English

Sylwer, ar wahân i Immersive Reader, nid yw'r offer Microsoft hyn ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd.

Mae Reading Coach yn ffordd bersonol i ddysgwyr ymarfer darllen yn annibynnol yn seiliedig ar eiriau y maent wedi'u camynganu. Trwy ymgorffori Reading Coach yn y rhaglen Immersive Reader, gall dysgwyr ymarfer eu rhuglder a'u ynganiad.  

Mae Reading Coach ar gael yn Immersive Reader gan ddefnyddio:

  • Word for web
  • OneNote for web
  • OneNote Desktop 365
  • OneNote Mac
  • OneNote iPad
  • Minecraft: Education Edition
  • Teams Assignments

Gallwch werthuso perfformiad siarad cyhoeddus a rhoi adborth personol ar fanylion fel traw, defnyddio geiriau llenwi ac amseriad heb gynulleidfa gan ddefnyddio'r adnodd Speaker Coach. Mae'r adnodd dysgu hwn yn helpu dysgwyr i ymarfer siarad yn annibynnol gan gynnig hyfforddiant unigol. 

Mae Speaker Coach ar gael yn Microsoft PowerPoint ac mewn cyfarfodydd wedi'u trefnu yn Microsoft Teams for Education.

Gallwch olrhain sgiliau darllen eich dysgwyr a chanolbwyntio ar feysydd penodol i'w gwella gyda Reading Progress.

Mae Reading Progress yn adnodd rhad ac am ddim sydd wedi'i ymgorffori i Teams gyda'r bwriad o helpu i wella ac olrhain rhuglder darllen. Gall dysgwyr recordio eu hunain yn darllen ar gamera a chyflwyno’r recordiad i chi. Wrth i chi farcio a dychwelyd eu gwaith, caiff data eu casglu a'u trefnu'n awtomatig yn Insights.

Wrth greu aseiniad Reading Progress, gallwch ddewis lanlwytho eich cynnwys eich hun fel dogfen Word neu PDF, dewis o'r llyfrgell sampl neu gynhyrchu testun gan ddefnyddio AI (nodyn: yr iaith ddiofyn ar gyfer hyn yw Saesneg (UD)). 

Mae Speaker Progress yn adnodd rhad ac am ddim sydd wedi'i ymgorffori i Microsoft Teams. Gallwch ddefnyddio Speaker Progress i greu aseiniadau er mwyn i ddysgwyr ymarfer cyflwyno a chael hyfforddiant personol ar unwaith am eu cyflymder, traw, geiriau llenwi, ynganiad, iaith ailadroddus, defnyddio ymadroddion sensitif, cyswllt llygad ac iaith y corff. Gall dysgwyr gael adborth ar unwaith ar eu cryfderau a'u prif gyfleoedd i wella.