English


Drwy grantiau’r Cwricwlwm i Gymru, rydym yn ariannu ystod o brosiectau llythrennedd y gall ysgolion gael mynediad atynt i gefnogi darllen, ysgrifennu, llafaredd a dysgu proffesiynol. 

Manylion y prosiect

  • Mae Gornest Lyfrau/Bookslam yn gystadleuaeth flynyddol i ddysgwyr ym mlynyddoedd 3 i 8. Mae’n annog darllenwyr ifanc i ddarllen er pleser a thrafod y llyfrau maen nhw’n eu darllen. 

    Mae enillwyr y sir yn mynd ymlaen i’r rownd genedlaethol yn nhymor yr haf, lle byddant yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o heriau hwyliog a chreadigol, yn ogystal â sesiwn ag awdur. 

    Bydd ysgolion buddugol yn derbyn tlws ynghyd ag un o’r gwobrau canlynol:

    • Gwobr 1af: Gwerth £200 o lyfrau 
    • 2il wobr: Gwerth £150 o lyfrau 
    • 3ydd wobr: Gwerth £100 o lyfrau

    I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru, ewch i wefan Gornest Lyfrau Cyngor Llyfrau Cymru. 

  • Mae’r prosiect hwn yn cefnogi athrawon i feithrin cariad at ddarllen fel y gallant ysbrydoli dysgwyr. Bydd Cyngor Llyfrau Cymru yn cydweithio â Gwawr Maelor o Brifysgol Bangor ar y prosiect. Bydd hi’n rhannu ei harbenigedd a’i syniadau, ac yn cynnig strategaethau darllen i athrawon eu treialu yn yr ystafell ddosbarth. 

    • Bydd Cyngor Llyfrau Cymru yn sefydlu 3 grŵp darllen rhanbarthol ar gyfer athrawon.
    • Bydd y prosiect yn helpu athrawon i ddatblygu eu sgiliau a’u hyder ymhellach wrth drafod a mwynhau llenyddiaeth.
    • Bydd athrawon a’u dosbarth yn cael cyfle i ymuno â 3 sesiwn ar-lein gydag awduron.
    • Bydd pob ysgol sy’n cymryd rhan yn y sesiynau grŵp darllen yn derbyn pecyn o lyfrau wedi’u dethol yn ofalus.

    Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Cyngor Llyfrau Cymru.

  • Cynllun i annog plant i ddarllen a mwynhau gweithgareddau hwyliog yn eu llyfrgell leol trwy gydol gwyliau’r haf.

    Gall plant ddarllen ym mha bynnag fformat sy’n apelio, boed yn straeon, comics, nofelau graffig neu lyfrau llafar. Gall plant ennill gwobrau a derbyn tystysgrif ar ddiwedd y sialens. Gallant hefyd fwynhau’r boddhad o gyflawni rhywbeth dros y gwyliau.

    Mae modd cymryd rhan yn y Sialens yn rhad ac am ddim yn eich llyfrgell leol. Mae croeso i bob plentyn gymryd rhan. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn eich ysgol neu’ch llyfrgell leol.

  • Mae gan Gyngor Llyfrau Cymru nifer o awduron a darlunwyr talentog sy’n barod i gynnal ystod eang o weithdai. Nod y gweithdai yw tanio’r dychymyg ac ysbrydoli dysgwyr i ddarllen. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Cyngor Llyfrau Cymru.

  • Mae Diwrnod y Llyfr yn annog plant a phobl ifanc i ddatblygu cariad gydol oes at ddarllen trwy lyfrau, straeon a phrofiadau darllen cyffredin. 

    Trwy ddathlu llyfrau a darllen, mae Diwrnod y Llyfr yn ysbrydoli plant a’u teuluoedd i ystyried eu hunain yn ddarllenwyr ac i ddarllen gyda’i gilydd yn fwy rheolaidd. 

    Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn gweithio gyda Diwrnod y Llyfr i ddathlu llyfrau a darllen. Mae’n cynnig:

    • tocyn llyfr £1 i ddysgwyr ddewis eu llyfr eu hunain
    • ysbrydoliaeth, a syniadau ar sut i ddathlu darllen a chael hwyl gyda llyfrau
    • adnoddau dwyieithog i ysgolion eu lawrlwytho i ddathlu Diwrnod y Llyfr

    Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan Cyngor Llyfrau Cymru.

  • Mae’r Panel Pobl Ifanc yn cynnwys 10 o bobl ifanc rhwng 17 a 21 oed, o amrywiaeth o gefndiroedd a chymunedau. Mae aelodau’r panel yn cwrdd 3 gwaith y flwyddyn i rannu syniadau ac adborth ar ymgyrchoedd a gweithgareddau darllen. 

    Mae’r panel yn defnyddio eu gwybodaeth a’u profiad o arferion darllen i gyfrannu at waith yr Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen yng Nghyngor Llyfrau Cymru. Mae eu hadborth a’u syniadau yn llywio datblygiad gweithgareddau hyrwyddo darllen i bobl ifanc. 

    Mae’r panel hefyd yn helpu i greu rhestrau ac argymhellion darllen ar gyfer oedolion ifanc. Mae hyn yn sicrhau bod yr ymgyrchoedd a’r cynnwys yn cael eu siapio gan bobl ifanc ac yn adlewyrchu eu diddordebau, gan helpu i annog mwy o bobl ifanc i ddarllen.

    Cysylltwch â Chyngor Llyfrau Cymru i gael rhagor o wybodaeth.

  • Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn gweithio gyda RhAG i gyflwyno sesiynau hyrwyddo darllen misol i rieni ledled Cymru. Cynhelir y sesiynau ar Zoom ac mae grŵp WhatsApp yn helpu rhieni i gadw mewn cysylltiad a rhannu gwybodaeth rhwng cyfarfodydd. 

    Gall rhieni:

    • drafod budd darllen er pleser yn y cartref
    • rhannu a thrafod amrywiaeth o lyfrau
    • gofyn cwestiynau a rhannu cyngor

    Mae’r sesiynau yn hyrwyddo adnoddau sy’n cefnogi darllen yn y cartref ac yn helpu i nodi’r bylchau yn y ddarpariaeth. 

    O ganlyniad i hynny, mae rhieni wedi’u paratoi’n well i gefnogi sgiliau darllen ac addysg Gymraeg eu plant. Ac mae hyn yn helpu dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau darllen a meithrin hyder. 

  • Mae’r podlediad Sut i Ddarllen yn hyrwyddo darllen trwy gynnal sgyrsiau, trafod profiadau personol a rhannu argymhellion darllen.

    Francesca Sciarrillo sy’n cyflwyno’r podlediad. Mae pob pennod yn archwilio rôl darllen ym mywydau pobl, gan gynnwys y buddion, yr heriau a’r effaith. 

    Trwy sgyrsiau gyda phob math o westeion, mae’r podlediad yn rhannu profiadau, myfyrdodau ac argymhellion am lyfrau er mwyn annog mwy o bobl i fwynhau darllen.

  • Mae CAL:ON Cymru yn fenter llythrennedd dwyieithog genedlaethol dan arweiniad Prifysgol Bangor. Bydd y rhaglen yn cefnogi ysgolion ledled Cymru i wella dulliau o addysgu darllen ac ysgrifennu drwy:

    • ddysgu proffesiynol
    • canllawiau llythrennedd
    • rhaglenni iaith a llythrennedd
    • asesiadau digidol yn y Gymraeg a’r Saesneg

    Mae CAL:ON yn datblygu cyfres o adnoddau i helpu ysgolion i wella dulliau o addysgu darllen ac ysgrifennu. Mae’r adnoddau:

    • yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael am addysgu llythrennedd effeithiol
    • wedi’u cynllunio ar gyfer y cyd-destun addysg yng Nghymru
    • ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg

    Mae’r adnoddau yn cynnwys:

    • modiwlau dysgu ar-lein ar gyfer ymarferwyr ac arweinwyr ysgolion
    • llawlyfrau ymarferwyr
    • gweithdai a sesiynau cymorth

    Bydd adnoddau a hyfforddiant gwahanol ar gael i ymarferwyr mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Bydd CAL:ON yn gwerthuso’r adnoddau gydag ysgolion yn ystod y flwyddyn academaidd 2026 i 2027, cyn eu mireinio ar gyfer eu darparu’n ehangach i Gymru gyfan.

