Minecraft Education
Canllawiau ar sut mae lawrlwytho a defnyddio Minecraft Education.
4. Cadw Cymru: pontio treftadaeth Cymru a dysgu digidol
Ynglŷn â Cadw Cymru
Cynnyrch addysgol arloesol yw Cadw Cymru sy’n cyfuno Minecraft gyda safleoedd hanesyddol Cymru. Mae’n offeryn cyffrous i ymarferwyr yng Nghymru ei ddefnyddio i ennyn diddordeb dysgwyr yn eu hanes cenedlaethol mewn ffordd ryngweithiol ac ymdrochol.
Wedi’i datblygu gyda haneswyr, ymarferwyr a dylunwyr digidol, mae’r rhaglen yn ail-greu safleoedd treftadaeth eiconig Cymru o fewn Minecraft Education. Mae’r lleoliadau rhithwir hyn yn caniatáu i ddysgwyr archwilio a dysgu am dirnodau hanesyddol, fel cestyll, abatai ac adfeilion hynafol.
Mae’r enw ‘Cadw’ yn adlewyrchu cenhadaeth y prosiect i warchod a hyrwyddo treftadaeth Cymru. Drwy ddefnyddio Minecraft, mae Cadw Cymru yn darparu llwyfan cyfarwydd a chyffrous i feithrin ymdeimlad dwfn o gynefin ac ymgysylltiad addysgol.
Mae Byd Minecraft Cadw Cymru ar gael yn Gymraeg am y tro cyntaf. Mae’n cynnwys pecyn adnoddau arloesol sy’n trawsnewid holl brofiad Minecraft Education yn antur mae’r defnyddiwr yn cael ei drochi’n llawn ynddi yn y Gymraeg.
Mae hyn yn sicrhau bod dysgwyr Cymraeg eu hiaith yn gallu llywio drwy’r gêm a’i harchwilio yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg.
Sut mae’n gweithio
Gall ymarferwyr lawrlwytho map Byd Minecraft Cadw Cymru a chanllaw i ymarferwyr Byd Minecraft Cadw Cymru o’r ardal ‘Adnoddau’ ar Hwb.
Gall dysgwyr fynd i mewn i fyd Cadw Cymru lle bydd Taliesin yn eu gwahodd ar daith. Yna byddant yn mynd i mewn i Galeri, sef y porth i safleoedd Cadw o amgylch Cymru.
Mae safleoedd rhithwir Cadw yn y rhaglen yn caniatáu i ddysgwyr archwilio a rhyngweithio wrth eu pwysau eu hunain. Mae pob safle yn cynnig ei daith rithwir ei hun, sydd yn addysgol ond hefyd yn hwyl. Gall dysgwyr deithio mewn amser i ddod o hyd i’r safleoedd hanesyddol hyn sydd wedi eu hailadeiladu yn Minecraft, gan wneud hanes yn fyw ac yn rhyngweithiol iddynt.
Bydd gan bob safle ei ganllaw ei hun i ymarferwyr sy’n trafod y teithiau rhithwir. Mae yna hefyd ganllawiau ategol ychwanegol ar gyfer yr ystod o weithgareddau dysgu ‘Cwest’.
Mae natur ryngweithiol Minecraft yn annog cydweithio ymhlith dysgwyr. Gallant weithio gyda’i gilydd i ddatrys posau hanesyddol, cymryd rhan mewn sefyllfaoedd chwarae rôl neu hyd yn oed fynd ati eu hunain i ail-greu’r safleoedd.
Cyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru
Mae Cadw Cymru yn ategu nodau’r Cwricwlwm i Gymru drwy hyrwyddo datblygiad ystod o sgiliau a chymwyseddau.
Trwy ddefnyddio Cadw Cymru, gall ymarferwyr feithrin sgiliau trawsgwricwlaidd, ac integreiddio llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol i wersi hanes. Mae’r rhaglen yn annog dysgu sy’n seiliedig ar ymchwil. Mae’r dull hwn yn cyd-fynd yn dda â phwyslais y cwricwlwm ar ddatblygu dysgwyr annibynnol sy’n gallu gwerthuso gwybodaeth yn feirniadol a gwneud penderfyniadau wedi eu seilio ar wybodaeth.
Taith gyntaf Cadw Cymru
Cadw Cymru yn cael ei lansio gyda chyflwyno ei safle cyntaf, Castell Conwy.
Nod y daith rithwir yw eich arwain chi a’ch dysgwyr drwy hanes cyfoethog, rhyfeddod pensaernïol ac arwyddocâd diwylliannol Castell Conwy.
Mae 6 cwest annibynnol yn gysylltiedig â Chastell Conwy. Fel yr ymarferydd, gallwch chi benderfynu pa gwest neu gwestau rydych chi’n mynd arnynt gyda’ch dysgwyr. Mae gan bob cwest ei ganllaw i ymarferwyr ategol ei hun.
Dyfodol Cadw Cymru
Bydd Cadw Cymru yn parhau i ehangu i gynnwys tua 20 o safleoedd Cadw.
Bydd y gyfres o safleoedd yn cael eu cyflwyno dros y flwyddyn nesaf, pob un yn canolbwyntio ar ardal hanesyddol wahanol yng Nghymru. Bydd pob safle yn rhoi cyd-destun hanesyddol ac yn annog meddwl beirniadol a chreadigrwydd trwy amryw o gwestau gafaelgar.