helpu.  


Nid yw’r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc yn gamblo ar-lein, a chanran fach iawn sydd yn gwneud. Canfu ymchwil gan y Comisiwn Gamblo yn 2019 (Saesneg yn unig) fod 7 y cant o’r bobl ifanc 11 i 16 oed a gymerodd ran yn yr arolwg wedi gamblo ar-lein, a bod 3 y cant wedi gamblo yn ystod y saith niwrnod cyn cwblhau’r arolwg. Dywedodd tua 12 y cant eu bod wedi chwarae gêm ar-lein ‘tebyg i gamblo’ – sef un sy’n gweithio’n debyg i roulette, pocer, slotiau neu bingo, ond sydd am ddim ac nad yw’n rhoi gwobrau ariannol go iawn i’r chwaraewyr.

Mae tystiolaeth gan Zendle a Cairns (2018) (Saesneg yn unig) yn awgrymu y gellid tybio bod mecanweithiau mewn gemau, er enghraifft cistiau trysor (loot boxes), sy’n cynnwys elfen o siawns wrth benderfynu beth y gallai chwaraewyr ei gael, yn hybu ymddygiadau gamblo. Gallai hyn fod yn wir hyd yn oed os yw’r mecanwaith yn ddi‑dâl. Er enghraifft, bydd rhai gemau’n ceisio annog chwaraewyr â negeseuon fel ‘Log in to receive a daily surprise gift.’


Gall gweld hysbysebion gamblo ar-lein ac all-lein yn aml (er enghraifft, yn ystod yr egwyl hysbysebion mewn darllediadau chwaraeon ar y teledu, ac mewn mannau cyhoeddus, megis hysbysfyrddau a llochesi bysiau) wneud i gamblo ymddangos yn rhan ‘normal’ o fywyd, yn hwyl ac yn gyffrous.

Mae gamblo ar-lein yn aml yn cynnwys nodweddion sgwrsio a negeseuon, ac mae cwmnïau’n gwneud eu gorau i bortreadu gamblo fel gweithgaredd cymdeithasol i’w fwynhau a’i rannu gyda ffrindiau.

Mae ysgogiadau uniongyrchol hefyd yn chwarae rhan, gyda rhai gemau gamblo ar-lein yn denu chwaraewyr drwy gynnig bonws am gofrestru neu’n gadael iddyn nhw ennill yn aml pan fyddan nhw’n dechrau chwarae, er enghraifft drwy ‘sesiynau ymarfer’ neu sesiynau tiwtorial. Gall hyn roi’r argraff i blant a phobl ifanc y byddan nhw’n dal i ennill, a’u hannog i ddal i chwarae.

Gall gemau gamblo ar-lein hefyd edrych yn debyg i gemau fideo eraill sy’n boblogaidd ymhlith plant a phobl ifanc. Bydd hyn wedyn yn achosi i chwaraewyr feddwl bod gemau gamblo yn ddibynnol ar sgiliau, yn hytrach na lwc.


Bydd chwaraewyr yn prynu cistiau trysor (sydd hefyd yn cael eu galw’n loot crates neu loot packs) pan fyddan nhw’n chwarae gêm gan ddefnyddio arian rhithwir maen nhw’n ei gael yn y gêm, neu drwy ddefnyddio arian go iawn. Mae cistiau trysor yn cynnwys eitemau mewn gêm nad oes neb yn gwybod eu nifer na’u gwerth. Gan nad oes neb yn gwybod beth yw’r cynnwys nes bydd y bocs yn cael ei brynu a’i agor, mae elfen o siawns yn gysylltiedig â gwerth yr eitemau a dderbynnir. Oherwydd hynny, mae cistiau trysor wedi cael eu cymharu â gamblo.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae marchnad i gyfnewid, prynu, gwerthu a betio eitemau mewn gemau drwy safleoedd trydydd parti heb eu hawdurdodi hefyd wedi ehangu. Dywedodd chwech y cant o’r bobl ifanc a gymerodd ran mewn arolwg gan y Comisiwn Gamblo eu bod wedi betio eitemau mewn gêm ar wefannau y tu allan i’r gêm neu yn breifat gyda ffrindiau neu chwaraewyr eraill. Un math poblogaidd o hyn yw ‘betio crwyn’ (skins betting), lle mae eitemau sy’n addasu ymddangosiad cymeriadau, arfau ac eitemau eraill mewn gêm yn gosmetig yn cael eu masnachu a’u betio. Mae hyn yn fath anghyfreithlon o gamblo.