    Mae CAL:ON hefyd yn datblygu canllawiau llythrennedd cenedlaethol dwyieithog. Bydd hyn yn cefnogi ymarferwyr, arweinwyr ysgolion, ac awdurdodau lleol mewn 4 o feysydd dysgu ac addysgu llythrennedd:

    1. Ffoneg 
    2. Dulliau ysgol gyfan o ymdrin â llythrennedd 
    3. Ysgrifennu 
    4. Asesu 

    Mae ymchwilwyr ac ymarferwyr yn datblygu’r canllawiau hyn ar y cyd. Bydd y canllawiau yn:

    • gyson â’r Cwricwlwm i Gymru
    • adlewyrchu anghenion ysgolion yng Nghymru

    Bydd yr holl adnoddau ar gael ym mis Medi 2026.

    Mae CAL:ON yn gweithio gyda darparwyr AGA ledled Cymru i gryfhau hyfforddiant mewn darllen, ysgrifennu, iaith ac asesu.
    Bydd y gwaith hwn yn helpu ymarferwyr newydd i ddatblygu dealltwriaeth gref o ddulliau addysgu llythrennedd sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Bydd yn meithrin arbenigedd llythrennedd ar draws y system addysg yng Nghymru. 

    Bydd CAL:ON yn dechrau treialu rhaglenni iaith a llythrennedd mewn ysgolion yng Nghymru o fis Medi 2026.

    Mae’r rhaglen yn cefnogi dysgwyr ar wahanol gamau addysgol ac yn canolbwyntio ar feysydd fel:

    • datblygiad iaith
    • ffoneg a dadgodio
    • geirfa
    • rhuglder darllen
    • deall wrth ddarllen

    Y rhaglenni sy’n cael eu treialu ar hyn o bryd yw:

    • Rhaglen Dosbarth Cyfan OxEd
    • Rhaglen Dosbarth Cyfan RILL 
    • Ymyrraeth Grwpiau Bach RILL
    • Darllen i Ddysgu

    Mae rhagor o wybodaeth am bob rhaglen ar gael ar wefan CAL:ON.

    Cynhelir y treialon ar yr un pryd er mwyn mesur effeithiolrwydd pob rhaglen. Bydd y canlyniadau yn helpu i wella’r rhaglenni cyn iddynt gael eu cynnig ledled Cymru yn 2027. 

    Mae CAL:ON yn darparu 2 asesiad digidol y gall ysgolion eu defnyddio am ddim ar hyn o bryd:

    LanguageScreen

    • Mae LanguageScreen yn asesu sgiliau iaith llafar, gan gynnwys geirfa a deall wrth wrando.
    • Mae ar gael yn Gymraeg a Saesneg ar gyfer dysgwyr rhwng 3 a 15 oed.
    • Gall ysgolion roi cynnig ar ffug asesiad

    ReadingScreen 

    • Mae ReadingScreen yn asesu cywirdeb a rhuglder darllen.
    • Mae ar gael ar gyfer dysgwyr rhwng 4.5 a 15 oed.
    • Darperir canlyniadau asesu drwy adroddiadau awtomataidd a dangosfyrddau, gan helpu ysgolion i nodi angen, monitro cynnydd, a gwerthuso effaith addysgu ac ymyriadau.
    • Gall ysgolion roi cynnig ar ffug asesiad. 

