Llinell amser 10 mlynedd Hwb
Rydyn ni wedi edrych yn ôl ar y degawd diwethaf, gan ddathlu sut mae Hwb wedi esblygu a datblygu ers cael ei lansio.
2012
-
Cyhoeddi adroddiad ‘Adolygiad o ddysgu digidol: canfod, gwneud, defnyddio, rhannu’. report.
-
Lansio Hwb+, wedi'i bweru gan Microsoft, ar 12 Rhagfyr 2012.
2013
-
Just2easy ac Encyclopaedia Britannica yn ymuno â Hwb.
-
Offeryn 360 safe Cymru wedi’i ddatblygu i gefnogi ysgolion gyda diogelwch ar-lein.
2014
-
Lansio’r ystorfa ddysgu ddigidol genedlaethol gan ddarparu ystod o adnoddau dysgu ac addysgu dwyieithog i athrawon.
-
Mae ysgolion bellach yn gallu creu gwefan gyhoeddus eu hunain.
2015
Lansio’r parth dysgu creadigol mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru.
2016
-
Lansio Parthau Hwb i gefnogi diogelwch ar-lein, dysgu Cyfnod Sylfaen a’r rhwydweithiau cenedlaethol ar gyfer rhagoriaeth mewn mathemateg a gwyddoniaeth a thechnoleg.
-
Cyflwyno cymuned Hwb, gan ddarparu cyfleoedd cydweithredol i athrawon yng Nghymru.
2017
-
Ar Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, lansio’r parth diogelwch ar-lein newydd gan ddarparu canllawiau cynhwysfawr, adnoddau a hyfforddiant i gefnogi ysgolion i gadw’n ddiogel ar-lein.
-
Cyflwyno profiad mwy personol i ddefnyddwyr Hwb, gan eu galluogi i deilwra cynnwys a thanysgrifiadau.
2018
-
Asesiadau darllen a rhifedd sydd ar gael trwy Hwb, yn cymryd lle’r profion darllen a rhifedd cenedlaethol papur.
-
Yn dilyn cau Dysgu Cymru, daw Hwb yn gartref i’r cwricwlwm a’r pwynt canolog ar gyfer addysg yng Nghymru.
-
Mae partneriaeth newydd gyda Google yn golygu bod G Suite for Education ar gael trwy Hwb.
-
Eich cyfrif Hwb yn cynnig mynediad i ystod o wasanaethau addysg ar-lein trwy fewngofnodi sengl (SSO).
2019
-
Cymru yw’r wlad gyntaf yn y byd i ariannu meddalwedd ystafell ddosbarth Microsoft ar gyfer pob ysgol a gynhelir, gan roi mynediad i ddefnyddwyr Hwb i Microsoft Office 365 ProPlus ar hyd at bum dyfais bersonol.
-
Minecraft: Education Edition yw'r ychwanegiad diweddaraf i Hwb.
-
Croesawu maes newydd sbon i gefnogi lansio Cwricwlwm i Gymru.
2020
-
Creu’r adran dysgu cyfunol i gefnogi parhad dysgu gartref yn ystod pandemig y coronafeirws.
-
Carreg filltir newydd i blatfform Hwb gyda 10.6 miliwn o ymweliadau â’i dudalennau ym mis Mawrth 2020, sy’n gynnydd enfawr o’r cyfartaledd misol blaenorol.
-
Cyflwyno'r adran adnoddau newydd a newid enw’r parth diogelwch ar-lein i cadw'n ddiogel ar-lein..
-
Caniatáu i ddefnyddwyr gael mynediad i Adobe Creative Cloud Express trwy Hwb diolch i’r bartneriaeth swyddogol gydag Adobe
-
Lansio 360 digi Cymru i helpu ysgolion i werthuso a chynllunio eu dysgu digidol.
-
Cyflwyno’r ymgyrch ‘Arwyr Hwb’ sy’n arwain at blant a phobl ifanc yn rhannu miloedd o negeseuon gyda phobl hŷn a phobl fwy agored i niwed yn ystod pandemig y coronafeirws.
2021
Hwb yw aelod cyntaf unrhyw lywodraeth o’r Internet Watch Foundation, gan gryfhau platfform Hwb ymhellach a dangos ein hymrwymiad i roi terfyn ar gam-drin plant.
2022
Mae Hwb wedi bod ar-lein yn swyddogol ers 10 mlynedd! Mae'n parhau i dyfu a chynnig offer a gwasanaethau newydd i'w 500,000 o ddefnyddwyr.
Cyflwyno proses ddilysu aml-ffactor i gadw Hwb a'i ddefnyddwyr yn ddiogel.