Mae adroddiad a gynhyrchwyd gan y Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar Niwed sy'n Gysylltiedig â Gamblo (Mehefin 2020) (Saesneg yn unig) yn argymell bod angen mwy o reoliadau ar gyfer cistiau trysor ac na ddylen nhw gael eu gwerthu i blant sy’n chwarae gemau.

Gwlad Belg oedd y wlad gyntaf yn Ewrop i wahardd cistiau trysor yn 2018 (Saesneg yn unig).


Nid yw’r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc yn gamblo ar-lein, ond mae canran lawer uwch yn ymwybodol bod gamblo ar-lein yn bodoli. Roedd tri deg naw y cant o’r rhai a gymerodd ran yn arolwg y Comisiwn Gamblo yn ymwybodol o’r opsiwn i dalu er mwyn agor cistiau trysor mewn gêm. Mae hyn yn golygu ei bod hi’n bwysig trafod risgiau gamblo ar-lein sy’n gysylltiedig â’r pynciau a ganlyn.

  • Cyfyngiadau oedran
    Mae gamblo ar-lein, yn gyffredinol, ar gyfer pobl 18 oed a throsodd (ar wahân i’r Loteri Genedlaethol sydd ar gael i bobl ifanc 16 oed a throsodd). Er nad yw’n anghyfreithlon i blentyn dan 18 oed gofrestru ar gyfer gamblo ar-lein, byddai’r cwmni sy’n darparu’r gwasanaeth yn torri’r gyfraith. Ar ôl iddo gael ei hysbysu, byddai angen i’r cwmni ddileu’r cyfrif, gan gynnwys yr holl ddata personol, a dileu unrhyw enillion. Byddai gamblo yn y cyd-destun hwn yn anghyfreithlon, felly ni fyddai’r cwmni’n gallu mynd ar ôl unrhyw ddyledion a fyddai wedi’u hachosi gan blentyn.
  • Gêm â dim ond un enillydd clir
    Eglurwch wrth eich plentyn sut y mae’r siawns o ennill ar y rhan fwyaf o safleoedd yn isel iawn, hyd yn oed os yw’r safle neu’r ap yn dweud yn wahanol. Felly, os yw’r siawns o ennill yn uwch yn y tymor byr, mae’r tebygolrwydd hirdymor o ennill yn isel iawn. Atgoffwch eich plentyn fod cwmnïau gamblo yno i wneud arian, a phe baen nhw’n talu mwy o arian allan nag y maen nhw’n ei dderbyn i mewn, bydden nhw allan o fusnes yn fuan iawn.

  • Dydy twyllo byth yn talu
    Mae’n bosibl y bydd plant a phobl ifanc yn gweld pethau ar-lein sy’n awgrymu y gallwch chi ‘dwyllo’ wrth gamblo ar-lein, drwy ddefnyddio meddalwedd arbennig neu drwy strategaethau arbennig sy’n aml yn cael eu hyrwyddo gan flogwyr ar-lein neu wefannau. Eglurwch nad oes unrhyw strategaethau sy’n gwarantu y bydd rhywun yn ennill, ac y bydd gamblo bob amser yn gêm o lwc, yn hytrach na sgil. Drwy ddefnyddio meddalwedd i gynyddu eich siawns o ennill ar-lein byddwch yn torri rheolau’r safle gamblo, a gallech hefyd fod yn torri’r gyfraith.
  • Mae gamblo ar-lein wedi’i gynllunio i fod yn gyflym ac yn hawdd
    Gall gamblo ar-lein ddigwydd yn gyflym, a bydd modd i’r chwaraewr osod betiau neu chwarae gemau heb fawr o egwyl rhyngddyn nhw, os o gwbl. Mae hyn yn eu galluogi nhw i gamblo symiau mawr o arian yn gyflym, hyd yn oed os yw pob bet ar gyfer swm bach.