    Cael mynediad at asesiadau

    Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio’r asesiadau hyn, cwblhewch y ffurflen mynegi diddordeb. Bydd OxEd yn creu eich cyfrif ysgol ac yn anfon cyfarwyddiadau mewngofnodi at berchnogion a gweinyddwyr y cyfrif.

    Gall ysgolion ddefnyddio’r adroddiad o LanguageScreen a ReadingScreen i: 

    • adnabod dysgwyr a allai fod angen cymorth ychwanegol arnynt yn gynnar
    • gwerthuso effaith dulliau ac ymyriadau addysgu

    Os oes gennych ddiddordeb mewn cael mynediad at unrhyw rai o’n hadnoddau a chymryd rhan yn y treial ym mis Medi 2026, cysylltwch â calonysgol@bangor.ac.uk

  • Mae’r prosiect Mentora ITM (Mentora Amlieithog) yn hyrwyddo amlieithrwydd mewn ysgolion ledled Cymru er mwyn:

    • helpu i fynd i’r afael â’r nifer isel o ddysgwyr sy’n astudio ieithoedd rhyngwladol ar lefel TGAU
    • cefnogi’r dull addysgu a dysgu amlieithog a hyrwyddir gan y Cwricwlwm i Gymru.

    Mae gan y prosiect 2 ffrwd gweithgarwch.

    Mentora

    • Mae myfyrwyr o 9 prifysgol yng Nghymru yn gweithio gydag ysgolion uwchradd ledled Cymru.
    • Mae myfyrwyr yn cyflwyno gweithdai a sesiynau mentora gafaelgar i ddysgwyr ym Mlynyddoedd 7 i 9. 
    • Mae’r sesiynau’n canolbwyntio ar archwilio ieithoedd a diwylliannau ar y cyd yn hytrach na dysgu gramadeg neu eirfa.
    • Mae’r sesiynau yn helpu dysgwyr i ddeall sut y gall ieithoedd gefnogi eu haddysg, eu gyrfaoedd a’u cyfleoedd yn y dyfodol.

    Adnoddau addysgu a dysgu

    • Mae’r prosiect hwn yn darparu adnoddau dysgu ac addysgu dwyieithog ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru.
    • Mae’r adnoddau yn helpu ysgolion i ddatblygu eu harferion amlieithog i helpu i gyflwyno’r Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu.
    • Mae dysgu ieithoedd rhyngwladol yn helpu dysgwyr i ddatblygu sgiliau llythrennedd, sgiliau creadigol a sgiliau eraill sy’n cefnogi Pedwar Diben y Cwricwlwm i Gymru.
    • Mae’r prosiect yn helpu i baratoi dysgwyr ar gyfer bywyd a gwaith mewn cymdeithas fyd-eang.

    Cymryd rhan yn y prosiect mentora

    Gall ysgolion gofrestru eu diddordeb mewn cymryd rhan yn y prosiect mentora.

  • Mae ‘Llenyddiaeth yn tanio’r dychymyg’ yn rhaglen dysgu proffesiynol ar gyfer athrawon ieithoedd rhyngwladol yng Nghymru. Dan arweiniad Ymddiriedolaeth Stephen Spender, mae’r prosiect yn helpu ymarferwyr cynradd ac uwchradd i ddefnyddio llenyddiaeth a gweithgareddau cyfieithu creadigol mewn gwersi ieithoedd. 

    Mae’r rhaglen yn cynnig:

    • dysgu proffesiynol ar gyfer ymarferwyr ieithoedd rhyngwladol cynradd ac uwchradd
    • dulliau cyfieithu creadigol ymarferol y gellir eu defnyddio yn yr ystafell ddosbarth
    • offer ac adnoddau ar gyfer addysgu ieithoedd yn y Gymraeg a’r Saesneg
    • mynediad at rwydwaith cefnogaeth gan gymheiriaid ar gyfer ymarferwyr ieithoedd rhyngwladol ledled Cymru

    Mae cyrsiau proffesiynol yn cael eu cyflwyno ar-lein mewn tair sesiwn 90 munud ar ôl ysgol. Yn y sesiynau, mae ymarferwyr yn cael cyfle i archwilio sut y gall llenyddiaeth ryngwladol a chyfieithu ennyn diddordeb dysgwyr a chefnogi dysgu ieithoedd.

