English

O ran trafod pynciau sensitif a dadleuol gyda’ch plentyn, weithiau mae’n teimlo’n haws osgoi’r pynciau yn hytrach na mynd i’r afael â nhw’n agored ac yn onest. Ond mae’n well i’ch plentyn ddysgu oddi wrthych chi, yr ysgol a bywyd go iawn - nid o'r cae chwarae a ffynonellau ar-lein amheus.

Os ydych chi'n gwylio'r teledu, yn darllen papur newydd neu'n defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol, mae’n debygol iawn eich bod wedi dod ar draws y termau ‘radicaleiddio’ ac ‘eithafiaeth.’ Mae’r ddau air yn ysgogi cysylltiadau amryfal a gallan nhw weithiau fod yn anghywir a/neu’n gamarweiniol.  Felly mae’n bwysig gwybod a deall diffiniadau swyddogol y termau hyn cyn eu defnyddio mewn sgyrsiau â phlant a phobl ifanc.

Mae’r canllaw hwn yn edrych ar ystyr radicaleiddio ac eithafiaeth; sut i gyfyngu cysylltiad eich plentyn â dylanwadau radicaleiddio, a beth i'w wneud os ydych chi’n amau bod eich plentyn yn cael ei radicaleiddio.


Mae strategaeth Prevent y llywodraeth yn diffinio radicaliaeth fel ‘y broses lle mae unigolyn yn cefnogi terfysgaeth a mathau o eithafiaeth sy’n arwain at derfysgaeth.’

Mae eithafiaeth yn cyfeirio at ‘wrthwynebiad llafar neu weithredol i werthoedd Prydeinig sylfaenol, gan gynnwys democratiaeth, y gyfraith, rhyddid yr unigolyn a chyd-barch a chyd-oddefgarwch o wahanol ffydd a chredoau.’

Yr hyn sy’n cael ei ddeall amlaf yw, mai eithafiaeth yw canlyniad y broses o radicaleiddio. Mae'r ymadrodd ‘hudo a meithrin perthynas amhriodol’ yn cael ei ddefnyddio’n aml ym maes terfysgaeth. Mewn achosion o gam-drin plant yn rhywiol mae’r unigolion sy’n cael eu hudo a’u meithrin i gael perthynas amhriodol bob amser yn blant neu’n bobl ifanc. Ond o ran radicaleiddio mae’n bwysig deall bod y bobl yma’n aml yn gallu bod yn oedolion.


Mae radicaleiddio’n gallu arwain at weithgarwch terfysgol – sy’n amrywio o gam-drin geiriol i drais corfforol a llofruddiaeth. Dylen ni anelu i ddiogelu’r rhai hynny sydd mewn peryg o gael eu radicaleiddio er mwyn eu diogelwch a'u llesiant eu hunain a phobl eraill.


Mewn prosiect ymchwil a gafodd ei gynnal gan Goleg Prifysgol Llundain, gofynnwyd i dri recriwtiwr terfysgol am y math o bobl roedden nhw’n eu targedu a pham.

  • ‘Fe fydden ni’n chwilio am blant â phroblemau personol oherwydd roedd hi’n haws addo'r byd iddyn nhw.’
  • ‘Pobl a oedd wedi colli popeth ac a oedd yn delio ag argyfwng hunaniaeth...cam-drin, bod yn gaeth i gyffuriau, alcoholiaeth, tlodi yn y teulu, y mathau hyn o bethau.’
  • ‘Plant a oedd ar y stryd, oherwydd roedden ni’n gobeithio eu denu nhw i’n teulu ni.’

Gellir crynhoi’r ymatebion hyn yn ôl y nodweddion canlynol.

  • Hunan-barch isel.
  • Penbleth ynghylch pwy ydyn nhw neu golli hunaniaeth.
  • Teimlo’n ynysig.

Mae bwriadau’r recriwtwyr yn gallu newid. Weithiau, y nod yw recriwtio cymaint o bobl â phosib – weithiau drwy dargedu’r gymuned leol, terfysgwyr ar-lein a safleoedd gemau. Ar adegau eraill, maen nhw angen pobl â sgiliau neu wybodaeth benodol. Er enghraifft, un tro roedd cylchgrawn ISIS wedi cynnwys erthygl a oedd wedi’i hanelu’n benodol at recriwtio myfyrwyr meddygol.