  • Gall gamblo arwain at risgiau ar-lein eraill
    Gallai defnyddio safleoedd ac apiau gamblo wneud eich plentyn yn agored i risgiau gan bobl eraill ar-lein. Er enghraifft, gallen nhw geisio cael mynediad i gyfrif eich plentyn drwy dwyll, feirysau neu ysbïwedd a allai gasglu gwybodaeth bersonol.

  • Beth yw’r rheolau yn eich cartref?
    Gall creu cytundeb teuluol yn ymwneud â beth sy’n iawn a beth sydd ddim yn iawn i’w wneud ar-lein helpu plant i ddeall nad yw gamblo ar-lein yn cael ei ganiatáu. Mae templed cytundeb teulu Childnet (Saesneg yn unig) yn ddefnyddiol er mwyn eich helpu i wneud hyn.

Os ydych yn poeni bod eich plentyn yn ymwneud â gamblo ar-lein, mae nifer o gamau cadarnhaol y gallwch eu cymryd.  

  • Cadwch lygad am yr arwyddion rhybudd[1] gan gynnwys:
    • newid mewn hwyliau, cysgu/blinder ac ymddygiad
    • llai o ryngweithio cymdeithasol
    • newidiadau sydyn/anghysondeb o ran faint o arian sydd gan eich plentyn neu beth y mae’n dweud ei fod yn gwario’r arian arno
    • cael trafferth â gwaith ysgol
    • diddordeb mewn ods chwaraeon a gweithgareddau gamblo sy’n cael eu portreadu ar-lein neu ar y teledu.
  • Atgoffwch eich plentyn eich bod yno o hyd i’w gefnogi
    Efallai na fydd eich plentyn eisiau dweud ei fod yn gamblo rhag ofn iddo gael ei geryddu neu ei gosbi. Mae hefyd yn fwy tebygol o wadu os yw ei ymddygiad gamblo wedi mynd yn broblem. Atgoffwch eich plentyn eich bod yno i gynnig cefnogaeth a chymorth unrhyw bryd os bydd yn poeni am rywbeth ar-lein.
  • Ystyriwch offer hidlo a blocio
    Gallwch ddefnyddio opsiynau rheolaeth rhieni sy’n cael eu darparu gan eich darparwr gwasanaeth rhyngrwyd i flocio mynediad at rai mathau o gynnwys ar-lein, gan gynnwys safleoedd gamblo. Gallwch hefyd osod meddalwedd hidlo i flocio mynediad ar ddyfeisiau. Gall gosod cyfyngiadau oedran ar siopau apiau hefyd atal plant a phobl ifanc rhag gosod apiau gamblo ar ddyfeisiau.

  • Gofynnwch am help
    Os ydych yn poeni bod eich plentyn yn gamblo ar-lein a bod hynny’n cael effaith negyddol ar ei les, cysylltwch â GamCare (Saesneg yn unig) i gael cyngor a chefnogaeth.


  • Meic – Gwasanaeth llinell gymorth dwyieithog cyfrinachol, dienw a di-dâl sydd ar gael i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru.
  • Childline (Saesneg yn unig) – Gwasanaeth cyfrinachol, preifat a di-dâl sydd ar gael i unrhyw un dan 19 oed yn y DU. Beth bynnag sy’n poeni’r plentyn neu’r person ifanc, maen nhw yno i wrando.
  • NSPCC (Saesneg yn unig) – Mae’r NSPCC yn elusen genedlaethol sy’n gweithio er mwyn amddiffyn plant ac atal camdriniaeth, ac mae’n cynnig llinell gymorth bwrpasol â chwnselwyr proffesiynol.
  • CEOP (Saesneg yn unig) – Ar wefan y Ganolfan Camfanteisio ar Blant a’u Hamddiffyn Ar-lein gallwch adrodd unrhyw bryderon am gam-drin rhywiol ar-lein yn ddiogel.
  • Riportio Cynnwys Niweidiol – Canolfan adrodd genedlaethol sydd wedi’i chynllunio er mwyn helpu pawb i roi gwybod am gynnwys niweidiol maen nhw’n ei weld ar-lein.
  • Action Fraud (Saesneg yn unig) – Canolfan twyll a seiberdroseddau’r DU. Dyma’r lle i fynd os ydych yn ddioddefwr sgam, twyll neu seiberdrosedd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.