    Mae rhagor o wybodaeth am y prosiect ar gael ar wefan Ymddiriedolaeth Stephen Spender.

    Mae pob cwrs yn rhad ac am ddim. Gallwch wneud cais drwy ein ffurflen gais

    Bydd yr holl adnoddau a ddatblygwyd drwy’r prosiect ar gael ar Hwb.

  • Mae rhaglen Ein Llais Ni yn rhoi llafaredd yn y Gymraeg (siarad a gwrando) wrth wraidd cwricwlwm yr ysgol.

    Mae’r rhaglen yn cefnogi ymarferwyr i:

    • gynllunio gweithgareddau siarad a gwrando ystyrlon
    • meithrin hyder dysgwyr wrth drafod a rhoi cyflwyniadau
    • defnyddio dulliau addysgu llafaredd effeithiol ar draws y cwricwlwm a datblygu siaradwyr dwyieithog y dyfodol
    • gwella cynnydd mewn safonau siarad a gwrando ar draws y cwricwlwm

    Gall ymarferwyr ac arweinwyr ysgolion gael mynediad at adnoddau a chymorth drwy wefan Ein Llais Ni.

    Mae amrywiaeth o sesiynau dysgu proffesiynol ar gael ar gyfer ysgolion cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. Mae Ein Llais Ni hefyd wrthi’n datblygu sesiynau ar gyfer ysgolion cyfrwng Saesneg.

    Rhaglen CYDAG 3 diwrnod 

    • Ar gael yn y Gogledd a’r De.
    • Cyfle i ymarferwyr dderbyn hyfforddiant, treialu dulliau yn eu hystafell ddosbarth, a rhannu cynnydd a’r hyn a ddysgwyd.

    Rhaglen Cefnogaeth Clwstwr

    • Cyfle i ysgolion cynradd ac uwchradd weithio gyda’i gilydd dros 2 neu 3 tymor.
    • Mae’r ysgolion yn derbyn hyfforddiant ac yn rhannu eu taith ddatblygu.

    Cymorth wedi’i deilwra i ysgolion

    • Gweithdai a chymorth wedi’u teilwra ar gyfer ysgolion unigol neu grwpiau o ymarferwyr.
    • Datblygir y cymorth gydag ysgolion, awdurdodau lleol a phartneriaid Cymraeg.

    Tudalen we Dysgu Proffesiynol

    Fideo yn cyflwyno’r rhaglen

  • Mae E-sgol yn darparu gwersi ar-lein byw mewn Ffrangeg, Sbaeneg ac Almaeneg ar gyfer ysgolion ledled Cymru. 

    Mae’r sesiynau wedi’u cynllunio ar gyfer dysgwyr rhwng 7 ac 11 oed, ond maent ar gael i ddysgwyr o bob oed.

    Gall ysgolion ymuno’n fyw â’r gwersi ar yr amser a drefnwyd neu wylio recordiad o’r sesiynau wedyn. 

    Mae’r sesiynau’n para 30 i 40 munud ac yn cynnwys cyfle i’ch dosbarth gymryd rhan yn rhyngweithiol. Byddwch yn barod i gymryd rhan yn gorfforol, ar lafar a chan ddefnyddio’ch dyfeisiau clyfar.

    Ni fydd camerâu a meicroffonau yn cael eu defnyddio yn ystod y sesiynau. Bydd cyfle i ofyn cwestiynau trwy’r nodwedd sgwrsio.

    Caiff pob sesiwn ei recordio a’i hychwanegu at ein sianel YouTube rhag ofn na allwch fynychu sesiwn yn fyw.

    Cofrestrwch drwy ein gwefan neu cysylltwch â huw.davies@e-sgol.cymru.

    Almaeneg
    Ffrangeg
    Sbaeneg