Mae propaganda terfysgwyr yn ceisio creu gwahaniaeth rhwng hunaniaeth grŵp eithafol a grŵp arall – fel ‘ni’ a ‘nhw.’ Mae'r grŵp eithafol yn cael ei fawrygu a’i ganmol, ac mae’r grŵp arall yn cael ei feirniadu a'i athrodi. Mae darllenwyr, gwrandawyr a gwylwyr ar-lein yn gorfod penderfynu a ydyn nhw’n uniaethu â'r grŵp eithafol neu beidio. Mae deunyddiau propagandaidd yn pwysleisio bod rhaid i’r rhai sydd wir yn uniaethu â'r grŵp eithafol gydymffurfio ag agenda treisgar y grŵp.


Mae pob achos yn wahanol, ond gall blant a phobl ifanc sy’n dod i gysylltiad â dylanwadau radicaliaeth ddangos yr ymddygiad canlynol.

  • Bod ar wahân
    • Bod yn gyfrinachol ac yn amharod i drafod eu lleoliad.
    • Ymddieithrio oddi wrth eu hen ffrindiau.
    • Ymddwyn yn fwyfwy dadleugar.
  • Hunaniaeth newydd
    • Newid eu ffrindiau, eu hymddangosiad a’u hunaniaeth ar-lein.
    • Newid eu crefydd.
  • Bod yn fwy trugarog tuag at eithafiaeth
    • Defnyddio ‘ni’/’nhw’ neu ddefnyddio iaith sy’n cyfeirio at grwpiau penodol fel pe na baen nhw’n fodau dynol.
    • Gwrthod gwrando ar wahanol safbwyntiau.
    • Ymddwyn yn ymosodol tuag at eraill maen nhw’n eu hystyried yn wahanol.
    • Cydymdeimlo â grwpiau ac ideolegau eithafol.
    • Cael mynediad at gynnwys eithafol ar-lein.

Os ydych yn amau bod eich plentyn yn cael ei radicaleiddio neu’n ymddwyn mewn ffordd eithafol, peidiwch ag oedi wrth geisio cael cymorth gan:

  • athro eich plentyn – mae strategaeth Prevent y Llywodraeth yn helpu athrawon  i gael y sgiliau a’r technegau i ganfod ymddygiad sy’n peri pryder a rhoi cymorth priodol i fyfyrwyr
  • yr Adran Addysg – ffoniwch y llinell gymorth gwrthderfysgaeth ar 020 7340 7264
  • gwasanaethau cymdeithasol
  • cydlynydd Prevent eich awdurdod lleol
  • yr NSPCC
  • yr heddlu – ffoniwch 101 neu llenwch y Ffurflen Atgyfeirio Partneriaid Prevent Cymru Gyfan.

Gall diogelu eich plentyn rhag dylanwadau radicaliaeth deimlo fel tasg amhosib, ond mae camau y gallwch eu cymryd i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â nhw.

Cadw eich plentyn yn ddiogel ar-lein.

Y rhyngrwyd ydy’r adnodd recriwtio sy’n cael ei ddefnyddio amlaf i ledaenu safbwyntiau eithafol a phropaganda terfysgwyr. Mae cwmnïau cyfryngau cymdeithasol yn ceisio helpu i atal radicaliaeth ac eithafiaeth rhag lledaenu ar-lein drwy adnabod ac atal cynnwys eithafol. Fe allwch chi helpu trwy:

  • cytuno ar faint o amser mae eich plentyn yn ei dreulio ar-lein a’r safleoedd maen nhw’n mynd arnyn nhw
  • siarad â’ch plentyn ynglŷn â phwy ydy eu ffrindiau ar-lein a sut maen nhw’n penderfynu pwy fydd eu ffrindiau nhw
  • gosod dulliau rheolaeth gan rieni ar ddyfeisiau eich plentyn.

Addysgu eich plentyn am ethnigrwydd a chrefyddau gwahanol.

Mae eithafiaeth wedi’i seilio ar ragfarn a gwahaniaethu. Gweithiwch yn erbyn lledaenu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol drwy sicrhau bod gan eich plentyn ddealltwriaeth gadarn o gredoau, heblaw am eu credoau nhw eu hunain, a’u bod yn eu gwerthfawrogi. Cysylltwch ag ysgol eich plentyn i weld pa arweiniad fyddan nhw’n gallu ei gynnig.


(Cyfres MIT Press Essential Knowledge) 

Beth yw eithafiaeth, sut mae ideolegau eithafol yn cael eu ffurfio, a pham bod eithafiaeth yn gallu arwain at drais.